Bydd penseiri a luniodd brosiect i drawsnewid eglwys yn ganolfan gelfyddydau gymunedol yn derbyn y Fedal aur am bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Trawsnewidiwyd Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Bangor yn ofod celf a pherfformio hyblyg ar gyfer Frân Wen, cwmni theatr proffesiynol sy’n darparu gweithgareddau’n benodol i bobl ifanc.
Dyluniwyd y prosiect gan y cwmni pensaernïaeth o Lundain, Manalo & White, dan arweiniad y pensaer Takuya Oura. Dywedodd y detholwyr, Sarah Featherstone a Gavin Harris, fod y prosiect yn “ailweithio meddylgar a dychmygus o hen eglwys restredig Gradd II, gan gydbwyso parch at gymeriad hanesyddol yr adeilad gyda dealltwriaeth glir o werthfawrogiad diwylliannol cyfoes.”
Bydd y cwmni’n derbyn Medal Aur Norah Dunphy am Bensaernïaeth mewn seremoni arbennig ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yn Wrecsam.
Cyflwynir y fedal er cof am Norah Dunphy, y fenyw gyntaf ym Mhrydain i ennill gradd Baglor mewn Pensaernïaeth, ac i goffáu Thomas Alwyn Lloyd, pensaer ac un o sylfaenwyr y Sefydliad Cynllunio Trefol.
Dyfernir y wobr i brosiect pensaernïol o ansawdd uchel sy’n dangos rhagoriaeth mewn dylunio ac ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan ystyried deunyddiau, perfformiad adeiladu, datgarboneiddio ac ailgylchu ar ddiwedd oes yr adeilad.
Dywedodd Takuya Oura, “Roedd cynllunio’r prosiect yn heriol gan fod angen bodloni anghenion Frân Wen a’u dymuniad i gael adeilad hygyrch i bawb.
“Ond fe wnaethom oresgyn yr heriau hynny ac rydym yn hynod falch o’r canlyniad terfynol ac o dderbyn yr anrhydedd hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.”
Sefydlwyd Frân Wen 40 mlynedd yn ôl fel cwmni theatr ac addysg Gymraeg i weithio gydag ysgolion lleol i lwyfannu dramâu. Ond wrth dyfu’n gyson, daeth y ganolfan yn hen ysgol gynradd ym Mhorthaethwy yn rhy fach.
Dywedodd y prif weithredwr, Nia Jones, eu bod wedi archwilio sawl opsiwn i wella’r cyfleusterau, gan gynnwys adeilad newydd sbon, “Roeddem yn chwilfrydig am y cynlluniau a luniwyd gan Takuya, sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r briff a osodwyd iddo.
Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae’r prosiect wedi trawsnewid yr adeilad hwn a chreu llawer mwy o le i Frân Wen. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth bwysig o’n hymdrechion.”
Roedd Eglwys y Santes Fair, sydd wedi’i rhestru fel adeilad Gradd II, wedi bod yn wag ers 2014, ond fe’i prynwyd gan Frân Wen yn 2019 am £150,000.
Ers agor, mae’r ganolfan – o’r enw Nyth – wedi croesawu ysgolion, grwpiau celfyddydol a chymunedol, gyda dros 25,000 o bobl wedi camu trwy’r drysau dwbl newydd.
Wedi clirio’r meinciau, trawsnewidiwyd corff ac eiliau ochr yr eglwys yn un lle agored ar gyfer ymarfer a pherfformio. Ail bwrpaswyd y meinciau’n leininau wal pren, ac ailddefnyddiwyd yr hen organ fel gosodiad celf a chymorth clywadwy i bobl â nam ar eu golwg.
Yn eu beirniadaeth, dywedodd y detholwyr, “Mae’r dyluniad yn dileu arlliwiau crefyddol amlwg heb ddileu hunaniaeth yr adeilad. Mae arwyddion cynnil – fel gwydr ysgythredig sy’n cyfeirio at wydr lliw mewn ffordd haniaethol – yn parchu traddodiad tra’n gwahodd ail-ddehongli.
“Mae’r defnydd o ddeunyddiau crai, ymarferol fel bris bloc a decin metel agored yn cynnig cyferbyniad cryf i orffeniadau gwreiddiol yr eglwys, gan gyflwyno hydeimledd ac anffurfioldeb sy’n siarad â chynulleidfaoedd iau, mwy amrywiol.
“Eto i gyd, nid yw’r gwaith yn teimlo’n dros dro. Mae’r grefftwaith yn parhau’n uchel, gyda manylion gofalus ac ymrwymiad i ansawdd ar draws pob deunydd a gorffeniad.
“Trafodwyd ymyriadau sensitif gyda swyddogion treftadaeth yn ddeallus ac yn ofalus – megis ehangu’r brif fynedfa i wella mynediad a gwelededd, a gosod sylfaen ar gyfer paneli ffotofoltäig yn y dyfodol.
Mae’r prosiect yn ymateb nid yn unig i le a chof, ond hefyd i anghenion cymdeithas ôl-COVID – gan ddarparu mannau hyblyg, wedi’u hawyru’n dda, sy’n cefnogi cadernid cymunedol. Trawsnewidiad barddonol, ymarferol a blaengar.”
Plac Teilyngdod yr Eisteddfod
Bydd Plac Teilyngdod yr Eisteddfod, sy’n dathlu prosiectau newydd neu adnewyddu sy’n dangos dyluniad eithriadol, yn cael ei gyflwyno i Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ger Pwllheli am ei chaffi newydd gerllaw’r adeilad Fictoraidd.
Canmolodd y detholwyr ymddiriedolwyr Plas Glyn-y-Weddw am ddatblygu dull strategol dros 15 mlynedd i sefydlu canolfan gelfyddydau gynaliadwy a bywiog:
“Mae’r cydweithrediad rhwng ffurf gain y caffi Draenog y Môr, a grëwyd gan artist, a’r cynllun pensaernïol pragmatig wedi arwain at adeilad newydd cynaliadwy ac effeithlon sy’n ymateb i gyd-destun, ymdeimlad o le, ac anghenion defnyddwyr ac ymwelwyr – gan gynnig marciwr gweledol newydd i’r ganolfan.”
Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, 2 Awst 2 am 17:15, gyda dathliad yn Y Lle Celf am 18:00.
Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol 2025, a gynhelir ar dir fferm yn Is-y-coed ger Wrecsam rhwng 2-9 Awst, ewch i: eisteddfod.cymru.



