Eryl Crump - 1 Awst 2025

Ble i fynd a beth i'w weld? Dyma rai o bigion dydd Sadwrn Eryl Crump

Ac i ffwrdd â ni! Wedi misoedd o baratoi bydd giatiau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn agor heddiw, gyda chychwyn ar wyth diwrnod o gystadlu brwd, trafod di-ri a chymdeithasu.

Lle gwell i gychwyn na'r Pafiliwn? Bydd cystadlaethau’n dechrau gyda bandiau pres Adran 2 a 3 o 09:30. Eleni, mae chwe band wedi cofrestru i gyflwyno rhaglen hunanddewisiad heb fod yn hwy na chwarter awr, a hynny am y fraint o ennill Cwpan Ivor Jarvis.

Dehongliad newydd o ‘Ar Hyd y Nos’ neu ‘Dashenka’ gan Islwyn Ffowc Elis fydd i’w chlywed yng nghystadleuaeth 'Ar ei newydd wedd' am 14:05, gyda disgwyl i’r ymgeiswyr gyfeilio i’w hunain ar offeryn o’u dewis. Dyma gystadleuaeth sydd â chysylltiad agos ag ardal Wrecsam - magwyd Islwyn Ffowc Elis a John Ceiriog Hughes, awdur ‘Ar Hyd y Nos’ yn Nyffryn Ceiriog.

Mae cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru, sy’n dechrau am 14:30 yn dipyn o ffefryn. Gydag unrhyw gyfuniad o leisiau heb fod yn llai nag 20 mewn nifer, mae disgwyl i’r corau gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth o'u dewis heb fod yn fwy na 10 munud ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymro.

Disgyblion ysgolion lleol sy'n estyn croeso twymgalon i bawb yn agoriad swyddogol y Babell Lên am 10.30. Mae plant o bob rhan o’r sir wedi bod yn rhan o weithdai ysgrifennu creadigol yn archwilio eu hardaloedd lleol, gyda Buddug Watcyn Roberts a Rhian Cadwaladr dros yr wythnosau diwethaf.

Yn ddiweddarach, am hanner dydd, bydd yr amryddawn Stifyn Parri yn cyflwyno cerddi a chaneuon newydd gan feirdd sydd â chysylltiad lleol a bydd rownd derfynol cyfres farddol BBC Radio Cymru, ‘Y Talwrn’ yn siŵr o ddenu cynulleidfa fawr. Pa dîm ddaw i’r brig eleni? 

Bydd nifer o unigolion a grwpiau blaenaf Cymru’n ymddangos yn y Tŷ Gwerin yn ystod yr wythnos. Dewch draw am 18:00 i fwynhau caneuon telynegol a hudolus Eve Goodman, a Bob Delyn a’r Ebillion fydd yn perfformio set lawn am 21:00 i gloi diwrnod cyntaf yr ŵyl.

Bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Wrecsam sawl gwaith yn y gorffennol a cheir eu hanes mewn cyflwyniad hwyliog gan Aled Lewis Evans yn y Tipi ym Maes D am 14:30.  Ac i aros yn lleol, cawn gofio rhai o lenorion a cherddorion y fro yn ystod yr wythnos, gyda’r sesiwn gyntaf o’r rhain yn Encore am 19:30, pan fydd Trystan Lewis yn cofio tri cherddor o ardal Rhosllannerchrugog, Caradog Roberts, GW Hughes a’r bariton, Meirion Morris.

Mae rhieni wastad yn chwilio am bethau difyr i’r plant – ac mae digonedd ar y Maes eleni. Dewch draw i’r Lloeren yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am sesiwn Her hanner awr bob dydd am 10:00 i ddylunio cymeriad gan ddefnyddio technoleg a Lego.

Ac mae llond lle o hwyl a sbri yn y Pentref Plant eto eleni, gyda chyfle i ddysgu sgiliau syrcas, adeiladu den yn y goedwig a rhostio malws melys yn ogystal â mwynhau Sioe Stwnsh ar Sgwâr y Pentref. A byddai 'Steddfod ddim yn 'Steddfod heb y cyfle i dynnu rhaff!

Y Lle Celf yw'r arddangosfa fwyaf o'i math yng Nghymru ac mae arlwy arbennig wedi’i drefnu eleni, gyda theithiau tywys rheolaidd yn ystod yr wythnos, a’r gyntaf am 11:00 heddiw.

Yr artist cerddorol o ardal Y Bala, Melda Lois fydd yn cyflwyno set acwstig ar stondin Paned o Gê am 15:00. Mae'r sesiwn dan ofal Mas ar y Maes.

Elin Fflur yw un o sêr mawr ar Lwyfan y Maes fin nos, a bydd yr artist a’r cyflwynydd amryddawn o Fôn, sy’n cyfuno pop a soul yn ei pherfformiadau, yn cyflwyno'i set am 19:20 cyn i'r grŵp eiconig, Diffiniad ymddangos ar y Llwyfan am 21:00. Pur anaml mae Diffiniad yn perfformio’n fyw, felly peidiwch â cholli’r cyfle i’w mwynhau’n fyw i gloi’r noson gyntaf ar y Maes yn Wrecsam.