29 Hyd 2025

Rydyn ni'n gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ddylunwyr ac artistiaid LHDTC+ i greu logo newydd ar gyfer Mas ar y Maes

Lansiwyd Mas ar y Maes yn 2018 fel rhaglen i hybu cyfraniad pobl LHDTC+ i'r Eisteddfod Genedlaethol, ac erbyn hyn mae'n bryd i'r prosiect esblygu er mwyn adlewyrchu'r newid mawr sydd wedi bod yn y byd LHDTC+ yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld sêr o Gymru ar RuPaul's Drag Race UK, cynllun gweithredu LHDTC+ gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â llwyth o ddigwyddiadau Pride ar draws y wlad, ac rydyn ni am greu delwedd newydd sbon ar gyfer Mas ar y Maes i ddathlu hyn oll.

Rydyn ni'n gwahodd dylunwyr ac artistiaid LHDTC+ i gyflwyno datganiad o ddiddordeb am y cyfle i greu logo newydd Mas ar y Maes. Mae angen i'r gwaith celf newydd gynrychioli'r gymuned LHDTC+, y Gymraeg a Chymru, ond rydyn ni'n agored i ba bynnag ddehongliad artistig sy'n berthnasol i'ch celfyddyd artistig.

Mae hwn yn gyfle wedi'i dalu, gyda'r ffi i'w chadarnhau. Cysylltwch â gwyb@eisteddfod.cymru am fanylion pellach.

Dyddiad cau i ddatgan diddordeb: 20 Tachwedd 2025