6 Awst 2025

Byd gwyddoniaeth a thechnoleg fydd yn cael sylw yn y Pafiliwn heddiw gyda Seremoni’r Fedal am 13:30

Cyflwynir y fedal hon i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg

Yn ddiweddarach, am 15:00, yn y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg bydd ffrindiau a chyfoedion yn talu teyrnged i’r Athro Glyn O Phillips, y gŵr o Rosllannerchrugog a enillodd y Fedal Wwyddoniaeth a Thechnoleg gyntaf yn 2004. Roedd yn gemegydd, yn arbenigwr ar y diwydiant niwclear ac yn gyfrannwr cyson i raglenni radio a theledu Cymraeg hyd ei farwolaeth yng Ngorffennaf 2020 yn 92 mlwydd oed. 

I gadw at thema wyddonol, Rhys Iorwerth fydd yn cyflwyno ‘A Oes AI?’ yn y Babell Lên am 14:45, sioe banel hwyliog am ddeallusrwydd artiffisial a barddoniaeth, gyda Catrin Dafydd, Mari George, Aneirin Karadog, Llio Maddocks, Gruffudd Owen ac Arwel Pod Roberts.

Ac mae gweithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc yn parhau yn y Pentref Plant, gan gynnwys sgiliau syrcas, gweithgareddau’r ŵyl goedwig a Sioe Stwnsh. Ar Sgwâr y Pentref bydd pêl osgoi, tag laser a phêl foli fawr wirion a'r gweithgareddau'n cloi gyda chystadleuaeth tynnu’r gelyn am 15:30.

Un o uchafbwyntiau Maes D yw cyflwyno gwobrau i'r rhai sydd wedi llwyddo yn y cystadlaethau ysgrifenedig i ddysgwyr. Mewn seremoni arbennig yn y Tipi am 17:30, cyhoeddir y buddugwyr - a gobeithio'n wir bydd beirniad cystadleuaeth Cadair y Dysgwyr yn dyfarnu bod un o'r ymgeiswyr yn deilwng o'r wobr. Y dasg oedd ysgrifennu cerdd ar unrhyw ffurf ar y testun, ‘Perthyn’. Maer wobr wedi’i chreu gan Gafyn Owen, y crefftwr sydd wedi dylunio'r Gadair am yr awdl neu’r casgliad gorau o gerddi mewn cynghanedd, ond mwy am y gystadleuaeth yna yfory.

Cawn gyfle i glywed rhai o’r baledi sydd â chysylltiad â bro’r Eisteddfod yn y Tŷ Gwerin am 15:00. Gwilym Bowen Rhys sydd wedi bod yn twrio drwy archifau cerddorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bydd yn perfformio rhai ohonyn nhw yn ystod y cyflwyniad hwn.

Ugain mlynedd ers eu gig gyntaf, mae Gwibdaith Hen Frân yn ôl efo’i gilydd am noson yn y Tŷ Gwerin. Yn ystod eu cyfnod, rhyddhaodd y band acwstig gwerin o ardal Blaenau Ffestiniog bedwar albwm o ganeuon cofiadwy. Efallai y cawn glywed ‘Gwena’, ‘Coffi Du’ a ‘Car Bach Fi’ ymhlith caneuon eraill y grŵp yn y gig sy'n dechrau am 21:00.

‘Y Novello Cymraeg’, dwy ganrif o gwmni cyhoeddi Hughes a’i Fab’, gaiff sylw yn Encore am 13:30. Rhidian Griffiths sy’n rhannu peth o hanes y cwmni cyhoeddi cerddoriaeth mwyaf cynhyrchiol Cymru yn y 19eg a’r 20fed ganrif, gyda pherfformiadau gan Octave Cymru.

Sioe i blant yw ‘Gwyrth y glöyn byw’ sydd ar y Maes yn ystod y prynhawn. Yn gywaith rhwng Gwmni Theatr Arad Goch a Musicfest Aberystwyth, mae'n dilyn taith lindysyn trwy’r tymhorau ar ei ffordd i droi’n bili-pala hardd, gyda cherddoriaeth newydd gan y feiolinydd Simmy Singh a’r canwr gwerin Owen Shiers (Cynefin), gyda’r ddawnswraig Krystal S Lowe. Cadwch olwg amdanyn nhw am 13:00 a 15:00 heddiw.

Dathliad o waith y diweddar Childe Rowland/Peter Meilleur, bardd amlieithog, arbrofol o Quebec, Canada a symudodd i Langollen yn 1979, sydd yn Y Lle Celf am 17:15. Bydd Aled Lewis Evans ac Aled Roberts yn cymryd rhan gyda cherddoriaeth gan Beth Jones.

Bydd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn cyflwyno darlith sy’n ystyried effaith y cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol ar ddiwedd y 19eg ganrif ar sefydlu Plaid Cymru yn 1925. Dechreuodd y blaid yn dilyn cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli y flwyddyn honno. Cymdeithas Hanes Plaid Cymru yw trefnwyr y ddarlith ‘O Gymru Fydd i Blaid Cymru: Y siwrne’ yn Cymdeithasau 2 am 12:30.

Cynhelir Eisteddfod dra gwahanol yn y Babell Lên heno wrth i ‘Steddfod Stifyn gymryd golwg ‘tafod yn y boch’ ar y cystadlu yng nghwmni rhai o enwogion Cymru. Dewch i ddarganfod ar bwy mae Stifyn Parry yn ceisio cadw trefn - neu ddim - o 21:00 ymlaen. Felly caewch y drysau yn y cefn, eisteddwch i lawr a dewch i chwerthin!

Ar Lwyfan y Maes fin nos bydd dau o brif fandiau Cymru yn cyflwyno setiau gwahanol iawn i'w gilydd. 9Bach yw un o fandiau mwyaf dyfeisgar Cymru, sy’n cyfuno cerddoriaeth gynhenid Gymraeg gyda synau a churiadau cyfoes. Drwy ail-freuddwydio ac ail-ddiffinio hunaniaethau diwylliannol mae eu cerddoriaeth yn bont rhwng y gorffennol a’r presennol. 

Bydd y grwp o Ddyffryn Ogwen ar y llwyfan am 19:20 ac yn dilyn am 21:00 bydd Adwaith, y triawd arloesol o Gaerfyrddin, yn cloi’r arlwy am heno. Maen nhw’n adnabyddus am eu cyfuniad unigryw o ôl-bync, pop amgen ac indi arbrofol ac ers rhai blynyddoedd bellach wedi bod yn flaengar ym myd cerddoriaeth amgen sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar lwyfannau rhyngwladol.