Ble i fynd a beth i'w weld? Dyma rai o bigion dydd Sul Eryl Crump
Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd pryder am ddyfodol canu corawl yng Nghymru gyda chorau’n rhoi’r gorau iddi wrth i’w haelodau heneiddio.
Ond, daeth tro ar fyd, ac mae’r byd corawl yn ffynnu unwaith eto, a bydd cyfle i weld hyn yn glir yng nghystadleuaeth y côr newydd ar lwyfan y Pafiliwn y pnawn ‘ma, gyda thros 10 o gorau’n cymryd rhan.
Bydd diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn gyda Phencampwriaeth y Bandiau Pres a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed yn denu'r llygaid. Yn ogystal ceir cystadlaethau Unawd Cerdd Dant, Alaw Werin ac Unawd, ill tri o dan 12 oed.
Nene ene! Mae tafodiaith Rhosllannerchrugog yn adnabyddus am fod yn unigryw, a bydd sesiwn arbennig i ddathlu tafodiaith a llysenwau'r pentref yn y Babell Lên am 15:15, gyda Dyfed Thomas, Dylan Glyn Williams, Llinos Cleary, Gwynne Williams ac Aled Wyn Phillips, ynghyd â chyfle i ni’r gynulleidfa gyfrannu ein hoff eiriau hefyd. Mae’r sesiwn yn rhan o ddathliadau'r 'Stiwt yn gant oed y flwyddyn nesaf.
Ydi, mae o ‘Yma o Hyd’ ond ar ôl canu ym mhob Eisteddfod ers 1965, mae Dafydd Iwan wedi datgan mai ei ymddangosiad ar Lwyfan y Maes am 16:45 fydd ei berfformiad olaf gyda'i fand talentog yn y Brifwyl!
Nawr, mae Dafydd wedi dweud hyn o'r blaen ac mae'n debyg y bydd yn ymddangos eto mewn digwyddiadau anffurfiol, ond dewch draw i'w fwynhau am y tro olaf ‘swyddogol’ ac i gyd-ganu'r hen ffefrynnau. Yna, bydd yn rhan o sgwrs yn y Tŷ Gwerin am 18:15 ddylanwad Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ar ganu pop yng Nghymru, gyda Huw Stephens, Mared Williams, Rhys Harries a Ffion Dafis
Does dim modd mynd yn bell yn Wrecsam heb glywed am lwyddiant diweddar y clwb pêl-droed. Ac yn y Tipi ym Maes D am 11:00 bydd criw podledu ‘I Mewn i’r Gôl’, Arwel Owen, Ifor Owens ac Alun Owens, yn trafod cyfnod anhygoel y tîm.
Ers dychwelyd i'r Gynghrair yn 2023 mae’r clwb wedi sicrhau dyrchafiad i'r bencampwriaeth. Yn ymuno â'r criw a gwesteion arbennig fydd cyn-gyfarwyddwr y clwb - a chyn-ddysgwr y flwyddyn - Spencer Harris.
Os am ddysgu mwy am un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru, dewch draw i Encore am 13:30 i fwynhau cyflwyniad am Arwel Hughes, wrth i’w fab, yr arweinydd Owain Arwel Hughes, a Huw Tregelles Williams ein tywys drwy fywyd, gwaith a dylanwadau’r cerddor o Rosllannerchrugog.
Rydw i’n rhoi fy llaw ar fy nghalon ac yn addo i chi nad yw’r erthyglau hyn wedi bod yn agos at dechnoleg deallusrwydd artiffisial, neu 'AI'. Ond ai (sori!) pobl neu beiriannau fydd llenorion a chyfieithwyr y dyfodol? Yn y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 12:00 bydd trafodaeth ar sut y gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol greu rhyddiaith a chynnwys ysgrifenedig.
Bydd Gala gomedi Tudur Owen yn y Cwt Cabaret (y Babell Lên) am 19:30. Dan Thomas sy'n arwain ac yn cyflwyno Mel Owen, Siôn Owens a Beth Jones gyda Tudur yn cloi. Dewch i chwerthin ar ddiwedd y dydd!