Wedi canu ym mhob Eisteddfod ers chwe deg mlynedd, mae’r canwr gwerin poblogaidd Dafydd Iwan wedi perfformio ar Lwyfan y Maes am y tro olaf.
Camodd Dafydd a’i fand talentog i’r llwyfan brynhawn Sul, gyda miloedd o bobl yn disgwyl iddo ganu rhai o’i hoff ganeuon.
Dywedodd, “Mae’n rhaid tynnu’r llinell yn rhywle, ac rwy’n edrych ymlaen at fwynhau sawl ‘Steddfod eto – o’r seddau cefn!”
Ond pwysleisiodd Dafydd na fydd yn rhoi’r gorau i ganu’n gyfan gwbl, “Rwy’n gwybod ei fod yn dipyn o jôc fy mod i am roi’r gorau i ganu. Dwi wedi bod yn trio ymddeol ers blynyddoedd! Ond rhoi’r gorau i ganu gyda’r band ydw i.
"Peidiwch â chamddeall – rwy’n mwynhau canu gyda’r band, ac rwy’n cael hwyl rhyfeddol yn canu gyda nhw tu ôl i mi. Ond teimlais ei bod yn briodol yn awr rhoi’r gorau i’r nosweithiau mawr.
Mae’n dechrau mynd yn faich – y nosweithiau hwyr a’r holl drefniadau i gael pawb ynghyd. Felly, ar ôl mis Awst, byddaf yn canu ar ben fy hun, gyda chyfeiliant y gitâr – rhyw fath o sgwrs a chân fydda i’n ei wneud,” meddai.
Roedd Dafydd yn benderfynol o sicrhau bod y perfformiad olaf ar Lwyfan y Brifwyl yn un cofiadwy, “Rwyf wedi mwynhau perfformio ar Lwyfan y Maes, ac mae gennyf atgofion hapus iawn o’r dorf enfawr ddaeth i’r Maes yn Nhregaron.
"Roedd honno’n Eisteddfod gyntaf ar ôl pandemig y coronafeirws, ac ar ôl i Gymru frwydro drwodd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
"Roedd nifer fawr o bobl ifanc yn y gynulleidfa – ac roedden nhw’n gwybod geiriau fy nghaneuon.
Roedd yn achlysur arbennig iawn sy’n aros yn fyw yn y cof,” meddai Dafydd.
Wrth hel atgofion am Eisteddfodau’r gorffennol, dywedodd Dafydd mai Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965 oedd y gyntaf iddo berfformio ynddi, “Roedd honno’n Eisteddfod gofiadwy. Am ryw reswm, roeddwn yn aros mewn ysgol ym Machynlleth.
"Roedd gwlâu cynfas wedi’u gosod mewn dosbarthiadau, a phobl yn cysgu yn yr ystafelloedd. Ymhlith y rhai yno oedd Waldo Williams ac Eirwyn Pontshân.
"Perfformiadau anffurfiol ac answyddogol oedd y rheini – canu ar ben fy hun gyda’r gitâr o amgylch Maes yr Eisteddfod. Rhywbeth tebyg fu hi am rai blynyddoedd.
“Y patrwm yn y Pafiliwn bryd hynny oedd cyngerdd clasurol wedi i’r cystadlu ddod i ben am y diwrnod.
Gwelais gyfle, gyda eraill, i drefnu rhywbeth mwy arbrofol – defnyddio’r Pafiliwn i gynnal nosweithiau llawen a chymanfeydd canu gwerin ar ôl y cyngerdd.
“Yn Eisteddfod Rhydaman 1970, trefnwyd rhywbeth ychydig yn wahanol. Peintio’r Byd yn Wyrdd oedd teitl sioe o ganeuon gyda rhyw fath o stori ynddynt – a hynny’n hwyr yn y Pafiliwn.
"Roedd problemau, yn sicr – roedd y Pafiliwn yn oer – ond gan fod y peth yn newydd, roedd y lle’n llawn a chawsom lawer o hwyl.”
Ar ddechrau’r 70au, roedd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu nosweithiau cerddorol i bobl ifanc, a chymerodd Dafydd ran mewn nifer ohonynt.
Un o’r enwocaf oedd Tafodau Tân ym Mhafiliwn Corwen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun 1973. Recordiwyd y noson honno gan Gwmni Recordiau Sain. Mae pedair cân gan Dafydd ar y record: y gan werin Mi Welais, ac yn ddiweddglo i’r noson – Y Wên Na Phyla Amser, Pam Fod Eira’n Wyn, ac yr anthemig I’r Gad.
Ers hynny, mae Dafydd wedi ysgrifennu llawer o faledi anthemig a chaneuon dychanol gydag ymyl wleidyddol. Ac er na fydd Dafydd a’r band yn perfformio ar Lwyfan y Maes y flwyddyn nesaf – bydd ei gerddoriaeth Yma o Hyd!