Ceremonial scene at the Eisteddfod with a person seated on an ornate wooden Chair, surrounded by individuals in white robes and a figure in ceremonial attire holding a book
8 Awst 2025

Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i Tudur Hallam am gerddi hynod bersonol yn seiliedig ar ei brofiad o dderbyn diagnosis o ganser

Mewn seremoni emosiynol brynhawn Gwener, cododd y gynulleidfa yn y Pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo’r bardd buddugol wrth i’r Archdderwydd ei gyfarch.

Bu brawd Tudur, Gwion Hallam, hefyd yn annerch y Pafiliwn gyda cherdd emosiynol i’w gyfarch.

Dyma’r ail dro i Tudur Hallam ennill y Gadair, gan ddilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.

Yn dilyn y seremoni, dywedodd Mr Hallam fod y profiad o gael ei gyfarch fel enillydd y Gadair yn “wefreiddiol”.

“Roedd yn achlysur emosiynol iawn, yn enwedig pan gododd y gynulleidfa i’w traed yr eildro. Ond wedi i mi gyfarch fy nheulu, fe wnes i ymlacio ychydig a mwynhau’r seremoni. Roedd yr Eisteddfod a’r Orsedd wedi gwneud popeth posibl i wneud pethau’n rhwyddach,” meddai.

Derbyniodd Mr Hallam diagnosis o ganser yn ystod wythnos yr Eisteddfod y llynedd, ac am fisoedd wedyn nid oedd yn gallu ysgrifennu dim byd yn Gymraeg.

“Dwi’n teimlo’n hapus, yn falch mod i wedi cystadlu – doeddwn ddim yn siŵr a ddylwn gyflwyno’r awdl ai peidio. Dwi wedi bod yn eithaf cymysglyd am y peth gan fod cynnwys yr awdl yn ddirdynnol, ond mae heddiw’n teimlo fel dathliad.

“Mae ennill y Gadair neu’r Goron yn gamp, ac o glywed ei bod yn gystadleuaeth gref, dwi’n teimlo’n hynod ffodus mod i wedi ennill, a dweud y gwir,” meddai.

Penderfynodd gystadlu am Gadair yr Eisteddfod, gan ddweud mai cefnogaeth ei deulu a’i feddygon a’i galluogodd i wneud hynny.

“Dwi’n credu fod ysgrifennu’n gallu bod o gymorth mawr i bobl, ac yn bersonol roeddwn i eisiau ysgrifennu’n syth ar ôl y diagnosis – ond roeddwn i’n methu. Dwi’n meddwl mod i mewn stad o sioc, ac wedyn ym mis Ionawr, ar ôl cael y newyddion drwg fod y driniaeth a oedd i fod i brynu amser imi ddim wedi gweithio, yn sydyn daeth y geiriau’n llifo ohonof. Nawr dwi’n falch mod i wedi creu rhywbeth cadarnhaol allan o sefyllfa anodd iawn.”

Clywodd y gynulleidfa yn y Pafiliwn fod 15 wedi cystadlu eleni – y nifer uchaf ers 1989 – a dywedodd y beirniaid mai cystadleuaeth “anghyffredin o gref” ydoedd.

“Mae gwybod ei bod wedi bod yn gystadleuaeth gref, a gallai’r Gadair fod wedi’i hennill gan sawl bardd, yn rhoi cysur,” meddai.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un mesur traddodiadol ar y testun ‘Dinas’.

Yn ei feirniadaeth, dywedodd Peredur Lynch, “Fe’m twyllwyd yn llwyr gan gywydd agoriadol yr awdl hon, a chredaf mai dyna oedd y bwriad.

“Yr ydym yng nghwmni tîm pêl-droed o ferched ysgol o Sir Gaerfyrddin, a’u hyfforddwr yw’r bardd.

“Mae’r merched o’r gorllewin newydd gael eu curo gan dîm o Gaerdydd – o bob man! – mewn ffeinal cwpan.

“Wrth ddarllen yr agoriad hwyliog hwn i’r awdl am y tro cyntaf, rhaid cyfaddef mai fy ymateb greddfol oedd: ‘Difyr iawn, ond mae angen mwy na chywydd ysgafn fel hwn i ennill Cadair y Genedlaethol’.”

“Ac yna, mewn amrantiad, derbyniais ddyrn egr ym mhwll fy stumog – y llinell ‘Chwe mis? Deg mis? ’Chydig mwy?’

“Heb unrhyw baratoad, fe’n gwysiwyd fel darllenwyr gan y bardd o ganol cae pêl-droed i Ysbyty Glangwili, lle mae’n derbyn diagnosis o ganser yr asgwrn a chanser ymledol yn yr iau. Fe’m twyllwyd – a thwyllwr yw bywyd. Ar gae pêl-droed llawn her a brafado un diwrnod; ein byd â’i ben i waered y diwrnod nesaf.”

Eglurodd y bardd ei fod yn hyfforddwr ar dîm pêl-droed merched yn Sir Gaerfyrddin, a’u nod yw ennill pob gêm – yn arbennig yn erbyn timau o’r dinasoedd – felly roedd yn naturiol iddo gychwyn ei gerdd gyda’r tîm.

Mae Tudur Hallam yn byw gyda’i wraig, Nia, a’u plant Garan, Bedo ac Edwy yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd yr Eisteddfod fod Tudur Hallam eisiau diolch i’w deulu a’i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth – yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.