Merch mewn siaced hi-vis felen yn helpu ymwelydd mewn tyrfa ac yn pwyntio at rywbeth. Criw o bobl yn y cefndir

Rydyn ni’n cynnig nifer fawr o gyfleoedd gwirfoddoli o bob math drwy gydol y flwyddyn, o helpu yn eich cymuned i lywio datblygiad a dyfodol y sefydliad ar lefel genedlaethol.

Mae nifer fawr o’n cyfleoedd ni’n ymwneud ag wythnos yr Eisteddfod, ac un o’n cyfleoedd mwyaf poblogaidd yw stiwardio. Ein stiwardiaid yw asgwrn cefn yr ŵyl – yr wynebau cyfeillgar cyntaf mae ymwelwyr yn eu gweld wrth gyrraedd y Maes ac sy’n barod eu cyngor a’u cymorth os oes unrhyw beth yn codi. Cliciwch ar y bocs ‘Rydw i eisiau stiwardio’ er mwyn darllen mwy am y rôl a chofrestru eleni.

Bydd amryw o gyfleoedd gwirfoddoli eraill ar gael yn ystod yr wythnos a byddwn yn hysbysebu’r rhain wrth iddyn nhw godi.  Cliciwch ar y bocs ‘Rydw i eisiau helpu ar y Maes’ er mwyn gweld beth sydd ar gael. 

Rydyn ni’n gweithio ar ddwy os nad tair Eisteddfod ar hyd y flwyddyn ac mae ein gwaith yn lleol yn cael ei lywio gan bwyllgorau a thimau o wirfoddolwyr. Hoffech chi ymuno â’r tîm? Mae croeso mawr i bawb, beth bynnag yw eich diddordeb. Cliciwch ar y blwch ‘Rydw i eisiau helpu’n lleol’ am ragor o wybodaeth. Gall hwn fynd â chi at wybodaeth am un o eisteddfodau'r dyfodol yn hytrach nag eleni.

Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn i bawb, ac yn cynnig cefnogaeth i bob un o'r tîm yn ystod yr wythnos ei hun. 

Eleni am y tro cyntaf, mae'r hyfforddiant yn cynnwys sesiynau wyneb-yn-wyneb cyn yr Eisteddfod, ynghyd â modiwlau hyfforddi ar-lein fel eich bod chi'n teimlo'n gwbl hyderus a hapus cyn dod i wirfoddoli gyda ni.

Eisiau sgwrs anffurfiol am y cyfrifoldebau a'r profiad yn ystod yr wythnos neu yn y gymuned?  Cysylltwch â’n cydlynydd gwirfoddoli ni, Morys Gruffydd. 

Meddwl cynnig eich enw i ymuno â’n Cyngor neu Fwrdd Ymddiriedolwyr?  Ebostiwch am ragor o fanylion a sgwrs.

Dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni.  Mae gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg!  

Heb ddefnyddio Cymraeg ers peth amser?  Dewch i wirfoddoli!  Mae'n gyfle ardderchog i ail-afael yn eich Cymraeg!

Cliciwch ar y bocs sy’n mynd â’ch bryd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich cael yn aelod o’r tîm yn fuan.