Cyflwynwyd Medal R Alun am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol i wraig sy’n cael ei hadnabod gan genedlaethau o drigolion ei hardal fabwysedig am ei gwaith di-baid i hyrwyddo diwylliant Cymreig
Cynigir y fedal i gymwynaswr bro sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol, er cof am y diweddar Barch. R. Alun Evans, ffigwr canolog yn natblygiad yr Eisteddfod, a wasanaethodd ar y Cyngor am flynyddoedd lawer ac fel Cymrawd ers 2007. Bu farw ychydig ddyddiau ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl, yn 86 oed.
Yn ei henwebiad ar gyfer y Fedal, dywedwyd am Wenna Bevan Jones o Landysul ei bod yn “gweithio’n dawel ac effeithiol heb ddisgwyl cydnabyddiaeth – a’r cyfan yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwell ganddi weithio tu ôl i’r llenni, ac nid yw’n chwennych unrhyw glod.”
Wrth dderbyn y Fedal, dywedodd Wenna Bevan Jones ei bod yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd, yn enwedig gan ei bod yn adnabod teulu R. Alun pan oedd yn byw ym Maldwyn,
“Roedd yn sioc, ond rwy’n gwerthfawrogi’r anrhydedd gan fy mod yn cofio’r teulu yn Llanbrynmair – R. Alun a’i ddiweddar dad, y Parchedig Robert Evans. Roedd fy nhad yn fferyllydd ym Machynlleth, ac rwy’n ei gofio’n glir.
"Roedd y seremoni yn emosiynol iawn gyda chymaint o bobl yn rhoi clod imi, ond rwy’n hynod o falch.”
Mae Wenna wedi byw yn ardal Llandysul ers dros hanner canrif, ac wedi gweithio’n ddiwyd, yn ddi-flino ac yn graenus yn y gymuned leol. Am 25 mlynedd bu’n Ynad Heddwch ac yn Gadeirydd ar Fainc Ceredigion. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli Cwmni Theatr Arad Goch ac yn rhan flaenllaw o raglenni nodwedd lleol.
Bu’n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Dyffryn Teifi, yn ogystal ag ysgrifenyddes Cymdeithas Rhieni ac Athrawon y ddwy ysgol. Hi oedd trefnydd cyntaf cynllun ‘Pryd ar Glud’ yn ardal wledig Llandysul, ac aelod brwd o bwyllgor yr Ŵyl Fwyd. Bu hefyd yn Swyddog Croeso gweithgar i artistiaid yng Ngŵyl Werin y Cnapan.
Sefydlodd Gylch Darllen Llandysul a bu’n gymwynasgar iawn gyda Chymdeithas y Dysgwyr yn yr ardal.
Fel merch ifanc ym Maldwyn, bu Wenna’n adrodd mewn eisteddfodau lleol. Yn ddiweddarach bu’n nyrsio yn Birmingham, lle cyfarfu â’i gŵr, Huw. Symudodd y teulu i Landysul pan gafodd Huw swydd fel seiciatrydd yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili.
“Penderfynais fod rhaid dod i adnabod yr ardal, a dechreuais fynd i Ferched y Wawr,” meddai.
Tyfodd ei hymroddiad i’r gymuned o hynny ymlaen. Erbyn hyn, yn bedwar ugain oed, mae’n parhau i gefnogi llu o fudiadau lleol gydag arddeliad a graen. Mae’n ysgrifenyddes drylwyr a gohebydd y wasg i gangen Llandysul o Ferched y Wawr, ac wedi gwasanaethu fel Llywydd y gangen, ysgrifenyddes Pwyllgor Dyfed, ac ysgrifenyddes pwyllgor cofeb Gwenllian yng Nghydweli.
Bu hefyd yn weithgar gyda Merched Glannau Teifi, gan ymgymryd â swyddogaethau megis llywydd, ysgrifenyddes a gohebydd y wasg. Hi oedd prif symbylydd Cymdeithas Gefeillio Llandysul/Plogoneg, gan groesawu sawl mintai o Lydaw i’r fro.
Mae’n gwneud cyfraniad nodedig i Gymdeithas Cymmrodorion Llandysul fel ysgrifenyddes a gohebydd y wasg ers blynyddoedd lawer, ac mae’n gyn-lywydd. Gall olrhain ei haelodaeth yn ôl i’r 1960au pan oedd yn byw yn Birmingham.
Mae Wenna hefyd yn aelod ysbrydoledig o fwrdd golygyddol papur bro Y Garthen, ac yn ohebydd lleol effeithiol. Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd yn 2009 am ei chyfraniad arwyddocaol i’w hardal. Mae’n aelod ffyddlon o gapel Carmel, lle mae’n cynorthwyo i drefnu digwyddiadau dan nawdd yr addoldy.
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd, fel R. Alun, wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol am gyfnod sylweddol o amser. Bydd y wobr yn cadw enw R. Alun yn fyw ar wefusau pobl Cymru am genedlaethau i ddod.”
Croesawodd teulu R. Alun y bwriad i greu’r wobr. Dywedodd ei ferch, Betsan Powys, “Rydym wrth ein bodd gyda’r syniad gan y bydd yn cadw ei enw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu’n rhan mor fawr o’i fywyd. Rydym yr un mor hapus fod y wobr i’w chyflwyno i rywun sydd wedi gwasanaethu ei bro a’i chymuned.”
