Beth sy'n werth i'w weld heddiw? Dyma bigion y dydd gan Eryl Crump
Heddiw, cyflwynir Medal Syr TH Parry-Williams er anrhydedd yn y Pafiliwn am 12:30. Dyma gyfle’r Eisteddfod i anrhydeddu person brwd ac ysbrydoledig sydd wedi gweithio’n wirfoddol i feithrin a hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn enwedig ymhlith pobl ifanc am flynyddoedd.
Ac yna heno, bydd y cystadlu hwyrol yn cychwyn, gyda’r partïon cerdd dant, alaw werin, dawnsio gwerin a'r côr ieuenctid, sy’n sicr o ddenu cynulleidfa gref i mewn i’r Pafiliwn.
Cynhaliwyd Eisteddfod 1945 yn Rhosllannerchrugog, a daeth y cystadlu i stop annisgwyl gyda chyhoeddiad gan ysgrifennydd yr Eisteddfod, JT Edwards o’r llwyfan fod Siapan wedi ildio, a bod y rhyfel ar ben. Yn sicr, dyma’r unig bryd i gystadleuaeth gydadrodd gychwyn yn ystod cyfnod o ryfel a gorffen gyda heddwch yn y byd.
Ychydig ddyddiau ynghynt roedd bomiau atomig wedi ffrwydro yn Hiroshima a Nagasaki, a bydd ymateb cyfoes i’r digwyddiadau erchyll hynny yn y Babell Lên am 11:45. Mererid Hopwood sy’n cadeirio ‘Cwmwl Awst 1945’ gyda Hywel Griffiths, Jim Parc Nest, Robat Powell, Jo Heyde a Tecwyn Ifan yn cymryd rhan.
Mae sioe wyddoniaeth M-SParc, ‘Tonnau’, yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrne arbennig, ac ar brydiau, anhygoel, i ddarganfod mwy am rhythm cudd y fydysawd. Dewch draw i’r Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 15:00 i ddysgu mwy.
Dechreuodd prosiect Mas ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, er mwyn cydweithio gyda’r gymuned LHDTQ+, ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth. Am 14:45 yn y Babell Lên, y Gêiryn, Kristoffer Hughes, fydd yn cadeirio Talwrn y llenorion lliwgar, gyda dau dîm yn mynd benben â’i gilydd, Ceinciau Ceridwen a Pryderi mewn Prada – gyda’r Gêiryn yn penderfynu pwy fydd yn llwyddiannus!
Ac yn Y Stiwdio am 19:30, bydd gweithgareddau Mas ar y Maes yn parhau gyda Elgan Llŷr Thomas yn cyflwyno ‘Rhapsodïau’r Enfys’, noson sy’n dathlu cyfraniadau cerddorol cyfansoddwyr cwiar drwy’r cenedlaethau, gyda gwaith gan Novello, Tchaikovsky, Bernstein, Schubert, Britten, Saint-Saëns ac eraill.
Mae Brwydr y Bandiau Gwerin yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a Radio Cymru er mwyn darganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd. Heddiw, cawn wybod pwy sy’n ennill, gyda Paul Magee, Elin a Carys, Danny Sioned a Rhys Llwyd Jones yn perfformio yn y rownd derfynol yn y Tŷ Gwerin o 14:40, gyda chyhoeddi’r enillydd am 17:30.
Wrth grwydro'r Maes cadwch olwg am ddau griw theatrig a'u perfformiadau lliwgar. Bydd Theatr Hijinx yn cyflwyno ‘Robots’ am 13:00 a 15:00. Yn y dyfodol, mae pawb yn cael anrheg o robot gan eu hawdurdod lleol. Beth allai fynd o’i le? Sioe theatr stryd chwareus, gyfranogol sy’n gofyn pwy sy’n rheoli pwy mewn oes o ddeallusrwydd artiffisial?
Ac yna am 14:00 a 17:00, Kitsch ‘n’ Sync Collective sy’n cyflwyno ‘Babs a Stella’, dwy gadet gofod cosmig o’r blaned Kitschtopia, lanio ar genhadaeth i gael hyd i’r Dr Dreadful drwg, ac maen nhw angen eich help!
Yng Nghaffi Maes B, am 20:00, bydd y darlleniad cyntaf o ddwy ddrama gomedi mewn datblygiad sef ‘GGGOC’ a ‘Parti Plu Mrs T To Be’, gan Caryl Burke a Mari Elen, Elliw Dafydd a Naomi Seren, mewn sesiwn o’r enw ‘Trafferth mewn Tafarn’.
Pys Melyn, y band o Ben Llŷn sydd wedi rhyddhau tair record hir a theithio ledled Cymru a thu hwnt gydag artistiaid fel Gruff Rhys, Melys a Melin Melyn, sy’n cloi arlwy Llwyfan y Maes heno am 21:00.