Rhoddwyd ystyr newydd i’r alwad “A Oes Heddwch?” yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1945 yn Rhosllannerchrugog, pan gyhoeddwyd o’r llwyfan fod Siapan wedi ildio a bod yr Ail Ryfel Byd ar ben
Roedd y cyhoeddiad am ddiwedd y rhyfel yn sydyn ac yn annisgwyl. Roedd cynulleidfa’r Pafiliwn yn mwynhau cystadleuaeth cyd-adrodd pan gamodd ysgrifennydd yr Eisteddfod, JT Edwards, i’r llwyfan i gyhoeddi’r newyddion.
Ysgrifennodd gohebydd y Western Mail, “Am eiliad, roedd tawelwch llwyr. Roedd pawb yn syfrdan, heb ddeall arwyddocâd y cyhoeddiad. Yna agorodd y llifddorau. Cododd y dyrfa ar eu traed, gan bloeddio a chymeradwyo’n uchel nes ei bod yn ymddangos fel pe bai’r tô yn codi. Ychydig yn y Pafiliwn y diwrnod hwnnw oedd â llygaid sych. Roedd pawb yn gwybod beth fyddai hyn yn ei olygu i’w gwŷr a’u meibion oedd dal i wasanaethu yn y Dwyrain Pell.”
Wedi i’r dathlu dawelu, cyhoeddwyd y byddai gwasanaeth o ddiolchgarwch yn cael ei gynnal. Crisialodd y Western Mail y diwrnod fel hyn, “So the Rhos Eisteddfod which began during the Second World War closed with the world at peace.”
Cynhaliwyd yr Eisteddfod ychydig ddyddiau ar ôl i’r bom atomig cyntaf gael ei ollwng dros Hiroshima, gan ladd tua 166,000 o bobl.
I nodi 80 mlynedd ers y digwyddiad dinistriol hwnnw, ac yn dilyn munud o dawelwch yn y Pafiliwn, cyflwynodd y cyfansoddwr Cian Ciarán, o’r grŵp Super Furry Animals, osodiad sain i’w brofi o fewn cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wedi’i ysbrydoli gan ymweliadau â Siapan, mae Hibakusha yn un o’r prosiectau celf sy’n cael eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn Cymru a Siapan – dathliad blwyddyn gyfan o’r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.
Mae’r cyflwyniad chwe awr yn adlewyrchu taith awyren yr Enola Gay o’i hediad hyd at ryddhau’r bom Little Boy dros Hiroshima, gan ddefnyddio 12 uchelseinydd sy’n amgylchynu’r cylch cerrig i greu profiad sain 360 gradd.
Mae Cian yn gobeithio y bydd y profiad yn annog eraill i ystyried effeithiau Hiroshima ac yn ysbrydoli adeiladu heddwch, gan adleisio galwad seremonïol craidd yr Eisteddfod: “A Oes Heddwch?”
Meddai Cian, “Rwy’n credu, o ystyried yr hinsawdd wleidyddol geowleidyddol bresennol, ei bod hi’n bwysicach nag erioed i ni fyfyrio. Mae’r darn hwn yn amserol ac yn ein hatgoffa o’r effeithiau trychinebus y gall rhyfel a gwrthdaro eu cael ar fywydau pobl.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn symbolaidd ac mae bob amser wedi cynnig gofod ar gyfer myfyrio ac adeiladu heddwch. Gwnes i’r penderfyniad ymwybodol i beidio â pherfformio, oherwydd roeddwn i eisiau i bobl ganolbwyntio ar y pwnc, arnynt eu hunain, ac ar eu profiad yn y gosodiad.”
Mae’r darn yn un o fwy na 20 o brosiectau celf a chydweithrediadau sy’n ffurfio Rhaglen Ddiwylliant Cymru–Siapan 2025. Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r British Council, mae’r rhaglen ddiwylliannol yn elfen allweddol o Flwyddyn Cymru a Siapan 2025, a gynlluniwyd i ddyfnhau cysylltiadau creadigol ac economaidd rhwng y ddwy wlad.
Fel rhan o raglen digwyddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cian yn ymddangos ochr yn ochr â’r ymgyrchydd Catharine Huws Nagashima, mudwr Cymreig i Siapan, i fyfyrio ar bwysigrwydd cofio er mwyn adeiladu heddwch. O dan y teitl “Cofio, Cofio, Cofio”, bydd y ddau yn siarad yn y digwyddiad ar lwyfan gyda Jill Evans, Is-Gadeirydd Academi Heddwch Cymru, sef “sefydliad heddwch” cyntaf Cymru.
Meddai Jill Evans, “Mae Blwyddyn Cymru a Siapan yn rhoi cyfle i’n dwy genedl ddysgu gan ein gilydd wrth rannu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.”
Ychwanegodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, “Mae Blwyddyn Cymru a Siapan yn gyfle i’n dwy genedl rannu adlewyrchiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd trwy gelfyddyd a diwylliant.”