Daeth cyfnod Ashok Ahir fel Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod i ben ar ddiwedd yr ŵyl yn Wrecsam
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y ddegawd hon, ond mae'r sefydliad wedi addasu ac wedi llwyddo i'w goresgyn, yn ôl Ashok Ahir, fu’n Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli am chwe blynedd, wrth i’w dymor ddod i ben.
Soniodd ei fod yn bwysig fod yr Eisteddfod yn cyrraedd y bobl, gan ddweud, “Mae pob Eisteddfod yn wahanol ei naws, ac un peth roeddwn yn bendant am ei wneud fel Llywydd oedd sicrhau patrwm pendant. Roeddwn eisiau gweld yr Eisteddfod yn mynd i’r canolfannau lle mae pobl yn byw.
“Fy mhrofiad cyntaf o’r Eisteddfod oedd fel cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2018.
“Blwyddyn nesaf, mae’r Eisteddfod yng nghefn gwlad, ond mewn man sydd ger lan y môr lle mae pobl yn mynd ar wyliau i fwynhau – ac i ddod i’r Eisteddfod,” meddai.
“Ar y llaw arall, yr elfennau mwyaf heriol oedd y pandemig a’r argyfwng ariannol.
“Rydym yn dal i fynd drwy gyfnod heriol iawn – nid pob sefydliad yn unig, ond pob teulu. Mae arian yn brin ac mae hynny’n effeithio ar yr Eisteddfod.
“Mae costau’n codi, ac mae’n rhaid edrych ar ôl pob ceiniog. Weithiau, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn i allu cynnal yr Eisteddfod rydym yn ei chynnal – sy’n costio saith miliwn o bunnoedd.
“Ond roedd rhaid gwneud y penderfyniadau hynny er mwyn y dyfodol. Bellach, mae’r sefyllfa ariannol yn llawer mwy diogel nag y bu.
“Dydyn ni ddim yn hollol saff, ond i mi, mae hynny’n rhywbeth na welir, ac mae’n cymryd llawer o amser gan y staff,” meddai.
Ychwanegodd hefyd ei fod yn “hapus” gyda’r ffordd y deliwyd â helynt y Fedal Ddrama y llynedd.
Dywedodd eu bod wedi gwneud a dweud popeth oedd yn bosib. Ychwanegodd fod yr Eisteddfod wedi datblygu canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth y llynedd, a bod rheini wedi arwain at 20 o geisiadau yn y gystadleuaeth eleni.
Fe gyrhaeddodd Mr Ahir rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2012.
Mae Ashok Ahir yn hanu o Wolverhampton, gyda’i wreiddiau yn y Punjab yn India. Mae’n medru sawl iaith ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Pan oedd yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd, cafodd ei ganmol am ei weledigaeth wrth greu gŵyl gynhwysol ac agored.
Roedd denu pobl o bob cefndir i’r Maes yn bwysig iddo yn ystod ei gyfnod fel Llywydd y Llys.