Greta Siôn o Waelod -y-garth, Caerdydd, yw enillydd prif wobr drama Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni
Cyhoeddwyd ei henw mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (7 Awst).
Mae datblygiad newydd Medal y Dramodydd yn cefnogi dramodwyr sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg trwy gynnig cyfle unigryw iddynt ddatblygu eu gwaith, ynghyd â phrofiadau ehangach sy’n cael eu cynnig gan gonsortiwm o rai o’r cwmnïau theatr a chynhyrchu mwyaf blaenllaw sy’n gweithio yn y Gymraeg yma yng Nghymru.
Eleni, cyflwynir Medal y Dramodydd 2025 am gyfansoddi drama lwyfan newydd, neu gynnig am ddrama lwyfan newydd ar unrhyw thema ar gyfer cast o ddim mwy na 5 perfformiwr. Gwahoddwyd dramodwyr i gyflwyno naill ai braslun i gynnwys amlinelliad o stori, lleoliad ac amser, proffil cymeriadau ayb yn ogystal ag enghraifft o 3 golygfa wedi eu deialogi.... neu, ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud o hyd.
Mae’r Fedal yn rhodd er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan Wiliam, a braf croesawu’r tri i fod yma ar y llwyfan gyda ni hefyd. Eleni fe roddir gwobr o £3,000 gan yr Eisteddfod.
Mae aelodau’r Consortiwm yn cynnwys: Frân Wen, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr y Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch a Theatr Bara Caws, ac fe welwch gynrychiolaeth o’r cwmnïoedd ymysg y panel beirniaid ar y llwyfan heddiw. Roedd dau artist llawrydd hefyd ar y panel, sef Mel Owen a Mared Jarman, i sicrhau fod lleisiau amrywiol a chynrychioladol yn rhan annatod o’r broses.
Wrth draddodi, dywedodd Steffan Donnelly, “Rydym ni fel panel wedi cael modd i fyw yn craffu, sgwrsio a thrafod cynnwys yr 20 gwaith a ddaeth i law – gan fynd ati i chwilio am ddramodydd neu ddramodwyr wnaeth greu gwaith trawiadol, cyffrous, ac a wnaeth herio dychymyg a meddylfryd y panel. Wrth feirniadu roedd ymdeimlad gan bawb ar y llwyfan heddiw bod ysgrifennu newydd yn fyw ac yn iach yng Nghymru.”
Meddai Daniel Lloyd, “Monolog gonfensiynol yw Presennol gan Caer Enlli sy’n hollol hyderus yn ei ffurf, yn teimlo’n gyflawn fel drama ac yn llwyddo i swyno...
“Dyma ddrama hawdd iawn i’w darllen, gyda phob curiad yn glir, y cymeriadu yn gywrain a’r stori yn llifo. Mae’r dramodydd yn deall pwysigrwydd rheoli cydbwysedd y llon a’r lleddf. Mae strwythur y darn yn gadarn, gyda chanolbwynt a phwyntiau creisis clir.
“Braf yw gweld prif gymeriad yn mynd ar siwrne mor gyflawn - mae Ieuan ar ddechrau'r ddrama yn wahanol i’r Ieuan sydd ar y diwedd. Drwy empathi, mae wedi darganfod pwy all fod, mae’n gweithredu yn wahanol, ac mae trywydd bywyd arall yn dechrau blaguro o’i flaen. Yn wir, mae llwybrau'r ddau brif gymeriad yn croesi a phlethu mewn ffyrdd pwerus a theimladwy. Dyma ddrama sydd wedi ei gwreiddio mewn cyd-destun dealladwy a chymhleth.
“Ac felly, am y rhesymau hyn, mae'n bleser rhoi Medal y Dramodydd 2025 i Presennol gan Caer Enlli.”
Bu Greta Siôn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr cyn mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Lerpwl. Tra yno, bu’n llywydd ar y gymdeithas ddrama, a bu’n rhan o sawl cynhyrchiad, gan gynnwys criw sgetsys comedi a berfformiai’n flynyddol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Ar ôl graddio, aeth Greta ymlaen i weithio fel rhedwr ar y gyfres ddrama, Rownd a Rownd, am ddwy flynedd, lle cafodd y cyfle i ysgrifennu’r gyfres ddigidol, Copsan, fel rhan o gynllun mentora.
Yn 2024, fe dderbyniodd Greta radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Rhydychen, ac erbyn hyn, mae’n ysgrifennu ar gyfer cyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd fel awdur llawrydd. Mae’n gwerthfawrogi’r ddau gynhyrchiad yn arw am eu cyngor parhaol, a’r fraint o gael cydweithio gydag awduron a thimoedd golygyddol profiadol sydd wedi dysgu cymaint iddi.
Mae Greta hefyd yn ddiolchgar i’w theulu oll am eu cefnogaeth ddiysgog – hyd yn oed pan mae’n dweud pethau gwirion wrthynt, fel ei bod eisiau ysgrifennu fel gyrfa! Nhw sydd wedi meithrin ei hangerdd a’i brwdfrydedd tuag at fyd y ddrama yn ddi-ffael – gan gynnwys ei nain a’i thaid, a oedd yn aml yn mynd â hi i wylio dramâu yn Theatr Clwyd pan fyddai’n aros gyda nhw yn Rhuthun.
Presennol yw’r ddrama lwyfan gyflawn gyntaf iddi ei hysgrifennu.
Mae’r gystadleuaeth sydd ar ei newydd wedd yn adlewyrchu prosesau’r sector theatr broffesiynol , ac yn rhoi gwobr sy’n datblygu drama yn y modd arferol wrth gefnogi gyrfa dramodydd yn y diwydiant. Mae’r wobr ariannol wedi cynyddu i £3,000 ac yn ychwanegol i’r wobr ariannol, mae swm o arian gan y Consortiwm a’r Eisteddfod wedi ei neilltuo ar gyfer datblygu y gwaith buddugol, ac yn cynnwys darlleniad o’r sgript lawn yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed tan 9 Awst. Am ragor o wybodaeth a thocynnau ewch i www.eisteddfod.cymru.