Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i gynnal safbwynt gwleidyddol niwtral
Fodd bynnag, mae’r sefydliad yn cydnabod ac yn parchu hawliau unigolion a mudiadau i fynegi safbwyntiau moesol a gwleidyddol yn ystod yr wythnos ar y Maes.
Fel sy’n arferol, ni fydd yr Eisteddfod yn ymyrryd yn y math hwn o fynegiant, oni bai bod unrhyw weithred neu sylw yn torri’r gyfraith neu reolau’r ŵyl.
Y cyfrifoldeb am unrhyw safbwyntiau a fynegir fydd ar yr unigolyn neu’r mudiad dan sylw, nid ar yr Eisteddfod ei hun.
Yn ymarferol, gall hyn gynnwys arddangosfeydd ar stondinau, baneri, gwisgoedd, geiriau, graffeg, neu unrhyw ffurf arall o fynegiant cyhoeddus.
Mae polisi parch yng ngwaith a gweithgareddau’r Eisteddfod, ynghyd â’i Reolau Sefydlog yn datgan, fod yr Eisteddfod wedi ymrwymo i fod yn ŵyl gynhwysol sy’n parchu a dathlu amrywiaeth yn ei holl weithgareddau a gweithdrefnau, ac i sicrhau na ragfernir yn erbyn unrhyw un ar sail anabledd, cefndir, cred, crefydd, hil, oedran, rhyw, rhywedd na rhywioldeb
Mae’r Eisteddfod yn parchu rhyddid barn ac yn annog trafodaeth agored, cyn belled â’i bod yn digwydd mewn ffordd gyfrifol ac yn unol â’r gyfraith.