Arlunydd aml-gyfrwng o Wynedd sy’n creu gwaith mewn dau a thri dimensiwn, wedi’i ysbrydoli gan amrywiaeth o bethau, yw enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Cyflwynir y wobr i Gareth Griffith mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl.
Dywedodd yr arlunydd, sy’n byw ym Mynydd Llandygai ger Bangor, ei fod wrth ei fodd o ennill y wobr, "Rwyf wedi arddangos fy ngwaith yn Y Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith ers y 1970au, ond dyma’r tro cyntaf i mi ennill y wobr yma. Rwy’n hapus iawn i’w derbyn – mae’n dipyn o anrhydedd i arlunydd o Gymru gael fy nghydnabod fel hyn," meddai.
Ychwanegodd Gareth ei fod wedi cyflwyno pum eitem i’r detholwyr eu hystyried ar gyfer arddangosfa Y Lle Celf, arddangosfa flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, “Daeth y tri ohonynt i’r stiwdio i weld y gwaith ac roeddent wrth eu bodd. Cymaint felly, gofynnwyd i mi arddangos dros 20 eitem i gyd. Mae trefnwyr yr arddangosfa wedi trefnu i mi gael gofod tua phedwar metr wrth dri i osod y gwaith," meddai.
Ymhlith y gweithiau mae llun mawr o’r arlunydd wedi’i baentio ar ddrychau, gyda lluniau llai o bobl adnabyddus a digwyddiadau arwyddocaol o’i gwmpas, "Byddaf yn sefyll o’i flaen ac yn gweld fy hun yn y darlun, gyda’r lluniau llai o’i gwmpas – ac mae’n newid yn barhaus," eglurodd Gareth.
Bydd cyfres o ddarluniau o grys gwaith – a gafodd Gareth gan ei fab hynaf fel anrheg – hefyd yn cael eu harddangos. Golchwyd y crys ar ddamwain gyda blanced y ci, gan adael gwallt arno, "Cafodd y crys ei hongian yn y stiwdio am gyfnod yn aros iddo gael ei lanhau, ond yn araf dechreuais ei ddarlunio a’i baentio – gan arwain at gyfres newydd o weithiau yn y pen draw," meddai.
Roedd y gwaith Triptych Crys Gwallt yn gyd-enillydd Biennale Peintio BEEP 2022 yn Abertawe.
Cafodd Gareth Griffith ei fagu yng Nghaernarfon. Roedd ei dad, Robin Griffith, yn arlunydd a gyfrannodd gartwnau i gylchgronau’r Urdd am flynyddoedd.
Astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl yn nechrau’r 1960au. Ar ôl cyfnod yn dysgu mewn ysgol gynradd yn y ddinas honno ac yn treulio dwy flynedd yn Jamaica, dychwelodd i Gymru a threuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro celf yn ysgolion ardal Bangor. Mae wedi byw ym Mynydd Llandygai ers deugain mlynedd.
Ar ôl ymddeol, adeiladodd stiwdio newydd yn ei ardd, ac ers hynny mae wedi cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa.
Fe’i cynrychiolir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Walker, a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau.
"Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o bethau. Rwy’n chwilio am gysylltiadau rhwng yr adeiladwaith rwy’n ei greu a’r hyn rwy’n ei beintio – mae symbiosis rhwng y ddau.
"Mae addasu i’r amgylchiadau rydyn ni ynddynt yn ymddangos yn fwy perthnasol nag erioed yn fy mywyd. Mae naratif sy’n rhedeg drwy gydol fy ngwaith na all fod ond yn eiddo i mi.
"Yn anochel, mae cyfeiriadau gwleidyddol yn y gwaith. Mae fy amser yn Jamaica a’m profiad o fyw mewn gwlad ôl-drefedigaethol, sydd wedi’i pholareiddio’n fawr ac yn aml yn beryglus, yn debyg i’r sefyllfa bresennol sy’n effeithio ar ein bywydau ni i gyd," nododd Gareth.
Yn ôl y detholwyr – Bedwyr Williams, Angela Davies ac Anya Paintsil – roeddent wedi’u plesio gan ansawdd a dyfnder cyffredinol y cyflwyniadau ar draws pob categori, "Mae’r grefft, y wybodaeth a’r gonestrwydd sy’n amlwg yn y defnydd o ddeunyddiau gan yr artistiaid wedi arwain at gorff o waith sy’n teimlo’n fedrus ac wedi’i ystyried yn ddwfn. Roedd llawer o’r ceisiadau’n dangos sensitifrwydd ac uniondeb clir, oedd yn taro tant gyda’r panel," meddant.
Bydd gwaith Gareth Griffith i’w weld yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam rhwng 2–9 Awst 2025. Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i: https://eisteddfod.cymru.



