Brwydr Y Bandiau 2023
26 Gorff 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi'r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni.

Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall”. Mae’n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel - Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles.

Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ac yn un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i greu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd.” Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop, ond dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni!”

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae’n hoff o “arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae’n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…” Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, “ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth].”

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.” Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae.

Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

Roedd y gystadleuaeth yn un anhygoel eleni, a’r beirniaid wedi cael tasg anodd iawn yn dewis y pedwar uchaf. Dywedodd Marged Gwenllian sy’n fasydd yn Y Cledrau a Ciwb, “Roedd safon eleni’n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau’n anodd i ni, ond roedd hi’n benbleth hyfryd i’w chael.”

Dywedodd Siôn Land drymiwr y band Alffa ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017, “Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt! Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysa ni’m yn lle ‘da ni rŵan.”

Mae’r pedwar artist wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain ac mae’r perfformiadau i’w gweld draw ar YouTube Maes B.

Cynhelir rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 9 Awst rhwng 15:30 a 17:50.