Dwy chwaer ddaeth i’r brig ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal eleni yn Wrecsam
Swynodd Elin a Carys o Faldwyn y beirniaid Gwenan Gibbard ac Iestyn Tyne i ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth frwd rhwng pedwar cystadleuydd.
Dyfarnwyd Danny Sioned o Bontarddulais ger Abertawe’n ail, a Paul Magee o Gaergybi, Môn yn drydydd.
Mae cerddoriaeth werin yn rhedeg yn ddwfn yn eu gwaed, gyda’u tad, John Gittins, yn aelod o Plethyn, ac roedd dechrau perfformio fel deuawd yn gam naturiol iddyn nhw.
Gyda dylanwadau’n ymestyn o Lankum i Fairport Convention, mae gan eu caneuon deimlad Cymreig, Celtaidd a rhyngwladol cryf.
Fe gafodd cynulleidfa’r Tŷ Gwerin gyfle i fwynhau set lawn gan y ddwy chwaer yn ddiweddarach.
Mae hon yn gystadleuaeth newydd sbon, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl.
Y bwriad, meddai’r trefnwyr, yw dilyn esiampl llwyddiannus cystadleuaeth Brwydr y Bandiau drwy greu cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin, gan gynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau’r sîn werin ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a’r BBC, ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd.
Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig, neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.
Derbyniodd Elin a Carys wobr ariannol o £600, rhodd gan Bethan Rhiannon a Huw Williams er cof am Angharad, mam Bethan o’r band Calan.
Cyfrannodd Angharad ei halawon ei hun i’r traddodiad, a chyfeiliodd i nifer o ddawnswyr ar lwyfan yr Eisteddfod.
Yn ogystal, caiff Elin a Carys y cyfle i recordio a ffilmio dau gân i’w darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yr Eisteddfod.