Enillydd Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yw Sarah Lianne Lewis
Derbyniodd ei gwobr mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn Is-y-Coed ger Wrecsam nos Sadwrn.
Cyflwynir Medal y Cyfansoddwr i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr, gan ddefnyddio delweddau o Rondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.
I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, thema Medal y Cyfansoddwr eleni yw Cymru Fydd.
Roedd trefnwyr yr Eisteddfod am i artistiaid gyflwyno syniadau ar sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: Wythnos yng Nghymru Fydd.
Y beirniaid oedd Richard Baker, Lleuwen Steffan a Graeme Park.
Dywedodd Richard Baker nad oedd penderfyniad y beirniaid yn hawdd, nad oedd y beirniaid yn gyfan gwbl gytun, ond bod y tri chyfansoddwr wedi gwneud gwaith arbennig.
Yn ei feirniadaeth, dywedodd, "Yn unol â neges y nofel, mae pob cyfansoddwr yn edrych i’r dyfodol gyda gobaith. Ond hefyd: yn gyson ceir yma rhyw ymdeimlad o bryder sydd yn gwasgu ar y gobaith hwn. Yr her oedd gallu cyfleu’r cysyniad yma trwy gyfrwng cerddoriaeth offerynnol, a dylid canmol y tri ohonyn nhw am eu huchelgais.
Roedd yn anodd iawn i ddod i benderfyniad. Doedden ni ddim yn gyfan gwbl gytûn, a dweud y gwir. Yn y diwedd, mater o chwaeth bersonol oedd yn ein harwain. Ond mae gennym enillydd.
"Mae syniadau cymhleth angen adnoddau technegol o’r radd flaenaf i’w gwireddu, ac mae’r darn buddugol yn ateb gofynion y gystadleuaeth i’r dim."
Wrth sôn am ddarn y cerddor buddugol, dywedodd, "Mae 'Cysgodion Bywiog' gan Sarah Lianne Lewis yn canolbwyntio ar olygfa enwocaf nofel Ffowc Elis, pan mae’r prif gymeriad yn cwrdd â Hen Wraig y Bala, siaradwraig olaf yr iaith Gymraeg.
"Mae’r darn yn theatrig iawn gyda naratif cryf, ac mae’r ddeialog yn eglur iawn rhwng y deunydd sy’n cynrychioli’r galar, a’r deunydd sy’n cynrychioli’r gobaith."*
Roedd Sarah Lianne Lewis yn un o dri chyfansoddwr a fu’n gweithio gyda cherddorion proffesiynol ar gyfer perfformiad cyntaf o’i darn buddugol. Y ddau arall oedd Jonathan Guy ac Owain Gruffydd Roberts.
Astudiodd Sarah Lianne Lewis ym Mhrifysgol Caerdydd gan ennill gradd BA (Anrh) mewn Cerddoriaeth a Hanes, ac MA mewn Cyfansoddi.
Ers hynny, mae ei cherddoriaeth wedi’i pherfformio yn Ewrop, Canada ac Awstralia, wedi’i darlledu ar sawl gorsaf radio yn y DU ac Ewrop, ac wedi’i chynnwys mewn nifer o wyliau dramor.
Mae ei diddordebau presennol yn cynnwys archwilio ystumiau lled-ymhlyg o fewn ensembles mwy, a’r ddeialog sy’n deillio o hynny rhwng y cyfansoddwr a’r perfformiwr.
Fel cyfansoddwraig ac unawdydd, mae hefyd yn cynnal gweithdai mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar feithrin creadigrwydd a chyfansoddi yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â chynnal dosbarthiadau meistr lleisiol i gerddorion amatur.
Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r tri chyfansoddwr dethol wedi gweithio gyda thri chwaraewr llinynnol hynod amryddawn: Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo), mewn gweithdai yn arwain at berfformiad byw o’u gweithiau yn ystod diwrnod olaf yr Eisteddfod.
Mae Simmy, David a Garwyn yn chwarae llinynnau yn wahanol: maent yn gyfforddus yn ymestyn i’r ystod ehangaf o genres, gan ddefnyddio loop pedal, blwch shruti, offerynnau taro dwylo a’u lleisiau yn y cyfansoddiad.
Derbyniodd y tri chyfansoddwr ffi am gymryd rhan yn y gweithdai wyneb yn wyneb a chysylltiadau ar-lein.
Yn ogystal â’r fedal, derbyniodd Sarah Lianne Lewis wobr ariannol o £750.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod, Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, a’r mentor-gyfansoddwr eleni oedd yr Athro Pwyll ap Siôn.