Yr actor adnabyddus Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Siaradodd yn y Pafiliwn ar ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl yn Wrecsam.
Talodd Mark Lewis Jones, yr actor adnabyddus, deyrnged o’r galon am y cymorth a’r gefnogaeth a gafodd gan drigolion Rhosllannerchrugog wrth gychwyn ar ei yrfa ar y llwyfan a’r teledu.
Mae ei wyneb yn gyfarwydd i lawer, hyd yn oed os nad yw’r enw’n gyfarwydd. Mae ei gredydau’n cynnwys rhestr o raglenni teledu eiconig diweddar megis The Crown, Game of Thrones, Keeping Faith, Man Up a Baby Reindeer. Mae ei yrfa ffilm hefyd yn drawiadol, o’i rôl fel Capten Moden Canady yn Star Wars: The Last Jedi i’w ran yn y ffilm ddiweddar Sweetland.
Yr wythnos hon, mae’n gwasanaethu fel Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam, dim ond ychydig filltiroedd o’i bentref enedigol.
Yn ei araith, diolchodd yn ddiffuant i’w daid am fynnu bod yr Eisteddfod “gan bawb ac i bawb”. Dywedodd:
“Canodd fy nhaid, Jonathan Dafis, yn y Pafiliwn droeon fel aelod ffyddlon o Gôr Meibion Rhos, yn ogystal â helpu trefnu’r ŵyl pan ddaeth i’r ardal yn 1945. Ond rhywsut, pan oeddwn i’n tyfu i fyny, doeddwn i ddim yn teimlo bod yr Eisteddfod yn berthnasol i fi.”
Er ei fod wedi’i fagu mewn cymuned Gymreig, roedd teimlad nad oedd yr Eisteddfod yn cynrychioli Cymry fel ef. Ond, dros amser, sylweddolodd ei fod yn anghywir.
Ychwanegodd fod ei wraig, Gwenno, yn rhedeg siop ddillad yng Nghaerdydd ac yn llogi stondin ar y Maes yn rheolaidd:
“Un o’m hoff atgofion o ddod i’r Eisteddfod gyda Gwenno oedd cwrdd â sgwrsio gyda phobl oedd wedi teithio o bell i fod yn rhan o’r ŵyl. Daeth yn amlwg pa mor hanfodol yw’r Eisteddfod i gefnogi a hybu’r celfyddydau yn ein gwlad.”
Mae ganddo bedwar mab, pob un yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr ŵyl, ac mae Jacob, yr ieuengaf, yn gweithio ar y Maes yr wythnos hon.
“Dwi wedi dod i ddeall beth oedd Taid yn ei ddeall o’r cychwyn – fod yr Eisteddfod gan bawb, i bawb. A petai fo gyda ni o hyd, dwi’n gwybod y byddai yma, yn y rhes flaen, gyda gwen falch ar ei wyneb wrth weld ei wyr ar y llwyfan o’r diwedd.”
Amlinellodd sut y daeth yn actor:
“Dwi wedi bod yn ffodus i sefyll ar sawl llwyfan enwog dros y blynyddoedd – Theatr y Globe, Theatr Genedlaethol yn Llundain, Theatr Shakespeare yn Stratford – ond erioed wedi bod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen.”
Aeth i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, heb syniad beth i wneud â’i fywyd. Ond athrawes o’r enw Gwawr Mason a’i gwahoddodd i gymryd rhan yn y sioe ysgol nesaf. Dywedodd:
“Ar ôl cymryd rhan yn y sioe honno, newidiodd fy mywyd yn llwyr. Roeddwn i am actio.”
Er nad oedd cysylltiad â’r celfyddydau yn ei gartref, ac mai Saesneg oedd y brif iaith, cafodd gefnogaeth gan ei rieni. Aeth ymlaen i weithio gyda Theatr Ieuenctid Clwyd, astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, ac yna i Theatr Clwyd a Llundain.
“Alla i ddweud yn bendant na fyddai hynny wedi digwydd oni bai i Gwawr Mason gynnig help llaw i fachgen ifanc, coll. Yn drist iawn, fe gollon ni Gwawr yn ystod y cyfnod clo. Er i mi ddiolch iddi droeon, dwi ddim yn teimlo y bydda i byth yn gallu diolch digon iddi.”
Fel Llywydd, mae ganddo amserlen lawn yr wythnos hon, ond mae’n edrych ymlaen yn arbennig at gymryd rhan yn nathliadau canmlwyddiant Theatr y Stiwt – sefydliad sydd â chysylltiad personol iawn iddo.