Person in a well-lit studio wearing a striped shirt and colorful scarf, seated in front of a desk with tools and materials, with greenery visible through the window
6 Awst 2025

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen

Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel. 

Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Rachel Bedwin sy’n byw yn ardal Bangor, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.

Daw Lucy Cowley o Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni. Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a’i nain yn ffoadur o’r Wcrain. Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, ‘doedd hi ddim yn hyderus, ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant. 

Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth. Mae hi’n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy’n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol, rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ail afael yn eu Cymraeg. Mae’n cynllunio gemwaith a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst, a derbyniodd Lucy Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey.  Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un. 

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.