Large mural on the side of a brick house featuring a red dragon with wings spread inside an orange-bordered shield, with a soccer ball above and the words 'WELCOME TO WREXHAM' below. Houses and two parked cars are visible in the background.
Eryl Crump - 17 Gorff 2025

Dadorchuddiwyd murlun sy’n portreadu rhai o chwaraewyr mwyaf adnabyddus clwb pêl-droed Wrecsam yng nghanol y ddinas yn gynharach eleni

Crëwyd y gwaith ar wal yng Nghanolfan Siopa Dol yr Eryrod gan yr artist Liam Stokes-Massey, fel rhan o brosiect wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant diweddar y clwb.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o furluniau trawiadol gan yr artist talentog. Y cyntaf oedd murlun croeso ar Crispin Lane, ac fe’i dilynwyd gan bortread o’r chwaraewr poblogaidd Paul Mullin ar ochr adeilad y Fat Boar yng nghanol y ddinas.

Mae’r murluniau bellach yn rhan o brosiect sy’n datblygu llwybr celf gyhoeddus, fel rhan o ymgyrch Wrecsam i sicrhau statws Dinas Diwylliant 2029.

Bydd Eisteddfodwyr yn cael cyfle i glywed mwy am y cais gan gydlynydd y prosiect, Morgan Thomas, yn Y Lle Celf, brynhawn Iau am 14:00.

Liam, sy’n adnabyddus ar y cyfryngau cymdeithasol fel the pencilcraftsman, yw’r cydlynydd ar gyfer y prosiect murluniau, mewn partneriaeth â Thŷ Pawb. Dywedodd, “Rwy’n mwynhau gweithio ar brosiect rwy’n credu bod ein cymuned wedi bod yn ei haeddu ers tro.

“Mae Wrecsam wedi bod yn ganolfan greadigrwydd ers blynyddoedd, felly pa ffordd well o ddathlu ein hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog na thrwy’r cyfrwng hwn?

“Mae’n addo bod yn ddathliad lliwgar ac artistig a fydd yn denu pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd.”

Bydd murluniau newydd yn cael eu creu i ychwanegu at y rhai sydd eisoes wedi’u cwblhau. Ymhlith y rhain mae murlun teimladwy o löwr ar Stryd Egerton, ger y brif orsaf fysus, sy’n coffáu hanes mwyngloddio cyfoethog yr ardal.

Penodwyd Tŷ Pawb – ailddatblygiad o’r hen Farchnad y Bobl – yn ganolfan gelfyddydau i gydweithio â’r Eisteddfod ar raglen o ddigwyddiadau yn Y Lle Celf.

Y Lle Celf yw’r dathliad cenedlaethol o gelfyddydau gweledol a phensaernïaeth yng Nghymru, gan arddangos gwaith gan rai o artistiaid mwyaf blaenllaw’r wlad. Bydd cyfle i weld gwaith yr artistiaid sy’n ennill medalau aur am gelfyddyd gain, crefft, a phensaernïaeth.

I ddeall mwy am yr arddangosfa agored, cynhelir Taith dywys bob bore am 11:00.

Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai rheolaidd gydag artistiaid Emma Jayne Holmes a Ffion Pritchard.

Bydd gweithdy Ffion yn cael ei ysbrydoli gan waith Jonah Jones, gan gynnwys creu cyanotypes a defnyddio llyfrau braslunio gyda deunyddiau wedi’u darparu. Bydd Emma Jayne Holmes yn arwain gweithdy braslunio, gyda’r holl ddeunyddiau ar gael.

Ym mhentref Rhosllannerchrugog, mae’r Stiwt yn paratoi i ddathlu canmlwyddiant ei hagor yn 2026. Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i ail-greu’r Stiwt mewn cyfryngau gwahanol, dysgu am ei hanes, a chlywed ychydig o iaith y Rhos. 

Bydd cyfle hefyd i glywed am adeilad newydd ecogyfeillgar Theatr Clwyd, sy’n agor yr haf hwn, yng nghwmni swyddogion y theatr, y dylunydd Lois Prys, a’r cogydd Bryn Williams.

Ar brynhawn Sadwrn olaf y Brifwyl, bydd yr artist a darlithydd Gwenllian Beynon yn cyflwyno darlith am waith llai cyfarwydd yr artist Pwyliaid Josef Herman, a fu’n byw yn Ystradgynlais fel ffoadur.

Yn dilyn hynny, am 16:00, cyhoeddir enillydd Gwobr Josef Herman: Dewis y Bobl eleni.

Yn ystod yr wythnos hefyd, bydd perfformiad cerddorol gan Meilir Tomos, sy’n cyfuno seinweddau arloesol gyda chymysgedd unigryw o biano, gitâr, syntheseiddwyr, a hyd yn oed offerynnau anarferol fel piano bawd, teipiadur hynafol, gwydrau gwin, a hambwrdd llawn graean.

Cliciwch yma i weld amserlen Y Lle Celf eleni.