Sylwadau'r Archdderwydd Mererid o'r Maen Llog yn Wrecsam
Gallwn ganolbwyntio heddiw ar groeso twymgalon Wrecsam ac ar amrywiaeth rhyfeddol rhaglen yr Eisteddfod hon – a gadewch inni longyfarch pawb sydd wedi bod ynglŷn â hynny. Ond wrth baratoi, yr hyn oedd yn mynnu ymwthio i’m meddwl i oedd llun o Robin McBryde yn cario cleddyf yr Orsedd - cleddyf sydd, yn anymarferoldeb ei bwysau, ac yn y wain sy’n watastadol orchuddio’i lafn – yn symbol o heddwch.
Dyna’r gair sy’n gwasgu heddiw, a’n cwestiwn A OES HEDDWCH? nid yn gofyn am ‘oes’ neu ‘nac oes’ o ateb, ond yn hytrach yn gofyn am ymateb. Ac mae’n hymateb ni, bob tro, mi wn, yn ddyhead gwaelod y galon: ‘Heddwch!”.
Ry’n ni wedi ymbil am heddwch yn sŵn rhyfel ar hyd y canrifoedd. Roedd hi’n rhyfel pan agorodd Iolo Morganwg yr Orsedd ym Mhontypridd yn ôl yn 1814; fel yr oedd hi’n rhyfel, hyd fyddardod, yn 1945 a’r Eisteddfod gerllaw yn Rhosllanerchrugog.
Ac eleni, Gyfeillion, ry’n ni’n gweld ac yn clywed ei bod hi’n rhyfel eto fyth. Gaza. Ac Wcrain, Myanmar, Darfur, Congo, a llawer mwy.
Gweld. Clywed. Dau o’r pum synnwyr sy’n gadael i ni ddirnad y byd o’r tu-fas-tu-fewn.
Ond gallwn hefyd ddirnad y byd o’r tu-fewn-tu-fas – drwy gyneddfau fel y gallu i gofio, myfyrio, … dychmygu a gobeithio, hefyd.
Bydd sawl cyfle’r wythnos hon i gofio a myfyrio am ddioddefwyr rhyfeloedd ddoe a heddiw, ac mae hynny’n bwysig … cyn belled ag ein bod ni’n osgoi’r perygl i adael i hynny ein llethu ni, ein hala ni i feddwl bod y broblem yn rhy fawr a ninnau’n rhy fach i’w datrys - achos dydy hynny ddim yn wir. Dim mwy na’r myth a bedlerwyd ar hyd y canrifoedd - yn niwylliannau’r Gorllewin o leiaf - mai bodau rhyfelgar y’n ni wrth reddf ac ers y cychwyn. Darllenwch waith rhai fel Douglas Fry a’i gydweithwyr i gael megis dechrau gweld bod cyd-fyw’n heddychlon nid yn unig yn bosibl ond yn gydnaws â phwy ydyn ni go iawn.
Y gamp yw troi’r cofio’n obeithio – y grym cadarnhaol hwnnw sy’n caniatáu i ni ddychmygu’r peth gwell a chanfod y ffordd tuag ato. Y gamp yw newid y naratif, a dweud y stori arall, yr un sy’n ein siwto ni, laweroedd cyffredin y byd, ac nid yr ychydig grymus sy’n pesgi ar elw rhyfelgarwch; y stori sy’n dweud ‘digon yw digon’.
Dau awgrym:
Darllenwch adroddiad Academi Heddwch sy’n cyflwyno’r syniad o ‘Gymru fel Cenedl Heddwch’, ac yna – yn bwysig - cynigwch awgrymiadau, gwelliannau, dewch yn rhan o’r cyd-ddychmygu … pa wahaniaeth allai ‘Cymru fel Cenedl Heddwch’ ei wneud i’r hen fyd dolurus hwn?
Yna’n ail: bu sôn am godi cofeb i Iolo, y dychymyg mawr tu ôl i’r Orsedd a llawer peth arall sy mor werthfawr inni. Ond wedi ystyried yn ddwys, dyma sylweddoli nad nawr yw’r amser i godi cerflun arall eto fyth i ddyn amherffaith. Oherwydd, er anferthed ei athrylith, a chymaint ein dyled iddo, amherffaith ydoedd Iolo fel ni gyd, (ac er y gallech chi daeru, rwy’n siŵr, mai seintiau yw llawer un y tu ôl imi – gadewch imi fentro dweud, mai amherffaith ydynt hwythau hefyd - fel chi a fi!). Y syniad nawr yw codi cofeb i egwyddorion Iolo yn lle, ac er gwaethaf y prinder arian ar bob tu, ry’n ni am fentro comisiynu darn o gelfyddyd trawiadol a all ysgogi pawb a’i gwêl i ofyn, nid dim ond yn ystod ’Steddfod, nid dim ond yn nannedd argyfwng, ond gydol y flwyddyn, beth yw ystyr byw mewn heddwch; heddwch cadarnhaol; heddwch nid fel ffordd o ddod â rhyfel i ben, ond heddwch fel nad oes achos i ryfel ddechrau. (Mae taflenni ar gael am fwy o wybodaeth ac mae angen eich help arnom.)
Flynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio dal baner a’r gair HEDDWCH arno ar sgwâr Caerfyrddin –a rhywun yn dod ataf a oedd newydd gael gwers am orchmynion y Gymraeg: eisteddWCH, darllenWCH, siaradWCH. Eisiau gwybod oedd arni beth oedd fy maner i’n gofyn iddi ei wneud. Chofia’i ddim beth ddwedais i. Ond pe byddai hi’n gofyn imi heddiw, byddwn yn dweud heb betruso bod y gair ‘heddwch’ yn gofyn am inni obeithio.
Mae cannoedd o orseddogion yn cwrdd yr wythnos hon, gwn felly nad yw hi’n bosib i mi – na neb arall – gynrychioli barn pawb ohonom ar bopeth. Tu hwnt i faterion sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag ‘anrhydeddu celfyddyd ac amddiffyn y Gymraeg’ – y llw ry’n ni gyd yn ei thyngu – alla’i ddim hawlio mai fy marn i yw eich barn chi. Ond yn yr angerdd rwy’n ei synhwyro yn eich ymateb i’r cwestiwn a ofynnwn o dan gysgod cleddyf Robin o Fôn, rwyf am hyderu y gwnewch chi, o leiaf, ystyried y pethau hyn.
A chan nad gwleidydd na phregethwr mohonof – rwyf am orffen gyda cherdd, un sy’n deillio o’r gred nad yr ochrau yw’r broblem waelodol mewn rhyfel – ond y rhyfel ei hunan.
Newid y drefn
Trech na’r cwestiynau
pwy, sut a pham,
yw dal yn dy galon
un tad, un fam;
trech na’r holl holi
am werth cell a chaer,
yw dal yn dy galon
un brawd, un chwaer;
na gofyn pwy chwalodd
yr awyr iach,
trech dal yn dy galon
un plentyn bach;
a threch na thwyllo
bod y gofid ymhell,
yw dal yn dy galon
y gwybod gwell:
gwybod, na rhyfel,
na bom, na gwn,
trech heddwch, trech cariad,
a’r heddiw hwn
na maes y gad,
trech cadair a bwrdd,
trech dod at ein gilydd,
siarad, cwrdd;
a threch nag anobaith
troi dy gefn,
yw gwybod dy galon:
rhaid newid y drefn.