8 Awst 2025

Ac yn llawer rhy fuan, dyma ddiwrnod olaf Eisteddfod Wrecsam. 

Ond cyn troi am adref a dechrau meddwl am Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, mae diwrnod llawn gweithgareddau a chystadlaethau yn ein haros, gyda’r uchafbwynt arbennig yn goron ar y cyfan.

Yn y Pafiliwn, mae cyfres o gystadlaethau nodedig gyda gwobrau hael i’w hennill mewn sawl maes. Ymhlith y rhain mae’r Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed, Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis am ganu alaw werin, Gwobr Aled Lloyd Davies i’r unawdydd cerdd dant dros 21 oed, ac Ysgoloriaeth Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i enillydd yr unawd o sioe gerdd dros 19 oed.

Dilynir y cystadlaethau hyn gan Wobr Richard Burton am ddau fonolog o ddramâu neu ryddiaith addas; Gwobr Llwyd o’r Bryn i’r llefarydd gorau dros 21 oed; a Gwobr Goffa David Ellis, sef y Rhuban Glas i gantorion dros 25 oed. Whiw! Dyna chi ddiwrnod sy’n addo cystadlu brwd.

Yr actor amryddawn Mark Lewis Jones sy’n cyflwyno sgwrs goffa Llwyd o’r Bryn yn y Babell Lên eleni am 15:15. Fe fydd Stifyn Parry, un arall o hogiau Rhos, yn ei holi am ei fywyd a’i yrfa yn y byd perfformio.

Mae’n ddiwrnod prysur arall i’r actor a’r cynhyrchydd o bentref hynod Rhosllannerchrugog. Cawn gyfle i ddysgu mwy am dafodiaith y pentref wrth i Stifyn geisio cadw trefn ar dri phanel sy’n brwydro dros eu tafodiaith, gyda’r Doctor Cymraeg ar gael i’n haddysgu a’n hysbrydoli.

Dyfed Thomas a Bethan Jones sy’n cynrychioli’r Rhos, ac yn eu herbyn mae Siân James ac Arwyn Groe o Bowys, ac Iwan John a Mari Grug o Sir Benfro. Orig ddifyr felly yn y Babell Lên am 6pm.

Prif seremoni’r dydd yw cyflwyno Medal y Cyfansoddwr. Mae’r tri cherddor a gyrhaeddodd y rhestr fer – Jon Guy, Sarah Lianne Lewis ac Owain Gruffudd Roberts – wedi gweithio gyda thri chwaraewr llinynnol i ddatblygu eu gwaith. Fe ddilynir y seremoni gan Epilog (19:30), sy’n plethu caneuon adnabyddus â chaneuon newydd sbon gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood.

Y Lle Celf yw’r arddangosfa gelf fwyaf yng Nghymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ystod yr wythnos bydd miloedd wedi crwydro o amgylch y gwaith celf. Mae gan bawb ei farn am gelf, ac mae cyfle i’r cyhoedd ddewis eu ffefryn drwy fwrw pleidlais yn Dewis y Bobl. Cyhoeddir enillydd Gwobr Josef Herman yng nghyntedd Y Lle Celf am 16:00.

Cyn hynny, am 15:00, mae cyfle i ddysgu mwy am Josef Herman ei hun – ffoadur o Wlad Pwyl a fu’n byw yn Ystradgynlais. Cawn sgwrs gan yr artist a’r darlithydd Gwenllian Beynon am waith llai cyfarwydd yr artist.

Yn Sinemaes am hanner dydd, bydd y ffilm glasurol ‘Oed yr Addewid’ yn cael ei dangos mewn sgan 2K newydd gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gydag isdeitlau disgrifiadol Saesneg. Emlyn Williams yw awdur y sgript a chyfarwyddwr y ffilm, sy’n seiliedig ar brofiadau personol. Mae’r ffilm wedi’i gwreiddio yng nghymunedau’r gogledd-orllewin, ac mae tirwedd Pen Llŷn yn gymeriad tawel ond pwerus drwyddi.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd yn 2000, gyda dangosiadau sinema eraill yn dilyn yng Nghymru ddechrau 2001, yn ogystal â dangosiadau mewn nifer o wyliau ffilm Ewropeaidd. Dangoswyd y ffilm ar S4C yn 2001 ac enillodd nifer o wobrau BAFTA Cymru yn 2002, gan gynnwys yr Actor Gorau, y Sgript Orau a’r Ffilm Orau. Mae ‘Oed yr Addewid’ yn addas ar gyfer rhai dros 15 oed.

Bwncath sy’n cloi Llwyfan y Maes – bron iawn – eleni. Un o’r bandiau prysuraf yng Nghymru, bydd y grŵp o Gaernarfon yn canu caneuon o’r albwm diweddaraf, ‘Bwncath III’, a ryddhawyd yn gynharach eleni, yn ogystal â rhai hen ffefrynnau. Cyn i Bwncath ddod i’r llwyfan am 21:45, bydd setiau gan Y Mellt am 19:20 a Buddug am 18:00.

I gloi’r holl weithgareddau yn Wrecsam, bydd digwyddiad byw cyffrous yn yr awyr agored, sy’n seiliedig ar y nofel glasurol ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan Islwyn Ffowc Elis, a gyhoeddwyd yn 1957 ac sy’n portreadu Cymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033.

Mae tîm artistig yr Eisteddfod wedi cydweithio gyda chynhyrchydd profiadol, cyfarwyddwr amlwg a choreograffydd amryddawn i lunio’r digwyddiad sy’n cyfuno talent artistiaid anabl a rhai nad ydynt yn anabl i greu gofod hudol lle mae croeso i amrywiaeth, gyda ffiniau’n cael eu torri a chynwysoldeb yn cael ei ddathlu. Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 22:30.

Gobeithio i chi gael wythnos wrth eich bodd, ac fe welwn ni chi yn Llantwd ymhen blwyddyn!