A hithau’n ddechrau’r wythnos waith, mae hi’n prysuro ar y Maes gyda’r gyntaf o brif seremonïau’r wythnos, y Coroni. Ond beth arall sydd i’w weld a’i wneud yn yr Eisteddfod heddiw? Dyma bigion Eryl Crump
Bydd Gorsedd Cymru yn ymgynnull ddwywaith ar y Maes yn ystod y dydd. Am 10:00 - os bydd y tywydd yn caniatáu! - bydd y cyntaf o ddwy seremoni arbennig i urddo aelodau newydd.
Yna yn y prynhawn cynhelir seremoni'r Coroni yn y Pafiliwn. Testun y gystadleuaeth eleni yw ‘Adfeilion’ a’r dasg oedd cyflwyno pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell. Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, ac fe’i chynlluniwyd a’i chynhyrchu gan Neil Rayment ac Elan Rhys Rowlands yn eu gweithdy ym Mae Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i’r Goron gael ei chreu gan yr un crefftwyr am ddwy flynedd yn olynol. Mae’r seremoni’n cychwyn am 16:00, ond mae angen cyrraedd yno mewn da bryd er mwyn sicrhau sedd.
Gofod amlbwrpas ar gyfer rhagbrofion a rhagwrandawiadau yn ystod y dydd a llwyfan i gyngherddau bach a pherfformiadau byw yw'r Stiwdio. Am 14:00 bydd cyfle i fwynhau datganiad o weithiau cyfoes Cymreig gan Llŷr Williams, y pianydd rhyngwladol sy’n hanu o Rosllannerchrugog. Mae’r datganiad yn cynnwys y perfformiad cyhoeddus cyntaf o bedwar gwaith gan Brian Hughes yn ogystal â’r darn ‘The time of the singing birds’ gan Rhian Samuel a gweithiau gan Richard Elfyn Jones a Geraint Lewis. A chyn y datganiad bydd cyfle i holi Llŷr am ei ddylanwadau cynnar a’i fagwraeth gerddorol yn y Rhos, gyda’r cyfan yn Encore am 12:15.
Ai Huw Morys o Ddyffryn Ceiriog yw bardd mawr mwyaf anghofiedig Cymru? Dewch i wrando ar Dr Eurig Salisbury’n trafod ei ymchwil yn y Babell Lên am 13:00. Yn fardd y werin a’r ‘byddigions’, disgrifiodd Syr Thomas Parry gerddi Huw Morys fel rhai ‘chwyldroadol’.
Draw yn y Tŷ Gwerin cawn glywed am John Parry, telynor dall Rhiwabon, un o arwyr Elinor Bennett, a hi fydd yn talu teyrnged iddo gan gyflwyno trefniannau o alawon o’i gasgliadau a rhai o’i weithiau gwreiddiol, gydag ambell delynor arall yn ymuno yn y sesiwn hefyd. Mae'n dechrau am 13:30.
O'r miloedd o luniau a dynnwyd gan Geoff Charles, ffotograffydd Y Cymro am flynyddoedd, un o'r rhai mwyaf trawiadol oedd yr un o Richard (Carneddog) a Catrin Griffith yn gadael eu fferm yn Nanmor ger Beddgelert yn 1947. Ceir perfformiad cyntaf yr albwm cysyniadol, ‘Carneddi’, gan Iestyn Tyne am 19:45 yn y Tŷ Gwerin.
Ysbrydolwyd yr albwm, a recordiwyd yn fyw dros dridiau yn Stiwdio Sain, gan y llun enwog, ac mae’n cyfuno alawon ffidil yn y traddodiad Cymreig gyda chyfansoddiadau newydd, geiriau a cherddi gwreiddiol a ysgrifennwyd gan Carneddog a'i gyfoeswyr, alawon emyn a phenillion llafar. Bydd Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard a Simmy Singh yn ymuno â Iestyn i berfformio.
Yng Nghaffi Maes B am 18:00 bydd Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn cyflwyno ‘Wrecslam!’, pedair drama fer newydd wedi’u gwreiddio yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae'n dilyn llwyddiant ‘Rŵan/ Nawr’ yn 2023 a ‘Ha/Ha’ y llynedd, gan gryfhau’r berthynas rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd i ddatblygu a chynhyrchu dramâu ysgafn byrion Cymraeg.
Dewch i Encore am 19:30 i ddymuno pen blwydd hapus iawn i sioe eiconig ‘Les Misérables’ sy’n 40 oed eleni. Stifyn Parri fydd yn sgwrsio gyda pherfformwyr sydd wedi bod yn rhan o’r sioe, gan gynnwys Luke McCall a Mared Williams.
Ac i gloi'r diwrnod, cawn gyd-ddathlu bywyd Dewi Pws Morris, un o gymeriadau mawr Cymru, ar Lwyfan y Maes am 21:00. Bu farw Dewi wedi salwch byr ychydig ddiwrnodau ar ôl Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd, a phenderfyniad ei ffrindiau a'i gyfoedion oedd cynnal noson arbennig i'w gofio. Bydd Band Tŷ Potas, Pedair, Elidir Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, Cleif Harpwood, Hefin Elis a mwy yn rhan o noson arbennig, ‘Nwy yn y Nen’.