Two red buses with "EISTEDDFOD WRECSAM" written on their sides travel along a road with dotted lines, surrounded by stylized trees
15 Gorff 2025

Manylion ar sut i gyrraedd Maes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam

Trafnidiaeth gyhoeddus

Trenau
Mae gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol yn un o’r prif orsafoedd ar y daith o ogledd i dde Cymru, ac mae hefyd yn cysylltu â phrif lein gogledd Cymru drwy wasanaeth Wrecsam i Bidston - gyda threnau’n cyrraedd a gadael yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr i’r nos. 

Mae TrC ac Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bydd hyn yn cynnwys wyth gwasanaeth ychwanegol ddydd Sadwrn a dydd Sul a deuddeg gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ewch i https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau/eisteddfod am ragor o wybodaeth ar y gwasanaeth trenau. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan Traveline Cymru, https://www.cymraeg.traveline.cymru i gynllunio eich taith.

Mae modd i chi ddod â'ch ci ar y tren.

Bysiau
Mae gan ardal Wrecsam rwydwaith eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy’r dydd a chyda’r nos. 

Mae rhagor o wybodaeth am fysiau ardal Wrecsam yma, https://www.cymraeg.traveline.cymru, a gallwch ddefnyddio’r wefan hon i gynllunio’ch taith.

Bydd gwasanaeth TrawsCymru T3 hefyd yn gwasanaethu'r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam.  Mae'r gwasanaeth T3 yn sicrhau taith uniongyrchol i'r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen. Cliciwch yma i weld yr amserlen yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Bysiau gwennol rhwng y Maes a’r ddinas
Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas a’r Maes o 08:00 tan 23:00, er mwyn sicrhau cysylltiadau pellach o orsaf drenau Wrecsam Cyffredinol.

Mae'r rhain yn fysiau lefel-isel, sy'n addas i gadeiriau olwyn.

Gallwch ddod â'ch ci ar y bws i'r Maes.

Bydd bysiau’n cychwyn o safle bws gyferbyn â’r orsaf (lle mae ceir yn parcio ar hyn o bryd) ac yn galw yn Arosfan 5, Canolfan Fysiau Wrecsam, cyn dilyn llwybr presennol bws rhif 41 i’r stad ddiwydiannol – Redwither Road – Bryn Lane. Bydd y bysiau’n gweithredu yn yr un modd ar y ffordd yn ôl i’r ddinas o’r Maes.

---------------------------------------------- 

Cyrraedd mewn car

Gorfod teithio mewn car i’r Eisteddfod?  Gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn yr arwyddion ‘Eisteddfod’ melyn i gyrraedd y Maes.

Mae’r arwyddion wedi’u gosod er mwyn hwyluso traffig, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r Cyngor lleol a’r gwasanaethau brys ac argyfwng, ac mae ein cynllun trafnidiaeth wedi’i greu er mwyn eich helpu chi i’n cyrraedd mor hawdd a diogel â phosibl.

Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â’r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam.

Bydd yr arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).

Bydd traffig o’r A55 yn dilyn yr arwyddion o oleuadau traffig cyffordd yr A483 a’r B5445 (Belgrave) yn cael ei arwain i’r de i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.

Bydd traffig o gyfeiriad Yr Wyddgrug ar yr A541 (cyffordd 5, A483), ardal Rhuthun ar yr A525 (cyffordd 4, A483), ardal Rhosllannerchrugog ar y B5605 (cyffordd 3, A483), Johnstown ar y B5426, Ffordd Bangor (cyffordd 2, A483) ac ardal Llangollen / Dyffryn Ceiriog ar yr A5 (cyffordd 1, A483) yn cael ei arwain i’r gogledd i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.

Bydd traffig o gyfeiriad Croesoswallt ar yr A5 (gan gynnwys traffig o dde Cymru), yn gadael yr A483 ar gyffordd 6 (Gresffordd).

Bydd traffig o ardal A525 Bangor-is-y-Coed yn dilyn arwyddion wrth agosáu at ochr ddeheuol y stad ddiwydiannol ger goleuadau traffig Cross Lanes. Bydd traffig yn cael ei gyfeirio tuag at Sesswick Way, ymlaen tuag at Bridge Road South, Bridge Road, troi i'r chwith i Coed Aben Road, Abenbury Way, troi i'r chwith wrth gylchfan JCB ac yna o amgylch y gylchfan nesaf i ymuno â'r ciw ar Industrial Estate Road.

Parcio

Dilynwch yr arwyddion i’r meysydd parcio a pheidiwch â pharcio wrth ochr y ffordd.

Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn y Maes Parcio.  Maen nhw yno i helpu ac i’ch hwyluso wrth i chi gyrraedd a gadael y maes parcio. Mae Parcio AM DDIM.

*Dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i'r maes parcio anabl*

Mannau gollwng

Bydd man penodol ar gyfer bysiau a thacsis er mwyn codi a gollwng teithwyr yn agos at y fynedfa i’r Maes. Bydd arwyddion clir i’ch arwain yno.

---------------------------------------------- 

Tacsis trwyddedig

Dyma restr o gwmnïau tacsis trwyddedig gan Gyngor Wrecsam:

  • Wrexham Prestige taxis 01978 357777
  • Apollo Taxis 01978 262626
  • Speedie Cars 01978 262829
  • Yellow Cars 01978 286286
  • Station Cars 01978 363661
  • Cresta Cabs 01978 353500
  • Diamond Cars 01978 351234
  • Wrexham Executive Travel & Minibus Ltd 01978 504064

Nodwch hefyd fod 400 o lefydd cloi beiciau wrth ymyl y brif fynedfa.