Ceremonial scene with a seated figure in a purple robe holding a red book, and a standing figure in white and gold attire holding an open folder, with others in the background at a formal event
6 Awst 2025

Bryn Jones sy’n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth a ddenodd 16 o ymgeiswyr

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Ffin | Ffiniau. Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan. 

Cyflwynwyd y Fedal er cof am ei Anrhydedd Dafydd Hughes, dreuliodd flynyddoedd dedwydd iawn yn Wrecsam, gyda ei deulu, Ann Tegwen, Catrin, Mari, Gerallt ac Ann Lloyd, a’r wobr ariannol o £750, gan Brifysgol Bangor.

Meddai Aled Lewis Evans yn ei feirniadaeth, “Cyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb. Mae yna galon a rhwystredigaeth a gwir ddawn yn y gyfrol hon. Mae’r awdur ynghanol sefyllfaoedd bob dydd, ac â meddwl eangfrydig. Mae yna bedair is-adran i’r gwaith, ac mae’r iaith lafar yn amlwg ac yn addas i’r cyd-destun. Mae’n amlwg bod yr awdur yn deall cynildeb y cyfrwng, sydd hefyd yn siarad cyfrolau. Mae’n llenor medrus sy’n ddifyr a byrlymus a llawn afiaith. Mae gallu yma i fynd o dan groen rhychwant o sefyllfaoedd cyfoes, yn ogystal â darnau sy’n peri i ni gwestiynu.

“Mae darnau ohonom i gyd yn y gyfrol hon – gyda chynildeb darnau fel ‘Ffotosynthesis’. Mae enwau lleoedd a hunaniaeth Gymreig yn amlwg fel thema, ac yn nifer o’r darnau ceir llinellau clo bachog sy’n hoelio’r darnau. Dyrchefir bywyd bob dydd ein cymdeithas gyfoes yn y gyfrol, ac emosiynau a gweledigaeth pobl gyffredin. Credaf y bydd yn apelio at drwch o ddarllenwyr. Mae eironi sefyllfaoedd cyfoes wedi ei gyflwyno’n blaen. Mae’n awdur hyblyg iawn – un munud yn rhoi golwg real iawn ar gapeli yn ‘Tŷ fy nhad’, ond wastad efo ymwybyddiaeth o ddwy ochr i bopeth.

“Rydym ninnau fel beirniaid wedi cael taith fuddiol a chofiadwy gan lenor o fri mewn cyfrol ddychanol a dig ar adegau, ond cyfrol hollol gelfydd a gwreiddiol yr un pryd.

Dywed Elin Llwyd Morgan, “Yn ôl diffiniad yr awdur ei hun, yr hyn a geir yma yw ‘casgliad o ryddiaith nad oes modd ei labelu yn ôl ffurfiau confensiynol’. Nid brolio’i hun a wna. I’r gwrthwyneb, yn y darn cyntaf un – ‘Beirniadaeth’ – mae’n lladd ar ei waith ei hun fel petai’n gwneud hynny o’n safbwynt ni’r beirniaid, gan gloi drwy ddweud: ‘I orffen ar nodyn cadarnhaol, mae’n fendith bod cyfrol Trilliw Bach yn sylweddol is o ran y nifer geiriau a ganiateir ar gyfer y gystadleuaeth.’ 

“... mae’r gwaith at ei gilydd yn bic-a-mics amheuthun y gellid ei ddarllen yn ei gyfanrwydd neu bicio i mewn ac allan ohono. Ac yn ogystal â hiwmor a beiddgarwch mae yma dynerwch a chyffyrddiadau gwirioneddol farddonol hefyd. Hyderaf y bydd hon yn gyfrol a fydd yn creu cryn argraff, yn ogystal â bod yn destun cryn drafod. Oherwydd hynny, a’r ffaith mai at hon y deuwn i a’m cyd-feirniaid yn ôl ati dro ar ôl tro, Trilliw Bach sy’n mynd â’r Fedal eleni.

Nododd Bethan Mair yn ei beirniadaeth hithau, “Mae Trilliw Bach eisiau i ni ei weld a’i glywed, a does ganddo ddim ffeuen o ots a yw’n digio nac yn ypsetio wrth dynnu sylw ato’i hunan. Mae’r gyfrol hon yn ddifrïol, yn amserol, yn taflu deunyddiau ffrwydrol i bob cyfeiriad heb hidio ble bydd y grenêds yn disgyn, na phwy a anafir ganddynt, ac mae’n gyforiog o hiwmor, dawn ysgrifennu a chyffro. Mae’r awdur hyd yn oed wedi cyfansoddi’i feirniadaeth ei hunan, i arbed gwaith i ni, sbo – neu i sicrhau y caiff feirniadaeth, yn wyneb digwyddiadau Eisteddfod y llynedd. Mae’n eofn, yn gras ar brydiau, yn falws melys o dyner brydiau eraill, ond drwy’r cyfan mae’n llenor o’i gorun i’w sawdl.

“Efallai na fydd pob darn yn y gyfrol yn apelio at bawb – yn wir, gobeithio y bydd yn gwneud i rai deimlo’n anghysurus iawn – ond mae gan Trilliw Bach weledigaeth o Gymru heddiw y mae’n rhaid ei rhannu. Rwyf innau a’m cyd-feirniaid yn gytûn taw hon yw’r gyfrol y bydd pawb yn ei darllen, ei thrafod a’i chloriannu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gwobrwyer Trilliw Bach.  

Cafodd Bryn Jones ei fagu ar aelwyd gefnogol yn Llanberis, ac mae’n ymweld yn gyson â’i deulu agosaf sydd yn dal i fyw yno. Bellach mae wedi ymgartrefu ym Mangor, ac yn byw dafliad carreg o gyn-leoliad Ysbyty Dewi Sant ble y cafodd ei eni.

Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis; yno fe daniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yng nghwmni nifer o athrawon brwdfrydig.

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ble y daeth dan ddylanwad ei athro Cymraeg, y diweddar Alwyn Pleming, a gyflwynodd iddo sylfeini’r iaith Gymraeg yn ogystal â chyfoeth ei llenyddiaeth. Yn 1982 graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, a chafodd fudd o fynychu darlithoedd ysgrifennu creadigol dan arweiniad y diweddar Athro Gwyn Thomas.

Mae Bryn wedi treulio’i yrfa ym myd addysg; cychwynnodd fel athro yn Ysgol Gynradd Llanfawr, Caergybi yn 1983, a threuliodd gyfnod hapus yn byw yn y dref, cyn ei benodi yn Ddirprwy Brifathro Ysgol y Gelli, Caernarfon yn 1989.

Yn 1995 cychwynnodd ei swydd fel Darlithydd Addysg yn y Coleg Normal (yn ddiweddarach, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor). Roedd yn fraint iddo gael cydweithio gyda darlithwyr hynaws a thalentog, a bu’n ffodus i ennill doethuriaeth ar sail ei ymchwil i addysg ddwyieithog yng Nghymru. 

Mae’n ddiolchgar am y profiadau llenyddol cynnar a gafodd mewn eisteddfodau lleol fel Eisteddfod Gadeiriol Llanrug (1983), ac Eisteddfod Gadeiriol y Groeslon (1992, 1995) a chafodd fudd o fynychu cyrsiau llenyddol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod y 1990au. Mae’n ddiolchgar i’r Athro Gerwyn Wiliams am gyhoeddi peth o’i waith ysgrifennu creadigol cynharaf yn y cylchgrawn llenyddol, Taliesin.

Ymysg ei ddiddordebau eraill mae hel achau a gweithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded mynyddoedd, beicio, a sgïo. Cafodd fwynhad hefyd o neidio o awyren – gyda pharasiwt! Yn ddiweddar mae wedi ailgydio mewn llenydda, ac yn edrych ymlaen at weld Cuddliwio, ei gyfrol gyntaf o ryddiaith, wedi’i chyhoeddi.

Mae’n dilyn llwyddiant un arall o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn y gystadleuaeth, pan enillodd Eurgain Haf, yn wreiddiol o Benisarwaun y Fedal.

Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.

Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam tan 9 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru