A blurred image of a night scene with colorful lights and bokeh effect, depicting an outdoor event or festival
8 Gorff 2025

Gydag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn prysur agosáu, mae holl weithgareddau’r ŵyl wedi’u cyhoeddi ar-lein, gyda gwybodaeth am dros 1,000 o weithgareddau unigol

Ac mae’r rhaglen eleni’n cynnwys llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda’r nos, gyda rhywbeth i blesio pawb.  Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ar hyd a lled y Maes gyda’r nos, a gallaf eich sicrhau bod rhywbeth i bawb yn ein rhaglen eleni.

“Enw ein cyngerdd mawr eleni yw ‘Y Stand’, sioe newydd sbon gan Manon Steffan Ros ac Osian Huw Williams (Candelas), sy’n ein cyflwyno ni i grwp o bobl sy'n digwydd eistedd wrth ymyl ei gilydd yn y stand pêl-droed yn ystod gemau cartref. Dyma gyngerdd côr yr Eisteddfod eleni, ac mae dau gyfle i weld y sioe – nos Sadwrn 2 Awst a nos Lun 4 Awst am 19:30.

“Nos Sul, cynhelir y Gymanfa Ganu, sy’n rhan eiconig o ŵyl yr Eisteddfod ers dros ganrif.  Y Parch. Aled Lewis Evans sy’n gyfrifol am rannau arweiniol y noson, sydd hefyd yn gyfle i ni groesawu arweinydd Cymru a’r Byd, Maxine Hughes o Washington DC i lwyfan y Pafiliwn.

“Rydyn ni’n ymwybodol fod talu am docyn cyngerdd ar ben tocyn i’r Maes yn gallu bod yn anodd, ac felly mae llawer iawn mwy o ddewis o weithgareddau rhad ac am ddim gyda’r nos eleni, ac yn cwmpasu pob genre diwylliannol a chelfyddydol. 

“Wrth gwrs, mae nifer fawr o lwyfannau’n cynnig gweithgareddau gyda’r hwyr, gan gynnwys dwy ardal newydd ar gyfer eleni.  Mae Y Stiwdio’n gartref i ragbrofion yn ystod y dydd, ac yna’n troi’n neuadd agos-atoch gyda’r hwyr,. Gyda rhaglen ddifyr o weithgareddau. Mae’r gofod aml-bwrpas yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd yn gartref i nifer o’n perfformiadau theatrig yn ystod yr wythnos, ac mae’r Cwt Cabaret hefyd yn dychwelyd eleni.

“Gobeithio y bydd pawb yn cael blas o’r arlwy – ac mae popeth ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan ni erbyn hyn, a’r rhaglen swyddogol gyda llond lle o erthyglau nodwedd difyr, sydd ar gael i’w brynu mewn siopau ar hyd a lled Cymru.” 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.  

Rhai o uchafbwyntiau’r rhaglen nos 

Nos Sadwrn 2 Awst 

Dilyn Guto’r Glyn a’r Glêr: Y Babell Lên, 19:00
Guto'r Glyn – bardd, milwr, porthmon, a thynnwr coes heb ei ail! Dros 600 mlynedd yn ddiweddarach dewch i wylio Twm Morys, Mei Mac, Llio Maddocks, Karen Owen, Eurig Salisbury, Gruffudd Antur ac eraill yn gwneud hwyl am ben ei gilydd a dysgu mwy am un o feirdd mawr bro'r Eisteddfod

Tri o’r Fro: Cofio Caradog Roberts, GW Hughes a Meirion Morris: Encore, 19:30
Orig yng nghwmni Trystan Lewis wrth iddo olrhain hanes tri cherddor o ardal Rhos: Dr Caradog Roberts, GW Hughes Cefn Mawr, a’r bariton, Meirion Morris. Bydd cyflwyniadau o waith y ddau gyfansoddwr a chyfle i glywed llais Meirion Morris

Y Stand: Y Pafiliwn, 19:30 (nos Sadwrn a nos Lun)
Sioe newydd sbon gan Manon Steffan Ros ac Osian Huw Williams, sy’n ein cyflwyno ni i griw sy’n eistedd gyda’i gilydd i wylio’r pêl-droed yn ‘Y Stand’. Gyda Dyfed Thomas a Cadi Glwys yn brif gymeriadau’r sioe, cawn gyfle i ddod i'w hadnabod a dysgu mwy am eu bywydau mewn sioe hyfryd sy'n llawn caneuon canadwy. Tocynnau ar gael o eisteddfod.cymru.

Diffiniad: Llwyfan y Maes, 21:00
Weithiau, a dim ond weithiau, mae'r band eiconig yma'n cael eu temtio allan i chwarae! Maent yn ei disgrifio'n fraint ac anrhydedd cael dychwelyd i fro eu mebyd i agor Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Arloesol a dylanwadol, ac yn sgwennu eu sgript eu hunain ers degawdau. Vive le Punk! Byddwch yno!

 

Nos Sul 3 Awst 

Cyrn, sombïaid a Diego Maradona: Caneuon pêl-droed y Cymry: Encore, 19:30
Ymunwch â phanel o selogion y Wal Goch mewn sgwrs gyda Mei Emrys gyda pherfformiadau o rai o'u caneuon adnabyddus gan Owain Gruffudd Roberts a Band Pres Llareggub

Gala gomedi: Y Babell Lên, 19:30 
Tudur Owen sy'n cloi'r Gala Gomedi, yn cyflwyno Mel Owen, Siôn Owens a Beth Jones gyda Dan Thomas yn arwain

VRï: Tŷ Gwerin, 21:00
Mae VRï yn taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog Cymru wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth a dawns a gafodd eu tawelu gan y capeli, fel yr iaith, cyn hynny, gan y Ddeddf Uno. Mae'r band yn harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, a phrydferthwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn mewn tafarn, gyda harmonïau lleisiol pwerus yn sail i’r cyfan

Fleur de Lys: Llwyfan y Maes, 21:00
Rhyddhawyd albwm diweddaraf Fleur de Lys, ‘Fory ar ôl Heddiw’ yn 2023 yn dilyn llwyddiant eu record hir gyntaf ‘O mi awn ni am dro’ yn 2019, ac erbyn hyn maen nhw'n un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru

 

Nos Lun 4 Awst 

Cwmni Ben Set: Eiliad o Ddewiniaeth: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 17:00 (nos Lun - Mawrth)
Darlleniad o ddrama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 'Eiliad o Ddewiniaeth' gan Cai Evans, gyda Manon Wilkinson, Ianto Williams a Cedron Siôn. Cyfarwyddwyd gan Morfudd Hughes a Cefin Roberts. Drama ddwys/ddigri yw 'Eiliad o Ddewiniaeth' am fachgen bach sy'n cael ei hun ar y cyrion unig yn feunyddiol

Cabarela: Merched y Waw!: Cwt Cabaret, 19:00 (nos Lun - Gwener)
Yn 2026, mae Strumpan wedi llwyddo i ormesu holl ferched Cymru a’u caethiwo yn Wyrcws y Wain. Eu hunig bwrpas? Mynd ar eu gliniau i brintio posteri propaganda’r unben i’w gwasgaru dros Gymru gyfan. Does dim hawliau, dim gobaith a dim pleser… nes i Cabarela danio chwyldro gyda help ‘huns’ y gorffennol…

Les Mis yn 40 oed: Encore, 19:30
Noson i ddathlu pen-blwydd y sioe gerdd eiconig 'Les Misérables' yn 40 oed dan ofal Steffan Hughes. Bydd Stifyn Parri, Luke McCall a Mared Williams yn trafod a rhannu'u profiadau o weithio ar y sioe yn y West End

Noson Nwy yn y Nen: Cofio Dewi Pws, Llwyfan y Maes, 21:00
Band Tŷ Potas gyda Pedair, Elidir Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, Cleif Harpwood, Hefin Elis a mwy, yn perfformio rhai o glasuron Dewi Pws, mewn noson arbennig i gofio’r cerddor a’r cyfansoddwr a fu farw y llynedd.

 

Nos Fawrth 5 Awst 

Theatr Cymru a Theatr Clwyd: Wrecslam!: Caffi Maes B, 18:00 (nos Lun - Iau)
Pedair drama fer newydd wedi'u gwreiddio yng ngogledd ddwyrain Cymru. Yn dilyn llwyddiant 'Rŵan/Nawr' yn 2023 a 'Ha/Ha' yn 2024, dyma barhau partneriaeth Theatr Cymru a Theatr Clwyd i ddatblygu a chynhyrchu dramâu ysgafn byrion Cymraeg

Rhapsodïau’r Enfys: Y Stiwdio, 19:30
Elgan Llŷr Thomas sy'n cyflwyno noson yn dathlu cyfraniadau cerddorol cyfansoddwyr cwiar drwy'r cenedlaethau, gyda gwaith gan Novello, Tchaikovsky, Smythe, Barber, Bernstein, Schubert, Britten, Saint-Saëns a mwy

Trafferth mewn Tafarn: Caffi Maes B, 20:00
Darlleniad cyntaf o ddwy ddrama gomedi mewn datblygiad sef 'GGGOC' a 'Parti Plu Mrs T To Be', gan Caryl Burke a Mari Elen, Elliw Dafydd a Naomi Seren

Mared Williams: Tŷ Gwerin, 21:00
Gyda band llawn, bydd Mared yn rhoi ei stamp ei hun ar alawon gwerin adnabyddus, gyda chymysgedd egnïol a theimladwy o jazz, gwerin a cherddoriaeth sinematig yn ei pherfformiad cyntaf yn y Tŷ Gwerin

 

Nos Fercher 6 Awst 

Theatr Bara Caws: Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 17:00 (nos Fercher - Gwener)
Mae’r presennol a’i bosibiliadau o ddifyrrwch yn gwibio heibio i’r ddau brif gymeriad, Hudson a Tegid, heb iddyn nhw sylweddoli – tan ei bod hi’n rhy hwyr. Mae’r ddau'n gyfeillion agos ers dyddiau Aber ddiwedd y 70au, ac maen nhw wedi treulio pob Eisteddfod Genedlaethol (ar wahân i un) ers eu dyddiau coleg, efo’i gilydd. Comedi (2 actor/sawl cymeriad) am werthfawrogi’r rŵan hyn yn hytrach na byw bywyd yn hiraethu am y gorffennol neu gynllunio at ddigwyddiadau’r dyfodol

Myfanwy 150: Encore, 19:30
Paham mae'r gân 'Myfanwy' mor boblogaidd? Alwyn Humphreys sy'n olrhain hanes cyfansoddi cân enwog Joseph Parry sy'n dathlu'r 150 eleni, gyda pherfformiadau byw

Cowbois Rhos Botwnnog: Tŷ Gwerin, 19:45
Cymysgedd o gerddoriaeth werin, gwlad a roc gan y tri brawd, Iwan, Aled a Dafydd Hughes, ynghyd â cherddorion eraill. Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024. Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn cyfuno dylanwadau o’r byd gwlad, gwerin a roc

Theatr Fach Llangefni: Stamp: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 20:00 (nos Fawrth - Mercher)
Hanes bywyd Noel Thomas y cyn-bostfeistr o Ynys Môn a garcharwyd ar gam. Brwydrodd Noel Thomas yn ddygn dros nifer o flynyddoedd i adennill ei enw da ac i weld cyfiawnder er gwaethaf holl bŵer y Swyddfa Bost

Cofio Geraint Jarman: Y Babell Lên, 21:30
Dathliad o gyfraniad Geraint Jarman dan olau cannwyll, gyda cherddorion a beirdd yn dod at ei gilydd i gofio un o eiconau Cymru. Geraint Jarman oedd un o leisiau mwyaf beiddgar a blaengar y diwylliant Cymraeg; bardd, cerddor ac arloeswr a drawsnewidiodd sŵn a safbwynt cenhedlaeth

 

Nos Iau 7 Awst 

Lansiad Stafell Sbâr Sain Tŷ Gwerin: Tŷ Gwerin, 19:45
The Gentle Good, Elin a Carys ac Irfan Rais yn perfformio i ddathlu rhyddhau albwm gwerin newydd aml-gyfrannog ar label Sain, wedi'i guradu gan Tŷ Gwerin

‘Steddfod Stifyn: Cwt Cabaret, 21:00
Cabaret hwyr ar ffurf Eisteddfod 'tafod yn y boch' sy'n gystadleuaeth rhwng enwogion Cymru. Dewch i ddarganfod pwy!

Gwibdaith Hen Frân: Tŷ Gwerin, 21:00
Ugain mlynedd ers eu gig gyntaf, mae'r band gwreiddiol yn ôl efo'i gilydd am noson i'w chofio yn y Tŷ Gwerin

Adwaith: Llwyfan y Maes, 21:00
Triawd arloesol o Gaerfyrddin sy’n adnabyddus am eu cyfuniad unigryw o ôl-bync, pop amgen ac indi arbrofol. Maent yn llais blaengar ym myd cerddoriaeth amgen sy'n hyrwyddo’r Gymraeg ar lwyfannau rhyngwladol

 

Nos Wener 8 Awst 

Hetiau bwced, bonets a bonco bingo: Tŷ Gwerin, 18:15
Noson lawen anarferol iawn yng nghwmni'r ddau frawd, Geraint a Hywel Løvgreen, a Dawnswyr Delyn gyda'r gynulleidfa mewn hetiau bwced yn chwarae bingo wrth wrando ar straeon pêl-droed a mwynhau dawnsio gwerin gwyllt!

Tŷ Cerdd: Tuag Opera: Y Stiwdio, 19:00
Chwech o grewyr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa a chwe awdur ar ddechrau eu gyrfa sy’n archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd – gyda chefnogaeth ac arweiniad gan y cyfarwyddwr cerdd Iwan Teifion Davies, yr awdur Gwyneth Glyn a Michael McCarthy o Music Theatre Wales

Anweledig: Llwyfan y Maes, 21:00
Waio! Waio! Ydyn, mae'r hogiau'n ôl! Anweledig yw'r enw, ond maen nhw'n weladwy a chlywadwy iawn ar y llwyfan gyda thros 10 aelod, caneuon bachog ac awyrgylch fywiog. Be well i orffen nos Wener ar lwyfan Maes y Steddfod na sŵn roc, ffwnc a reggae ucheldiroedd Cymru. Peidiwch â'u methu!

Bandioci Gwerin: Tŷ Gwerin, 22:15
Bydd Gwilym Bowen Rhys, Gethin Griffiths a chyfeillion eraill yn cyfeilio i chi wrth i chi ganu carioci gwerin Cymraeg! Dewch yn llu a chyda chân!

Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas: Y Babell Lên, 22:15 
Mei Gwynedd a'i fand sy'n rhoi stamp unigryw ar ganeuon traddodiadol Cymraeg gan ddod ag awyrgylch parti i'r Cwt Cabaret

 

Nos Sadwrn 9 Awst 

Tafodiaith yn y boch: Y Babell Lên, 18:00
Stifyn Parri sy'n ceisio cadw trefn ar dri phanel sy'n brwydro dros eu tafodiaith, gyda'r Doctor Cymraeg i’n haddysgu a’n hysbrydoli. Dyfed Thomas a Bethan Jones o'r Rhos yn erbyn Siân James ac Arwyn Groe o Bowys, ac Iwan John a Mari Grug o Sir Benfro

Epilog: Pafiliwn, 19:30
Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, rhyw un gair bach olaf o berfformiad yw 'Epilog' – un eiliad estynedig ar y trothwy hwnnw lle mae ffarwelio ag un Steddfod hefyd yn edrych ymlaen at y Steddfod nesaf. Gan blethu caneuon adnabyddus â chaneuon newydd sbon, mae 'Epilog' gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood yn cloi gweithgareddau llwyfan yr Eisteddfod eleni

Bwncath: Llwyfan y Maes – 21:00 
Bwncath yw un o fandiau mwyaf poblogaidd a phrysuraf Cymru, gyda'u perfformiadau byw a'u caneuon bachog, a cherddoriaeth sy'n cyfuno traddodiad a chreadigrwydd modern 

Wythnos yn Wrecsam Fydd: Ardal Llwyfan y Maes, 22:30
Digwyddiad dramatig a lliwgar sy’n torri ffiniau a dathlu cynwysoldeb, gan gymryd ysbrydoliaeth o’r nofel ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn spectacl uchelgeisiol a dyfeisgar