2 Awst 2025

Llenwodd sŵn bandiau pres yr awyr wrth i'r gystadleuaeth ddechrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam ddydd Sadwrn

Gwelwyd llif cyson o gerddorion yn cario eu tiwbâu, cornetau a thrombonau o'r meysydd parcio tuag at y prif bafiliwn cyn 09:00 i gofrestru.

Cystadlodd pum band o Fwcle, Porthaethwy, Deiniolen ger Caernarfon, Markham ger Caerffili, ac Wrecsam yng nghystadleuaeth Dosbarth 2 a 3.

Yn agored i fandiau gyda hyd at 25 aelod, gosodwyd y dasg iddynt o gyflwyno rhaglen amrywiol a chymer ddim mwy na 15 munud i'w pherfformio.

Ar ôl cystadleuaeth fywiog, dyfarnodd y beirniad, Alan Bourne, y wobr gyntaf o £600 a Chwpan Ivor Jarvis i Fand Tref Brenhinol Bwcle. Daeth Band Arian Deiniolen yn ail, a Markham yn drydydd.

Dywedodd y bandiwr profiadol Meirion Jones o Fand Deiniolen fod Bwcle yn haeddu'r fuddugoliaeth, "Maen nhw wedi dod mor agos ar achlysuron eraill – weithiau roedd dim ond un pwynt ynddi," meddai.

Yn ddiweddarach, cystadlodd pedwar band arall yng nghystadleuaeth Dosbarth 4. Gosodwyd iddynt hwythau'r dasg o berfformio o leiaf dair eitem o fewn eu 15 munud.

Gosododd y beirniad Fand Arian Llanrug yn gyntaf, a chymerasant Gwpan Her Ivor Jarvis a'r wobr ariannol o £600 adref. Daeth Band Arian Oakeley o Flaenau Ffestiniog yn ail, a Band Porthaethwy yn drydydd.

Ddydd Sul, bydd tri band pres o Wrecsam, Biwmares a Rhondda Cynon Taf yn brwydro am goron Adran 1 a Chwpan Sir y Fflint.