3 Awst 2025

Mwynhawyd noson amrywiol o gerddoriaeth gan dyrfaoedd mawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol nos Sadwrn

Elin Fflur, y gantores a’r gyfansoddwraig o Ynys Môn, a Diffiniad, sydd â chysylltiadau agos ag ardal Wrecsam, oedd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes, tra bod Bob Delyn a’r Ebillion yn perfformio i gynulleidfa sylweddol yn Nhŷ Gwerin.

Yn y cyfamser, mwynhaodd y gynulleidfa yn y Pafiliwn sioe gerdd newydd a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod. Ysgrifennwyd Y Stand gan Manon Steffan Ros a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Osian Huw Williams.

Sefydlwyd Diffiniad gan grŵp o ffrindiau, yn bennaf o ardal yr Wyddgrug, i berfformio cerddoriaeth ddawns yn y Gymraeg. Ymunodd Bethan Richards, o Rydaman, fel cantores, ac mae ei llais cyfoethog, dwfn yn codi rhai o’u hanthemau mwyaf cofiadwy i’r uchelfannau.

Cafodd caneuon fel Hapus, Hwyr Tan y Bore a’u fersiwn o glasur Caryl Parry Jones, Calon, eu cyd-ganu gyda’r grŵp gan y dorf.

Roedd y gynulleidfa wedi’u swyno’n gynharach gan set gan Elin Fflur a’i band. Canodd ganeuon hen a newydd gan gynnwys Harbwr Diogel. Wedi’i hysgrifennu gan Arfon Wyn, enillodd y gân gystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002.

Mae Bob Delyn a’r Ebillion yn cael eu harwain gan y prifardd Twm Morys. Mae eu cerddoriaeth yn cyfuno amrywiaeth eclectig o ddylanwadau ac offerynnau â synau gwerin mwy traddodiadol Cymru.

Daeth eu set i ben gyda chân Twm Morys, Trên Bach y Sgwarnogod, a ysgogodd dwsinau o’r gynulleidfa i ymuno â chonga fawr o amgylch y lle dan arweiniad y sacsoffonyddion Edwin Humphreys ac Einion Gruffudd.

Mae Y Stand yn sioe newydd sbon am bêl-droed, am ennill a cholli, ac am y cysylltiad arbennig sy’n dod o gefnogi tîm.

Cafodd y Pafiliwn ei drawsnewid yn stadiwm pêl-droed, yn fywiog gyda sain, lliw ac egni’r dorf.

Adroddir y stori drwy lygaid côr yr Eisteddfod, sy’n cynnwys 200 o aelodau, a phum prif gymeriad. Mae Clem (Dyfed Thomas) yn actor sy’n gyn-chwaraewr i Wrecsam, yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i hanes personol a’i gariad dwfn at y Clwb, a Grace (Cadi Glwys), merch ifanc 14 oed sy’n breuddwydio am chwarae pêl-droed.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi cyfle i nifer fawr o grwpiau ac artistiaid unigol yn ystod yr ŵyl wythnos o hyd. Ymhlith y rhai eraill a fydd yn cymryd rhan mae’r canwr gwerin profiadol Dafydd Iwan, y bandiau roc Anweledig o Flaenau Ffestiniog a Fleur de Lys o Fôn, a’r band gwerin blaenllaw Bwncath.