27 Gorff 2023

Mae’r rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth newydd Brwydr y Bandiau Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru wedi’i chyhoeddi ar raglen Aled Hughes heddiw

Mae hon yn gystadleuaeth newydd sbon sydd wedi’i chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni, a’r bwriad yw dilyn esiampl llwyddiant cystadleuaeth Brwydr y Bandiau drwy greu cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin, sy’n cynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau’r sin werin ar gyfer y dyfodol.  Y beirniaid eleni yw Lleuwen Steffan a Gwilym Bowen Rhys.

Mae pedwar o artistiaid neu fandiau wedi cyrraedd y rhestr fer eleni, Melda Lois, artist unigol sy’n wreiddiol o Gwm Croes, Penllyn, Lo-Fi Jones, deuawd y brodyr Liam a Siôn Rickard o Fachynlleth a Chaerdydd, Y Brodyr Magee, grŵp teuluol o ardal Ynys Môn a Rhiannon, sy’n artist unigol o Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i grwpiau neu unigolion gyda’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn pecyn datblygu proffesiynol sy’n cynnwys recordio a ffilmio dwy gân mewn set byw, ac mae un o ganeuon pob artist neu fand wedi’i gynnwys ar sianel YouTube yr Eisteddfod, ac mae’r rhain wedi’u rhyddhau heddiw wrth gyhoeddi’r rhestr fer.

Cynhelir y rownd derfynol yn y Tŷ Gwerin ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mawrth 8 Awst am 15:30.  Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £600 (£300, Clwb Gwerin y Castell, Cricieth, a £300 gan Hefina a Tomos, Tyddyn Cae, Boduan), ynghyd â sesiwn ar BBC Radio Cymru.