Person wearing a straw hat, black blazer, and sunglasses hanging from the blazer at an outdoor event with red banners and blurred crowd in the background
3 Awst 2025

Mae Maxine Hughes, sy’n wreiddiol o Gonwy, yn adnabyddus fel cyfieithydd swyddogol Cymraeg i’r ddau actor o Hollywood a brynodd Glwb Pêl-droed Wrecsam bedair blynedd yn ôl

Byddai’r newyddiadurwraig uchel ei pharch yn aml yn pryfocio’r ddau wrth iddynt frwydro i ddod i delerau â rhai ymadroddion Cymraeg.

Ond mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un heriol i Maxine, a ddatgelodd yn ddiweddar ei bod newydd orffen cwrs dwys o gemotherapi ac yn wynebu llawdriniaeth bellach yn syth ar ôl yr Eisteddfod.

Dywedodd fod y diagnosis wedi dod yn fuan ar ôl marwolaeth ei thad ddiwedd y llynedd.

Wrth siarad ar y Maes, dywedodd ei bod yn hynod falch o dderbyn y gwahoddiad i fod yn Arweinydd Cymru a’r Byd yn yr Eisteddfod.

“Ac roeddwn i yn yr ysbyty pan ddaeth yr e-bost yn dweud fy mod i’n cael fy urddo i’r Orsedd. Bu bron i mi lewygu, roeddwn i mor hapus.

"Mae’n anrhydedd mor fawr cael fy nghydnabod gan yr Orsedd, ac fel Arweinydd Cymru a’r Byd eleni – ac mae’n fwy arwyddocaol fyth gan fod yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Rwy’n falch iawn bod teulu fy nhad yn dod o Wrecsam, a byddai ef wedi bod hyd yn oed yn fwy balch bod hyn yn digwydd yma, yn ei dref enedigol,” meddai.

Ychwanegodd Maxine ei bod yn mynd yn ôl i’r Unol Daleithiau yn syth ar ôl yr Eisteddfod ac yn cael llawdriniaeth yn gynnar yr wythnos nesaf.“Roedd y llawdriniaeth i fod i ddigwydd yr wythnos hon, ond llwyddais i egluro i’r llawfeddyg fod angen i mi fod yma, ac fe gytunodd i’w gohirio am wythnos,” meddai.

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod bob blwyddyn.

“Byddaf yn anelu i ddod nôl i Gymru ym mis Awst gyda’r bechgyn i weld aelodau’r teulu, ac yn mynd draw i’r Eisteddfod ble bynnag y caiff ei chynnal. Yn ogystal â bod yn Arweinydd Cymru a’r Byd, byddaf yn cynnal sesiynau eraill gyda Llywodraeth Cymru a myfyrwyr,” meddai.

Pan oedd yn ifanc, bu Maxine yn cystadlu’n gyson ac yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhan fawr o’m plentyndod. Roeddwn yn adrodd yn unigol fel disgybl yn Ysgol Bodnant, ac yn Ysgol Bryn Elian roedd llawer o ganu. Buom yn dawnsio ac yn cystadlu mewn gymnasteg hefyd – ac roeddwn i’n hoffi cymryd rhan a mwynhau,” meddai.

Mae ei gwaith wedi cynnwys rhai o straeon newyddion mwyaf y byd – o’r daeargryn a’r tswnami yn Japan i’r rhyfel yn Syria, ac wrth gwrs etholiadau America.

Cafodd y cyfle i gyfarfod a chyfweld Donald Trump ar gyfer y gyfres ddogfen dair rhan ar S4C, Byd Eithafol. Bu’n negodi am fwy na blwyddyn i gael mynediad at Trump cyn sicrhau 30 munud o’i amser yn ei gartref yn Florida ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb, lle siaradodd am ei gynlluniau i sefyll eto i’w ailethol.

Mae sibrydion ar led ar Faes yr Eisteddfod y gallai Ryan Reynolds a Rob McElhenney ymddangos cyn diwedd yr wythnos, ond eglurodd Maxine fod hynny’n annhebygol.

“Maen nhw’n brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd mewn cynghrair newydd, ac mae eu ffocws i gyd ar y clwb.

"Mae’r hyn maen nhw wedi’i wneud gyda’r clwb wedi bod yn ffantastig, ac rwy’n gwerthfawrogi’r hyn maen nhw wedi’i wneud dros y ddinas,” meddai.

Rhoddodd Maxine anerchiad fel Arweinydd Cymru a’r Byd yn ystod y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn nos Sul.