Colorful 'Pentref Plant' sign with flowers and a butterfly, featuring the Principality Building Society logo; a person stands on the left and a red dragon mascot wearing a 'Principality' shirt on the right
6 Awst 2025

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’r Eisteddfod Genedlaethol yn rhannu hanes cyfoethog a chydblethedig sy’n dyddio’n ôl i 1860

Mae’n bartneriaeth sydd wedi’i gwreiddio mewn treftadaeth, diwylliant a chymuned – ac sy’n parhau i ffynnu hyd heddiw.

Ers dros 35 mlynedd, mae’r Principality wedi bod yn cefnogi’r Eisteddfod i ddathlu a hyrwyddo traddodiadau diwylliannol, iaith a threftadaeth Cymru.

Dywedodd Harri Jones, Pennaeth Marchnata a Chyswllt Cyhoeddus y Principality, y byddant yn noddi Pentre’r Plant ar Faes y Brifwyl eleni, gyda gweithgareddau amrywiol i blant o bob oed drwy gydol yr wythnos:

"Rydym yn falch o noddi Pentre’r Plant eleni yn yr Eisteddfod – digwyddiad cenedlaethol gwych ar garreg drws ein cangen yn Wrecsam.

"Ganwyd y Principality yng Nghymru yn 1860, tua’r un adeg ag y trefnwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr oes fodern i’w chynnal yn Aberdar.

"Mae’r ysbryd o arloesedd, dathlu, a chysylltiad â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg a nodweddodd ein dechreuadau ill dau yn parhau i’n gyrru ymlaen, ac rydym wedi ymrwymo i ddathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig.

"Rydym yn llawn cyffro am gymryd rhan yn yr holl ddathliadau, gan groesawu goreuon ein gwlad, ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog.

"Mae ein gweithgareddau cymunedol hefyd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac mae ein cydweithwyr wedi rhoi llawer o amser a chefnogaeth i nifer o ddigwyddiadau, timau chwaraeon, ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru."

Bydd Harri’n bresennol ar Faes yr Eisteddfod yn rhinwedd ei swydd, ond mae’n ymwelydd cyson â’r Brifwyl ers ei blentyndod:

"Rwy’n cofio bod ar y Maes yn fachgen bach, yn mynd gyda Nain i babell y Principality a chael diod o sgwash cryf iawn. Mae’n rhyfedd o beth fy mod bellach yn gweithio i’r Principality," meddai.

Ond mae cefndir Eisteddfodol teulu Harri yn ddyfnach na dim ond ymweld â phebyll ar y Maes. Enillodd ei daid, Rowland Jones, y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Hen Golwyn yn 1941, ac eto yn 1949 yn Nolgellau.

"Mae’n adnabyddus fel Rolant o Fôn wrth gwrs, ac mae ei enw ar y tlws sy’n cael ei gyflwyno i’r tîm buddugol yn Ymryson y Beirdd. Bu’n aelod o dîm beirdd Môn yn yr Ymryson am flynyddoedd ac yn feirniad hefyd. Roedd ei ffraethineb wrth feirniadu mewn eisteddfodau cenedlaethol a lleol yn aml yn uchafbwynt y cystadlaethau llenyddol," meddai.

Mae Harri’n falch fod y Gadair a enillodd ei daid yn Nolgellau bellach yn cymryd ei lle yn ei gartref ym Maldwyn, ""Ddim rhy bell o ble cadeiriwyd fy nhaid, ac nid rhy bell chwaith o Wrecsam. Ond mae’n rhyfedd i feddwl fod y Gadair wedi’i chyflwyno i’r Eisteddfod gan Gymdeithas Gymraeg Hong Kong ac wedi’i chludo mor bell i Ddolgellau.

"Mae’r Gadair wedi’i gwneud o bren caled ac yn cynnwys y Ddraig Goch, arfbais Hong Kong, ac arfbais Sir Feirionnydd. Mae’r Gadair arall yn nhŷ fy ewythr yn Ne Lloegr," meddai Harri.

Gyda asedau o fwy na £11 biliwn, Cymdeithas Adeiladu’r Principality yw’r fwyaf yng Nghymru a’r chweched fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

"Mae’n gymdeithas gydfuddiannol, sy’n golygu ei bod yn eiddo i’w haelodau yn hytrach na chyfranddalwyr, ac erbyn hyn mae gennym dros 500,000 ohonynt.

"Ar ôl 165 o flynyddoedd, rydym yn falch o fod â mwy o ganghennau ar strydoedd mawr Cymru nag unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu arall. Ar draws Cymru, mae gennym fwy na 50 o ganghennau ac asiantaethau.

"Mae adborth ein haelodau yn bwysig iawn i ni, a dyna pam rydym yn cydnabod gwerth ein canghennau ar y stryd fawr – gan eu bod yn dweud wrthym, wrth wneud penderfyniadau am gyllid, y byddai’n well ganddynt siarad â’n tîm yn bersonol yn y gangen.

"Mae ein timau gwybodus yn y canghennau yno i gefnogi ein haelodau bob cam o’r ffordd mewn bywyd – p’un ai cynilo ar gyfer blaendal i brynu’r cartref cyntaf neu gynllunio ymddeoliad," eglurodd Harri.

Mae’r lleoliadau ar y stryd fawr hefyd yn golygu fod y Principality wrth galon bywyd cymunedol, ac mae eu gweithwyr yn aml yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol drwy wirfoddoli neu godi arian ar gyfer achosion da.

"Mae hyn yn ymestyn i’n cydweithwyr hefyd, lle bydd ein Rhwydwaith Cymraeg – sy’n cynnwys mwy na 100 o gydweithwyr – yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni.

"Wedi’i greu a’i gynnal gan ein cydweithwyr, mae’r Rhwydwaith Cymraeg yn galluogi aelodau i gymdeithasu yn Gymraeg, ymarfer y Gymraeg, a dysgu am ddiwylliant y Gymraeg.

"Mae sesiynau galw heibio wythnosol, Yr Ogof, lle gall cydweithwyr ymuno i siarad neu ymarfer eu Cymraeg, ac mae cynllun cyfeillio hefyd fel y gellir paru siaradwyr rhugl a dysgwyr gyda’i gilydd i fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

"Yn ogystal ag ymuno yn y gweithgareddau, byddwn yn annog arferion iach o ran cynilo yn y genhedlaeth nesaf. Credwn nad oes rhaid i siarad am arian a chyllid godi braw – a thrwy gymryd ambell gam hawdd, gall arferion cynilo cadarnhaol a fabwysiedir yn ifanc aros gyda chi drwy gydol eich oes.

"Fe welwch chi ni bob dydd yn y Pentref Plant – bydd ein ffrind Dylan y Ddraig yno hefyd i ddweud helo, felly cofiwch alw heibio," meddai Harri.