Bydd cerddoriaeth, barddoniaeth a thân yn dod ag Eisteddfod Genedlaethol 2023 yn Llŷn ac Eifionydd i uchafbwynt dramatig ac ysblennydd
Dywedodd y trefnwyr bydd Tân yn Llŷn yn osodiad cerfluniol sy’n tyfu yn ystod yr Eisteddfod ac yn cyrraedd uchafbwynt mewn golygfa danllyd ar ddiwedd yr Ŵyl.
Thema Tân yn Llŷn yw heddwch a’r ffaith fod ymladd, os mai dyna’r gair iawn, yn parhau dros heddwch hyd heddiw. Mae'n canolbwyntio ar ddigwyddiadau dadleuol yn un o ganolfannau'r Awyrlu Brenhinol yn 1936 a Phererindod Heddwch y Merched ddegawd ynghynt.
Gan weithio gyda’r cynhyrchydd Zoe Munn, Circus Cimera a cherddorion a beirdd sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn Llŷn ac Eifionydd, mae Mandy Dike a Ben Rigby, o gwmni And Now: yn Waunfawr ger Caernarfon, wedi bod yn cynllunio’r olygfa awyr agored syfrdanol ers dechrau’r flwyddyn.
Fe’i hysbrydolwyd yn rhannol gan ddigwyddiadau Medi 1936 pan wnaeth Saunders Lewis, David John (DJ) Williams a Lewis Valentine eu ffordd i ysgol fomio’r Awyrlu a oedd newydd ei chomisiynu ym Mhenyberth ger Pwllheli.
Roedd cyhoeddiad y Weinyddiaeth Awyr yn y 1930au ei bod yn bwriadu adeiladu maes awyr ar dir fferm ym Mhenrhos yn cael ei groesawu gan rai fel cyfle cyflogaeth ond roedd yn sarhad i eraill, yn enwedig Cenedlaetholwyr heddychlon.
Dysgwyd egwyddorion bomio a gwnïo i awyrenwyr ym Mhenrhos ac ar ôl wythnosau o gyfarwyddyd ymarferol rhoddodd myfyrwyr y ddamcaniaeth ar waith yn y maes arfau byw ym Mhorth Neigwl.
Rhoddodd y tri dyn nifer o adeiladau ar dân ac yna fynd ar eu hunion i orsaf heddlu Pwllheli. Dywedir bod Saunders Lewis wedi dweud wrth arolygydd yr heddlu: “Roedd yn dân gogoneddus: nid oedd angen goleuadau arnom.”
Cyhuddwyd y tri o achosi difrod o dan Ddeddf Difrod Maleisus 1861 a chawsant eu carcharu yn ddiweddarach yn dilyn achos dadleuol yn yr Old Bailey yn Llundain. Wrth gael eu rhyddhau cawsant eu cyfarch fel arwyr gan 15,000 o bobl mewn rali yng Nghaernarfon.
Mae Tân yn Llŷn hefyd yn coffau Pererindod Heddwch y Merched a gynhaliwyd ym mis Mai a Mehefin 1926.
Ymgasglodd dwy fil o ferched o ardal Penygroes yn y dref ar 27 Mai. Dan arweiniad yr ymgyrchwyr heddwch Gwladys Thoday a Silyn Roberts fe orymdeithiwyd i Gaer. Byddai 28 ohonynt yn parhau i orymdeithio a chymryd rhan mewn gwrthdystiad cenedlaethol yn Hyde Park, Llundain, ar 19 Mehefin. Roedd llawer o'r merched yn cario baner las heddwch.
Dywedodd Mandy, sydd wedi bod yn gweithio ar osodiadau celf tanllyd ers dros 30 mlynedd, y bydd Tân yn Llŷn yn nodwedd o Faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos.
"Gan ddefnyddio Tân yn Llŷn fel sbring-fwrdd, byddwn yn cael ein hysbrydoli gan themâu megis trawsnewid a heddwch. Bydd y gosodiad cerflun yn cael ei greu o ddeunyddiau lleol. Un elfen fydd creu crawia, neu ffens lechen, a bydd ymwelwyr yn gallu ysgrifennu negeseuon arnynt, gan rannu meddyliau am yr hyn sy’n eu magu a’u hysbrydoli nhw.
"Fel hyn bydd pawb yn yr Eisteddfod yn cael y cyfle i fod yn berchen ar y strwythur a bod yn rhan o'r diweddglo ei hun."
Wedi'i ariannu gan grant gan Gyngor y Celfyddydau dywedodd Mandy bydd Tân yn Llŷn yn cychwyn gyda'r nos ar y dydd Sadwrn agoriadol.
"Bydd gorymdaith fer o amgylch y Maes i'r gosodiad ei hun. Bydd hon yn seremoni fyfyriol ac yn canolbwyntio ar amcanion y gosodiad sef portreadu heddwch.
“Ar noson olaf yr Eisteddfod bydd gorymdaith o amgylch y Maes gan arwain y dorf i ofod Tân yn Llŷn, gyda cherddoriaeth yn creu crescendo gweledol cyfoes a chyffrous.
“Bydd yr elfennau hyn yn dod at ei gilydd i greu digwyddiad sy’n gwthio ffiniau golygfeydd gan greu sioe newydd syfrdanol a rhyfeddol fel diweddglo bythgofiadwy i’r Eisteddfod.”
Mae Mandy wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r cerddor Sam Humphreys, aelod allweddol o’r grwp gwerin Calan, y bardd Iestyn Tyne a’r gantores ac actor Mirain Fflur ac eraill.
"Rydym yn gwrthgyferbynnu ac yn cyfuno'r hen a'r newydd i brofi grym lleisiau Cymreig yn erbyn cefndir cyffrous o fflamau cerfluniol. Bydd creu ac adeiladu'r cerflun yn olygfa ynddo'i hun, ac yn gyfle i'r rhai sy'n ymweld â'r Maes ei wylio'n esblygu wrth i'r Eisteddfod ddatblygu o'i chwmpas.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae Tân yn Llŷn yn adeiladu ar lwyddiant Dadeni, a lwyfannwyd yn Eisteddfod Ceredigion y llynedd, a Charnifal y Môr a berfformiwyd yn Eisteddfod Caerdydd 2018.
“Gall gwyliau ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli, ac mae pobl Llŷn ac Eifionydd ar dân i greu’r Eisteddfod orau eto.
“Mae’r gynulleidfa’n disgwyl yr annisgwyl a thrwy weithio gydag artistiaid o safon fyd-eang a thimau profiadol o griwiau a thechnegwyr, rydyn ni’n anelu’n uchel at greu digwyddiadau a fydd yn ysbrydoli, yn swyno ac yn rhyfeddu, gan greu gŵyl hygyrch, gynhwysol sy’n symbol o’r Gymru newydd gyda’r Gymraeg yn ganolog i’r cyfan," meddai.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan o 5-12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.