Three individuals in blue reflective safety vests standing side by side in front of large red and white structures
9 Awst 2025

Ar ôl bron i 20 mlynedd, rydyn ni'n ffarwelio â Cled, Dylan ac Iolo, sy'n adnabyddus i genedlaethau o Eisteddfodwyr. Dyma neges gan y tri

Annwyl Gyfeillion,

Gan mai dyma ein blwyddyn olaf o weithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn, ar ein diwrnod olaf, i ddiolch i'r cannoedd, os nad miloedd, ohonoch am eich cymorth wrth stiwardio'r Eisteddfod gyda ni dros y 18-20 mlynedd diwethaf. 

Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint gweithio gyda gwirfoddolwyr mor ymroddedig a chydwybodol. 

Hoffem ddiolch yn arbennig i’n cydweithwyr yn y Tîm Prif Stiward a staff yr Eisteddfod am eu cefnogaeth amhrisiadwy wrth sicrhau diogelwch yr ymwelwyr a rhediad esmwyth yr ŵyl.

Byddwn yn trysori'r atgofion niferus sydd gennym o gydweithio a hoffem ddymuno pob llwyddiant i'r Eisteddfod a'r tîm newydd yn y dyfodol.

Yn ddiffuant,

Cled Ashford (Prif Stiward) | Iolo Povey (Dirprwy Brif Stiward) | Dylan Jones (Cydlynydd Stiwardio)