21 Gorff 2025

Bydd perfformio yn sioe gerdd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn brofiad emosiynol iawn i’r actores a cherddor ifanc, Cadi Glwys

Person with long, wavy hair standing outdoors in front of lush greenery and red flowers, wearing a white shirt and a necklace with a small pendant

Mae’r sioe, Y Stand, yn sôn am bêl-droed, am ennill a cholli, ac am y cysylltiad arbennig sy’n deillio o gefnogi tîm. Bydd yn cael ei pherfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod.

I Cadi, sy’n chwarae rhan y ferch ifanc, Grace sy’n breuddwydio am chwarae pêl-droed, mae’r cysylltiad rhwng y gêm a chlwb pêl-droed Wrecsam yn un personol iawn. 

Mae hi’n wyres i’r gôl-geidwad Dai Davies, a chwaraeodd i Wrecsam a Chymru yn y 1970au. Roedd yn aelod o Orsedd Cymru ac yn sylwebydd craff ar y teledu a’r radio wedi ymddeol o’r gêm. Bu farw bedair blynedd yn ôl yn 72 oed.

Wrth gymryd hoe o ymarferion y sioe, dywedodd Cadi, “Bydd bod ar y llwyfan yn brofiad emosiynol iawn. Byddai wedi bod wrth ei fodd yn fy ngweld yn cymryd rhan yn y sioe yma.

“Roedd yn meddwl y byd o’i deulu ac yn gefnogol dros ben. Pan oedd yn sylwebu ar y teledu, roedd bob amser yn cyffwrdd ei glust – dyna oedd ei ffordd o ddweud ‘helo’ wrthym ni.

“Roedd yn falch iawn o fod yn aelod o’r Orsedd, er nad oedd yn mynychu’r seremonïau yn aml. Ond yn Eisteddfod Maldwyn 2015, roeddwn i yn y Ddawns Flodau ac fe ddaeth i Feifod i fod yn yr Orsedd tra oeddwn i’n cymryd rhan.

“Ychydig cyn iddo ein gadael, rhoddodd lyfr i mi ac ysgrifennodd ynddo y dylwn fwynhau pob perfformiad – a dyna’n union rwy’n gobeithio ei wneud.”

Two people standing together; one in the background wearing a green Gorsedd robe and head-dress, with hands resting on the shoulders of the person in front, who is wearing a teal dress and a colourful flower crown

Ysgrifennwyd Y Stand gan Manon Steffan Ros, gyda chaneuon gan Osian Huw Williams. Mae’n talu teyrnged i dreftadaeth gerddoriaeth roc gyfoethog yr ardal, gan dynnu ar ddylanwadau o’r alawon angerddol sy’n cael eu canu o’r Capel i’r Kop.

Dywedodd y cyfarwyddwr, Siwan Llynor, fod y sioe’n dilyn cyfnod anodd i glwb pêl-droed Wrecsam ar ddechrau’r ganrif hon, “Ond mae’r stori hefyd yn archwilio’r berthynas agos rhwng y gymuned yn ardal Wrecsam, drwy lygaid pedwar o gefnogwyr sy’n eistedd wrth ymyl ei gilydd.

“Collodd Wrecsam eu lle yng Nghynghrair Lloegr yn 2008 oherwydd trafferthion ariannol, ac mae’r stori’n olrhain eu hymdrechion i ddychwelyd. Mae’n dangos bod ennill a cholli’n bwysig – ond bod pobl yn bwysicach.”

Yn ogystal â chast proffesiynol, bydd Côr yr Eisteddfod – dan arweiniad Pete Davies, Elen Mair Roberts ac Aled Phillips – yn chwarae rhan y dorf o gefnogwyr sy’n gwylio’r gêm.

Fel rhan o Y Stand, bydd Cadi’n arddangos ei sgiliau pêl-droed ar y llwyfan, “Ro’n i’n chwarae pêl-droed yn Ysgol Llanfyllin, ond daeth y pandemig a stopiodd bopeth – wnaeth y tîm ddim ailgychwyn. Rydw i wedi bod yn ymarfer fy sgiliau ar gyfer y sioe, ac rwy’n falch bod Dyfed Thomas yn y cast. Mae Dyfed yn chwaraewr profiadol a gafodd gytundeb proffesiynol gan Crystal Palace pan oedd yn y coleg.”

Bydd yr Eisteddfod yn gyfnod prysur iawn i Cadi eleni. Mae’n aelod o’r Twmpdaith – grŵp o gerddorion ifanc sy’n teithio o amgylch neuaddau pentref a gwyliau haf, gan alw twmpath. Byddant yn cynnal sesiynau yn Tŷ Gwerin a Maes D yn ystod y Brifwyl. 

Yn ogystal, bydd Cadi’n canu’r delyn yn y Tŷ Gwerin ac mewn mannau eraill ar y Maes, “Dechreuais ddysgu’r delyn pan oeddwn i tua wyth oed. Daeth Robin Huw Bowen i’r ysgol a dyna’r tro cyntaf i mi weld y delyn deires. Cefais wersi gan Elizabeth Bickerton, sy’n perthyn i Nansi Richards, ac ro’n i’n ffodus iawn i gael telyn deires.”

Bydd Y Stand yn cael ei berfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Sadwrn, 2 Awst, a nos Lun, 4 Awst am 19:30. Mae tocynnau a mwy o fanylion ar gael ar-lein: eisteddfod.cymru neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau ar 0345 4090 800.