Gwraig sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc yn ei bro fydd yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni
Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Bu Eilyr Thomas, Llandissilio, Sir Benfro, yn athrawes a phrifathrawes mewn ysgolion cynradd yn ardal Maenclochog a Mynachlog-ddu am y rhan fwyaf o’i bywyd gwaith. Y tu hwnt i’w gyrfa ddylanwadol ym myd addysg, bu’n weithgar ym myd cerddoriaeth a chanu ers yn ifanc iawn.
Cafodd lwyddiant mawr ar lwyfannau eisteddfodau bach a mawr, yn enwedig fel unawdydd ac fel aelod o gorau a phartïon, ac mae ei chyfraniadau i fywyd cerddorol a diwylliannol y gymuned wedi bod yn sylweddol, ac mae’n parhau i fod yn ffigwr gweithgar ac ysbrydoledig ym mhob peth a wna.
Cafodd wybod ychydig wythnosau’n ôl ei bod i’w hanrhydeddu gyda Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn yr Eisteddfod eleni.
Dywedodd, "Pan ges i wybod, ro’n i’n fud hollol – methu cael geiriau i'm meddwl o gwbl. Dwi ddim yn berson sy’n ennill cystadlaethau na dim byd, ond hwn – doeddwn i ddim yn gallu coelio. Wrth gwrs, mae’n anrhydedd, ac rydw i’n falch iawn o’i dderbyn, er fy mod yn nerfus iawn hefyd.”
Trwy arbenigedd ac ymroddiad Eilyr Thomas, mae nifer o bobl ifanc wedi blodeuo – nid yn unig drwy ddatblygu eu gallu lleisiol - ond hefyd wedi tyfu i fod yn berfformwyr hyderus.
Mae nifer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr, gan gynnwys Jessica Robinson, a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, yn ogystal â Trystan Llŷr Griffiths, Sioned Llewelyn, Esyllt Thomas a Ffion Thomas – i enwi dim ond rhai.
Y tu hwnt i hyfforddi unigolion, mae Eilyr Thomas hefyd wedi arwain corau ac ensembles lleisiol, gan greu profiadau bythgofiadwy i blant a phobl ifanc lleol. Mae ei hymrwymiad diwyro wedi gadael effaith barhaol, gan siapio’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr a meithrin cariad oes at gerddoriaeth yn y rhai y mae’n eu mentora.
Mae ei harbenigedd mewn cerddoriaeth yn cael ei gydnabod yn eang, ac fe’i gwahoddir yn aml i feirniadu mewn eisteddfodau lleol, sirol a chenedlaethol.
"Roedd y teulu’n gerddorol, ac mae’n debyg fy mod wedi dangos rhyw fath o awydd canu, er mod i’n rhyfeddol o swil. Bob tro roedd rhywun yn dod i’r tŷ ac yn gofyn i mi ganu, byddwn i’n mynd tu ôl i’r llenni – allwn i byth eu hwynebu," meddai.
Mae cyfraniadau gwirfoddol Eilyr Thomas i’r gymuned yn ymestyn y tu hwnt i’w gwaith gyda phobl ifanc.
Bu’n arweinydd Cantorion Cleddau yn ystod y 1960au ac mae’n aelod ymroddgar o Gapel Nebo, Efailwen, lle mae’n ysgrifenyddes ac yn athrawes Ysgol Sul.
Mae’n wirfoddolwr yng Nghlwb Pensiynwyr Llandissilio, sy’n paratoi cinio, yn cludo aelodau i’r neuadd, ac yn trefnu gweithgareddau codi arian i elusennau lleol.
Fe’i hanrhydeddwyd â’r Wisg Wen yng Ngorsedd Cymru am ei gwaith dros ddiwylliant ei hardal. Mae’n gyn-aelod o Gyngor yr Eisteddfod.
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Bydd Eilyr Thomas yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30, ddydd Mawrth, 5 Awst.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i https://eisteddfod.cymru.
