Mae’n anodd credu ei bod hi’n ddydd Mercher yn barod ac ein bod ni dros hanner ffordd drwy’r wythnos
Ond mae ‘na ddigon o bethau i’w gweld a’u gwneud o hyd, a dyma rai o bigion y dydd heddiw.
Un o atgofion bythgofiadwy’r Eisteddfod y llynedd oedd gweld cynulleidfa’r Pafiliwn yn codi i’w traed fel un pan anrhydeddwyd gŵr a fu'n brwydo'n ddewr am flynyddoedd i adfer ei enw da gan yr Orsedd.
Mae Noel Thomas yn un o dros 500 o is-bostfeistri a gyhuddwyd ar gam o dwyllo'r Swyddfa Bost. Enillodd Noel, o'r Gaerwen, Ynys Môn, ac eraill eu brwydr yn y Llys Apêl a dilëwyd eu dedfrydau carchar. Ond megis dechrau oedd y frwydr am gyfiawnder. Dyma thema drama newydd gan Catrin Jones Hughes yn Y Sfferen, yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg nos Fawrth a heno am 20:00. Peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld.
Bydd Theatr Bara Caws yn dathlu eu hanner canrif y flwyddyn nesaf, ac yn briodol iawn, llwyfannwyd eu sioe gyntaf yn yr Eisteddfod yn Wrecsam yn 1977. Cyflwynir eu sioe ddiweddaraf, 'Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?' heno. Mae Hudson a Tegid yn ffrindiau agos ers diwedd y 70au ac wedi treulio pob ‘Steddfod (ar wahân i un) efo’i gilydd ers dyddiau coleg. Ond a yw posibiliadau o ddifyrrwch wedi gwibio heibio heb iddyn nhw sylweddoli? Dewch draw i’r Sfferen am 17:00 i ddarganfod mwy.
Y Fedal Ryddiaith yw prif seremoni’r dydd, gyda’r Orsedd yn dod ynghyd i gynnal seremoni liwgar yn y Pafiliwn am 16:00, lle bydd Aled Lewis Evans n traddodi’r feirniadaeth ac yn cyhoeddi a oes enillydd i’r Fedal hardd a gyflwynir eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, dan y testun ‘Ffin’ neu ‘Ffiniau’.
Cyhoeddiad pwysig arall heddiw yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn, a hynny eto yn y Pafiliwn am 13:20. Ond cyn hynny, bydd cyfle i ddod i adnabod y pedwar ar y rhestr fer mewn sgwrs ym mhabell Llywodraeth Cymru ym Maes D am 12:00. Y beirniaid yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.
Am 18:10 heno, bydd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn y cael ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn. Dewisir yr enillydd o blith cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn, gan banel o feirniaid yn y diwydiant. Cyflwynir y wobr ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Radio Cymru.
Enillwyr y wobr y llynedd oedd Cowbois Rhos Botwnnog am eu albwm hyfryd, ‘Mynd â'r Tŷ am Dro’, a bydd yn braf iawn eu gweld nhw’n dychwelyd i lwyfan y Tŷ Gwerin heno am 19:45.
Brwydr y Bandiau Maes B fydd yn denu’r sylw ar Lwyfan y Maes yn ystod y prynhawn gyda phedwar grŵp yn cystadlu am y wobr arobryn hon, sydd wedi helpu i roi cychwyn i yrfa ambell un o fandiau mwyaf Cymru dros y blynyddoedd.
Bydd pob band yn cael y cyfle i berfformio set o 20 munud o'u caneuon gwreiddiol am y wobr ariannol hael a'r cyfle i gael gig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd a chlywed eu caneuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru.
A’r lle i fod i gloi dydd Mercher ar y Maes os ydych chi’n hoff o gerddoriaeth? Bydd dathliad o gyfraniad Geraint Jarman dan olau cannwyll yn Y Babell Lên am 21:30 gyda cherddorion a beirdd yn dod at ei gilydd i gofio un o eiconau mwyaf Cymru, a fu farw wedi gwaeledd byr yng Nghaerdydd fis Mawrth eleni.
Cafodd ei albwm cyntaf,’ Gobaith Mawr y Ganrif’, ei ryddhau yn 1976 ac un o'r nosweithiau mwyaf oedd yn Eisteddfod Caerdydd yn 1978. Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a chyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys ‘Tacsi i'r Tywyllwch’, ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a ‘Diwrnod i'r Brenin’.
Fe'i hurddwyd yn yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 dridiau ar ôl codi'r to yng nghyngerdd Gig y Pafiliwn. Fe’i disgrifiwyd fel "cawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed", yn rhai o’r llu o deyrngedau a gyhoeddwyd i gofio amdano.