Person in formal black suit with bow tie standing with arms outstretched under bright stage lights and blue lighting effects
7 Awst 2025

Canodd gŵr a ddechreuodd ganu dim ond chwe blynedd yn ôl, ac a gychwynnodd gystadlu mewn Eisteddfodau ddwy flynedd yn ôl, ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol gan gipio buddugoliaeth a derbyn ysgoloriaeth fawreddog

Ond cyn teithio o’r De i Wrecsam, roedd angen i Caleb Nicholas gael amser i ffwrdd o’i swydd fel meddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ger Caerdydd.

Roedd Caleb yn cystadlu gyda dau ganwr ifanc arall, Lewys Siencyn a Guto Jenkins, am Ysgoloriaeth Osborne Roberts, ar ôl ennill y gystadleuaeth bas-bariton dan 25 oed yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Caleb, “Roeddwn i fod i fod yn gweithio yn yr ysbyty, ond eglurais pam roedd angen yr amser i ffwrdd arna i, ac fe gytunodd ymgynghorydd yr adran y gallwn gael y diwrnod i gystadlu.”

Er bod Caleb, 24, yn ganwr talentog, nid oes ganddo gynlluniau i ganu’n broffesiynol, “I mi, mae’n fwy o hobi mewn gwirionedd. Dechreuais ganu chwe blynedd yn ôl, ac ar annog pawb dechreuais gystadlu yn yr Eisteddfodau llai, yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n rhywbeth rwy’n mwynhau’n fawr,” meddai.

Ei diwtor yw Eilyr Thomas, a gafodd ei hanrhydeddu ei hun yn yr Eisteddfod yr wythnos hon gyda Medal Syr TH Parry-Williams. Dywedodd hi, “Mae ganddo lais ardderchog ac mae’n frwdfrydig iawn yn ei waith.”

Dewisodd y panel beirniadu – Camilla Roberts, Siôn Goronwy a Fflur Wyn – y tri unigolyn mwyaf addawol o’r dosbarthiadau dan 25 oed i gystadlu am yr ysgoloriaeth arbennig hon. Fe’u gosodwyd yn gyntaf, ail ac yn drydydd.

Bydd yr enillydd hefyd yn cael gwahoddiad gan Ŵyl Cymru Gogledd America (NAWF) i berfformio yn eu dathliad blynyddol ar Ddiwrnod Llafur, yn gynnar ym mis Medi 2026 yn Springfield, Massachusetts.

Roedd Thomas Osborne Roberts yn un o’r beirniaid a ddyfarnodd y wobr gerddorol gyntaf erioed i Leila Megàne am ganu yn Eisteddfod Môn yn 1910 – eu cyfarfod cyntaf, ac fe briodasant yn ddiweddarach.

Fe gafodd salwch ar ôl beirniadu yn Eisteddfod Lerpwl yn 1948, ac fe fu farw ychydig ddyddiau wedyn. Ers 1951, mae ei enw wedi cael ei roi i’r wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.