Beth i'w weld a'i wneud heddiw? Dyma syniadau Eryl Crump
Cyfansoddi awdl, neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, ac hyd at 250 llinell ar y testun ‘Dinas’, oedd tasg y beirdd eleni. Y wobr yw’r Gadair hardd a grëwyd gan Gafyn Owen.
Ar drothwy’r tymor pêl-droed newydd, bydd dau ddigwyddiad gyda chysylltiad â’r gamp yn cael eu cynnal heddiw. ‘Y bêl gron mewn du a gwyn’ yw testun trafodaeth am lenyddiaeth a phêl-droed Cymreig, dan ofal Gŵyl y Wal Goch, gyda Nicky John yn sgwrsio gyda Manon Steffan Ros, Geraint Løvgreen a’r pêl-droediwr Lili Jones. Ewch draw i’r Babell Lên am 14:45 i wrando.
Tua’r un pryd yn y Tipi ym Maes D, bydd Llinos Roberts yn holi tiwtor Cymraeg STōK Cae Ras, Huw Birkhead, am y Gymraeg a Chlwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae sôn y bydd ambell westai arbennig yn galw heibio.
Am 11:45 yn y Babell Lên, bydd cyfle i gofio Geraint H. Jenkins, un o haneswyr amlycaf Cymru ac ysgolhaig, gyda Prys Morgan, Marion Löffler, John Meredith a Robat Powell.
Bydd Nic Parry yn cadeirio sgwrs banel ddifyr sy’n hel atgofion am yr amryddawn Aled Lloyd Davies a’i gyfraniad i ganu cerdd dant yn y Tŷ Gwerin am 13:30. Ar yr un pryd yn Encore, bydd rhaglen yng nghwmni Eifion Lloyd Jones a rhai o gyn-ddisgyblion a chydweithwyr y diweddar Gilmor Griffiths, a ddaeth yn wreiddiol o Ponciau ger Rhos. Roedd yn addysgwr, arweinydd a chyfansoddwr toreithiog.
Bydd y Babell Lên yn siŵr o fod yn orlawn ar gyfer rownd derfynol Ymryson y Beirdd am 13:00. Twm Morys yw’r Meuryn a Gruffudd Antur yw’r Islwyn mewn gornest sy’n sicr o fod yn un hwyliog rhwng timau o feirdd sydd wedi bod yn brwydro drwy’r rowndiau cynderfynol yn ystod yr wythnos. Gwobr y tîm buddugol fydd Tlws Rolant o Fôn. Yn ogystal, bydd Emyr Lewis a Mair Tomos Ifans yn beirniadu englyn a limrig y dydd. Bydd Tlws T. Arfon Williams yn cael ei gyflwyno i’r englyn ymryson gorau; Tlws John Glyn am englyn y dydd gorau; a Thlws Edgar Parry Williams am limrig y dydd gorau. Dewch draw i ymuno yn hwyl a sbri’r ymryson.
Mae ‘Mari Ha!’ yn gomisiwn ar y cyd gan Fenter Bro Morgannwg, yr Eisteddfod a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, gyda chefnogaeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae’n dathlu cylch y flwyddyn gyda pherfformiad awyr agored o ddawns gyfoes egnïol sy’n cyfuno’r Cadi Ha, y Fari Lwyd, a hen ddefodau ac arferion gwerin eraill Cymru. Gwyliwch amdanyn nhw am 14:00 a 16:00.
Mae dau ddigwyddiad fin nos yn y Tŷ Gwerin yn tynnu’r llygaid. Am 21:00 bydd TwmpDaith, ac yn dilyn bydd sesiwn o Fandioci. Supergroup o fand twmpath yw TwmpDaith, gyda cherddorion a dawnswyr ifanc o bob rhan o Gymru, a ddaeth at ei gilydd drwy ‘Prosiect WYTH’, sy’n hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan greiddiol o’r prosiect ers y cychwyn, gan weithio mewn partneriaeth gyda Menter Maldwyn.
Syniad newydd i’r Eisteddfod – os nad unrhyw le – yw Bandioci Gwerin. Daeth y syniad o sesiwn gymunedol i drafod y rhaglen artistig yn Wrecsam, a bydd Gwilym Bowen Rhys, Gethin Griffiths a chyfeillion yn cyfeilio wrth i’r gynulleidfa ganu carioci gwerin Cymraeg! Bydd yr hwyl hwyr yn cychwyn yn y Tŷ Gwerin am 22:15.
Ar Lwyfan y Maes, bydd croeso cynnes i Anweledig, sy’n perfformio yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf ers dros 15 mlynedd. Ers dechrau’r flwyddyn, mae’r criw hwyliog o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn ymarfer, ac mae pawb yn edrych ymlaen at glywed hen ffefrynnau fel ‘Cae yn Nefyn’, ‘Chwarae dy Gêm’ ac wrth gwrs ‘Dawns y Glaw’.
Bydd yr hogia ar y llwyfan am 21:00, ar ôl i’r dorf gael eu cynhesu gan Yws Gwynedd, un arall o hogia cerddorol ardal ‘Stiniog. Mae Yws a’i fand yn ôl am haf arall o gigs a gwyliau yng Nghymru, yn dilyn llwyddiant eu trydydd albwm ‘Tra Dwi’n Cysgu’, a ryddhawyd ddiwedd 2024.