Pan ddaw’r llen i lawr ar Eisteddfod Wrecsam, daw gwaith tri o hoelion wyth y Brifwyl i ben
Ers 18 mlynedd, bu Cledwyn Ashford o Gefn-y-Bedd ger Wrecsam yn arwain Tîm y Prif Stiward, ond cyhoeddodd y llynedd ei fod yn bwriadu hongian y tabard glas i fyny unwaith ac am byth.
Bydd ei gyfeillion Iolo Povey o Ddyffryn Nantlle a Dylan Jones o’r Wyddgrug hefyd yn rhoi’r gorau i weithio yn y Brifwyl. Rhyngddynt, maent wedi rhoi 56 mlynedd o wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, ac hebddynt byddai’n anodd cynnal y Brifwyl.
O’r dwsinau o drigolion ardal Wrecsam sydd wedi gweithio’n ddiflino i godi arian, i’r cannoedd sy’n fodlon rhannu eu hamser yn ystod yr Eisteddfod, mae eu cyfraniad yn hanfodol.
Dywedodd Morys Gruffydd, Cydlynydd Gwirfoddoli’r Eisteddfod, “Mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddibynnol ar gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr – nid yn unig yn ystod yr wythnos, ond drwy gydol y flwyddyn wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl – ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r tîm.
“Mae’r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i ennill hyder i ddefnyddio’r iaith yn gymunedol yn bwerus iawn, ac mae’r gwaith mae’r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol ac yn genedlaethol, yn haeddu canmoliaeth.
“Bwriad y cynllun yw adeiladu ar y brwdfrydedd hwn a sicrhau dilyniant o flwyddyn i flwyddyn.”
Bu Cledwyn – neu Cled i bawb – yn Brif Stiward ers Eisteddfod 2007.
“Mae’r gwaith yn galed ac mae’r diwrnod yn hir, ond ‘dw i wedi cael llawer, llawer o hwyl.
“Pob blwyddyn byddaf yn dweud ‘dyma fy mlwyddyn olaf’, ond fel mae Dafydd Iwan yn canu, ‘dwi Yma o Hyd’. Ond hon yw’r Eisteddfod Genedlaethol olaf i mi fel Prif Stiward,” meddai.
Mae Cled, Iolo a Dylan yn gobeithio gweld gwaed newydd yn cymryd eu lle.
“Mae gwaith Tîm y Prif Stiward yn dechrau am saith y bore pan fyddwn ni’n cyrraedd y Maes, ac rydym yn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn – goruchwylio’r prif seremonïau a gwneud yn siŵr bod pawb yn saff.
“Mae ein profiad yn golygu ein bod yn gwybod ble mae’r ‘hotspots’ – fel y maes carafanau, Tŷ Gwerin, a’r Pafiliwn wrth gwrs.
“Mae llawer o’r stiwardiaid yn hyn na fi, felly mae angen gwaed newydd i gario’r gwaith ymlaen. Os bydd rhai ifanc yn dod ymlaen, bydden nhw’n cael blynyddoedd o fwynhad,” meddai Cled.
Eglurodd fod gwaith y Prif Stiward yn amrywiol, “Mae pobl yn colli pethau weithiau. Yn Eisteddfod Wrecsam (2011) roedd ‘na byramidau mawr, reit uchel, a phan ddywedodd dynes ei bod wedi colli sbectol ynddo, cefais help gan Iolo ac eraill i nôl ysgol i fynd i mewn i’w nôl.
“Cefais hyd i’r sbectol, ond wrth gwrs, heb wybod, roedd yr ysgol wedi mynd, ac ro’n i’n styc yn fan’no am hanner awr yn gweiddi ‘help, help!’” meddai Cled.
Cyn Eisteddfod 2012, cafodd Cled ei alw i gyfarfod gyda swyddogion MI5 – y gwasanaeth gwrthderfysgol – i’w rybuddio am berygl ymosodiad gan derfysgwyr a sut i ddelio ag unrhyw fygythiad.
“Roeddwn wedi dychryn, ond ddim yn credu y byddai’r fath beth yn digwydd yn yr Eisteddfod. Ond wir i chi, cefais alwad ar y radio fod bag wedi’i ganfod wrth un o’r polion yn y Pafiliwn Pinc. Roedd yn edrych yn iawn, ond tra’n disgwyl am arbenigwr, daeth un o’r stiwardiaid a’i godi. Roedd wedi’i osod i lawr – a’i frechdanau ynddo,” meddai.
Cafodd Cled ei urddo i’r Orsedd dair blynedd yn ôl – profiad, meddai, a oedd yn bleserus iawn.
“Ond cefais fy urddo nid am fy ngwaith Eisteddfodol, ond am y gwaith rwyf wedi’i wneud gyda phêl-droed dros y blynyddoedd,” meddai.
Bu Cled yn athro ysgol am flynyddoedd ac yn hyrwyddo gyrfaoedd pêl-droedwyr llwyddiannus fel Ian Rush, Kevin Ratcliffe a Gary Speed. Ar ôl cyfnod o 21 mlynedd yn brifathro Ysgol Bryn Coch, Yr Wyddgrug, gweithiodd fel Swyddog Lles Rhanbarthol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Gyda storfa enfawr o atgofion, mae Cled, Iolo a Dylan yn edrych ymlaen at fwynhau’r Eisteddfod yn y dyfodol – ac wrth gwrs, bydd Cled yn parhau i ddilyn hynt a helynt tîm pêl-droed Wrecsam a’r tîm cenedlaethol.