Cyngerdd a fwynhawyd gan dyrfa enfawr, brwydr epig rhwng corau meibion, a pherfformiad ysblennydd gan acrobatiaid ddaeth ag Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam i ben nos Sadwrn
Bu hyd yn oed ymddangosiad annisgwyl gan y canwr gwerin profiadol Dafydd Iwan yn ystod y cyngerdd.
Roedd cefnogwyr y grŵp gwerin-roc Bwncath wrth eu bodd ar Lwyfan y Maes gyda detholiad o’u caneuon mwyaf adnabyddus. Pan ddechreuodd y prif ganwr, Elidir Glyn, ganu pennill agoriadol 'Yma o Hyd', prin oedd y rhai yn y gynulleidfa a sylwodd ar Dafydd Iwan, wedi’i lapio mewn baner Cymru, yn dod ar y llwyfan i arwain y gân.
Ar ôl i gyngerdd Bwncath ddod i ben, trosglwyddwyd y llwyfan i ddigwyddiad dramatig a lliwgar a oedd yn torri ffiniau ac yn dathlu cynhwysiant. Cafodd ei ysbrydoli gan y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd gan yr awdur o Wrecsam, Islwyn Ffowc Elis, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn arddangosfa uchelgeisiol a dyfeisgar.
Ymunodd acrobatiaid â dawnswyr rhaff mewn dilyniannau a ddisgrifiwyd gan y gwyliwyr fel “ardderchog” ac “anhygoel”, tra roedd cerddorion yn chwarae.
Yn gynharach yn y dydd, bu naw côr meibion yn ymladd am y brif wobr ac am yr hawl i ddal cwpan Cymdeithas Corau Meibion Cymru am y 12 mis nesaf. Ar ôl cystadleuaeth a barodd bedair awr, enillwyd yr anrhydedd gan Gôr Meibion Rhosllannerchrugog, gyda chefnogwyr yn bloeddio’n uchel yn y pafiliwn ac wedyn yn y bar ar y Maes.
Daeth Côr BuAnn o Lyn ac Eifionydd yn ail, a Chôr Meibion Llangwm yn drydydd.
Daeth digwyddiadau’r pafiliwn i ben gyda’r Epilog, pan osodwyd chwe cherdd newydd gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood i gerddoriaeth gan Robat Arwyn. Gorffennodd y cyngerdd byr 30 munudgyda threfniant newydd Robat Arwyn o “Ar Hyd y Nos”.
Yna canodd y gynulleidfa yn y pafiliwn 'Hen Wlad fy Nhadau', a chafodd y grŵp Signing Sensations, côr iaith arwyddion o Wrecsam, y cyfle i ymuno â’r cantorion proffesiynol a chôr John’s Boys ar y llwyfan.