Yr actor adnabyddus Rob McElhenney sy'n eich croesawu i Eisteddfod Genedlaethol 2005 yn Wrecsam a hynny yn Gymraeg!
Bu Maxine Hughes, arweinydd Cymru a'r Byd eleni, yn dysgu'r Americanwr i recordio'r croeso ar gyfer fideo byr sydd wedi ei gyhoeddi ar eu gwefannau cymdeithasol.
Gyda chefnogaeth Maxine mae Rob, sydd wedi datgan ei gefnogaeth i'r iaith Gymraeg gyda'i gyfaill Ryan Reynolds, ers dechrau eu perchnogaeth o glwb pel-droed Wrecsam ar ddechrau'r ddegwad yn ynganu'r croeso'n glir.
Mae Maxine yn ei ganmol am ei ymdrechion ac yn arbennig felly pan mae'n byrhau'r gair Eisteddfod i 'Steddfod.
"Fel 'na da ni'n dweud Eisteddfod yng Ngogledd Cymru lle dwi'n dod o," meddai wrtho.
Bydd Maxine, sy'n hannu o sir Conwy ond yn byw bellach yn Washington, prif ddinas yr Unol Daleithiau, yn annerch y gynulleidfa fel arweinydd Cymru a'r Byd yn ystod y Gymanfa Ganu nos Sul. Bydd hefyd yn arwain sesiynau eraill ar y Maes yn ystod yr wythnos.