Child in dark jacket using a dropper to place liquid into a petri dish, with a conical flask nearby, in an outdoor science activity setting
5 Awst 2025

Deallusrwydd artiffisial yw un o bynciau llosg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda thrafodaeth am ei ddylanwad ar raglen y Pentre Gwyddoniaeth a’r Babell Lên

Mae AI, i roi ei dalfyriad gyffredin, yn cyfeirio at allu systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol, fel dysgu, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Mae systemau AI wedi’u cynllunio i brosesu data, nodi patrymau, a gwneud rhagfynegiadau yn seiliedig ar y wybodaeth honno.

Yn y Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n cael ei gyd-gysylltu eleni gan M-SParc – Parc Gwyddoniaeth Gogledd Cymru – bydd y Prifardd Rhys Iorwerth yn cadeirio’r sesiwn "A Oes AI?" brynhawn dydd Iau am 14:45.

Cyflwynir y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg i Dewi Bryn Jones am ei waith arloesol yn creu meddalwedd ac apiau yn y Gymraeg. Cyflwynwyd y Fedal gyntaf yn 2004 i’r Athro Glyn O Phillips. 

Yn enedigol o Rhosllannerchrugog, fe wnaeth gyfraniad eithriadol i wyddoniaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bu farw yn 2020, ond mae ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli ac yn cael ei hadlewyrchu yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan annog cenedlaethau newydd i ddilyn ei gam. Telir teyrnged iddo mewn cyflwyniad arbennig brynhawn Iau am 15:00.

Mae Sioe Wyddoniaeth M-SParc yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod eleni, gyda ffocws ar Tonnau.

“Be di’r tôn, yr egni, sy’n dod â ni nôl at ein gilydd, a sy’n plethu mewn i’n bywydau pob dydd? Byddwn yn edrych ar donnau’r môr, tonnau sain, a hyd yn oed y tonnau sydd tu mewn i’n cyrff.

"Bydd cyfle i ddeall curiad calon, a chael gweld yn fyw sut mae cerdd yn cyrraedd ein clystiau. Gyda rhywbeth newydd i bawb o bob oed i ddysgu, ‘da ni’n annog pobl i ddod i gofio pam fod gwyddoniaeth mor ddiddorol – oherwydd ei fod yn rhan o’n bywydau ni i gyd bob dydd.

"Mae’r sioe yn lot o hwyl,” meddai Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned M-SParc.

Gobaith trefnwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw fod rhywbeth i bawb – er mwyn i blant gael codi diddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, ac i oedolion gofio pa mor hwyl yw’r pwnc a dysgu pethau newydd.

Ychwanegodd Emily, “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad eang o ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Gymreig – ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae un ardal wedi disgleirio fel man lle mae traddodiad yn cyfarfod â’r dyfodol: y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

"Dyma le mae arloesi’n cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg, lle mae plant yn dysgu trwy chwarae, lle mae’r to hyn yn darganfod technolegau newydd mewn ffordd hawdd i’w deall, ac mae pawb yn cael profiadau rhyfeddol a bythgofiadwy.

"Mae’r pentref hwn yn rhan hanfodol o’r Eisteddfod, gan gynnig llwyfan i fudiadau, cwmnïau ac arbenigwyr rannu syniadau arloesol, datblygiadau diweddar, ac ymchwil gyffrous.

"Boed yn ymwneud ag iechyd, ynni adnewyddadwy, deallusrwydd artiffisial neu amaethyddiaeth – mae’r pentref yn cynnig rhywbeth i bawb: plant ysgol, pobl ifanc, teuluoedd, arbenigwyr, a’r to hyn fel ei gilydd.

"Dewch i ddarganfod y dyfodol!”