Mae modelau gwydr lliwgar a manwl o benglogau adar wedi ennill y Fedal aur am grefft a dylunio i artist o Sir Ddinbych yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd Verity Pulford o Eryrys ger Rhuthun yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod, a gynhelir eleni yn Wrecsam.
Cyflwynodd ddau ddarn o waith i'r detholwyr eu hystyried ar gyfer arddangosfa gelf helaeth yr Eisteddfod yn Y Lle Celf.
Wrth ddisgrifio ei gwaith, dywedodd, "Gwnes y ddau ddarn eleni ar gyfer Collect yn Somerset House.
“Mae’r tair penglog adar yn haenau o wydr o wahanol liwiau ac aur ar y pigau. Yn 2023, treuliais fis yn Lybster yng Ngogledd yr Alban ar breswylfa yn North Lands Glass, a dyna lle dechreuodd fy niddordeb mewn darganfyddiadau glan y môr.
“Ces i lawer o wrthrychau naturiol o’r traethau yno, gan gynnwys penglog mulfrain. Drwy wneud mowld ac yna ddefnyddio castio cwyr coll, gallaf ail-greu siâp a gweadau’r gwreiddiol.
Rwyf wedi dechrau defnyddio castio yn fy ngwaith ar ôl cael ysgoloriaeth gan y Queen Elizabeth Scholarship Trust (QEST) ac astudio’r gwahanol dechnegau.
“Mae’r ail ddarn, Trysorau Tywyll, yn cyfuno elfennau gwydr pâte de verre a darnau gwydr bwrw, wedi’u cyfuno i greu organebau dychmygol sy’n cael eu harddangos gyda’i gilydd fel casgliad.
“Mae’r lliwiau a ddefnyddir yn atgoffa rhywun o gasgliadau Wunderkammer, gan ddefnyddio gwydr du ac aur. Rwyf hefyd wedi defnyddio elfennau o sleidiau microsgopig hen ffasiwn, crafangau a chragen cranc."
Ychwanegodd Verity fod ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan strwythurau a phatrymau twf mewn planhigion a ffurfiau bywyd eraill, "Planhigion nad ydynt yn blodeuo fel cen, algâu, rhedyn a mwsogl, a hefyd byd hudolus ffyngau. Rwy’n chwarae gyda syniadau realaeth hudolus – creu fy ffurfiau fy hun wedi’u hysbrydoli gan neu’n cyfuno gwahanol blanhigion ac organebau.
“Rhoddodd Mutualism, fy mhrosiect diwethaf a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y cyfle i mi ymchwilio i infertebratau môr, ac mae llawer o’r rhain bellach yn ysbrydoliaeth.
“Mae gen i ddiddordeb ac mae dylanwad arnaf hefyd gan gatalogio natur – arteffactau hanes natur, cyanoteipiau cynnar, pelydrau-x, delweddau microsgopig a lluniadau botanegol."
Mae Verity wedi arddangos yn Y Lle Celf ddwywaith o’r blaen – yn 2023 gyda Mewn Byd Ei Hun, grŵp o fadarch gwydr o dan gromen, ac y llynedd gyda chasgliad o waith o’r prosiect Mutualism.
Ychwanegodd, "Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy nyfarnu â’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio. Rwyf wedi cael fy nghefnogi yn fy ngyrfa gan gynifer o bobl a sefydliadau gwych, ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi fy helpu i ddatblygu a thyfu fel gwneuthurwr.
“Rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth hon ac i’r rhai sydd wedi fy annog, fy nghefnogi a chredu ynof. Yng Nghymru, rwy’n rhan o grŵp eithriadol o wneuthurwyr ac artistiaid, ac mae’n anrhydedd i mi fyw yn y wlad hardd hon, wedi’i hamgylchynu gan gymuned mor dalentog a chariadus."
Dywedodd Verity ei bod wedi mwynhau gwneud pethau yn yr ysgol, ond na wnaeth erioed feddwl o ddifri y byddai’n yrfa iddi, “Yn fy ugeiniau cynnar, teithiais i Barbados a byw gyda’r artist Aziza. Anogodd hi fi a fy ffrind Sarah i dynnu llun a phaentio, a dyna oedd y cychwyn ar y daith a arweiniodd y ddau ohonom ni i fod yn artistiaid.
“Es i ysgol gelf a darganfod gwydr, gan arbenigo mewn Gwydr Pensaernïol ar gyfer fy ngradd.
Rwy’n tynnu lluniau ac yn casglu elfennau naturiol yn aml, ac yn tynnu llun a phaentio hefyd. Nid yw’r archwiliadau 2D hyn byth yn ddyluniadau mewn gwirionedd – maen nhw’n fwy o ffyrdd i chwarae gyda lliwiau a siapiau, cyfuno strwythurau a ffurfiau, defnyddio tôn a phatrwm.
“O fan hyn, rwy’n gweithio trwy syniadau – yn bennaf mewn gwydr – ac mae hyn yn golygu bod gen i lawer o bethau sy’n cael eu taflu, oherwydd mae’n cymryd peth amser i mi gyflawni’r hyn rwyf ei eisiau.
“Mae’n cymryd dewrder, gweledigaeth, gwaith caled a phenderfyniad di-ildio i weithio gyda gwydr. Mae cymaint o fethiannau a chymaint o siomedigaethau!"
Bydd gwaith Verity Pulford i’w weld drwy gydol yr Eisteddfod yn Y Lle Celf.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ar dir glas yn Is-y-coed ger Wrecsam rhwng 2-9 Awst. Am fwy o fanylion, ewch i eisteddfod.cymru.

