Geraint Jones o Drefor sy’n derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni
Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Dyn ei filltir sgwâr yw Geraint Jones, a’r filltir honno yw pentref Trefor, ac mae’r gymuned leol wedi elwa o’i ymroddiad, ei frwdfrydedd a’i egni ers dros hanner canrif. Yn ddi-os, mae ei ddylanwad a’i gefnogaeth ymarferol wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ei fro.
Mae’n debygol mai am ei gyfraniad aruthrol i Seindorf Trefor y mae Geraint yn fwyaf adnabyddus. Yn 1966, ail-sefydlodd Seindorf Trefor, ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, fe’i penodwyd yn arweinydd y band ym 1969. Mae’n parhau gyda’r gwaith hwn hyd heddiw, gyda’i gyfraniad i fyd bandiau pres gogledd orllewin Cymru yn enfawr. Bu hefyd yn athro offerynnau pres yn ardal Sir Gaernarfon, gan ysbrydoli plant a phobl ifanc y fro i fynd ati i roi tro ar ‘chwythu corn’.
Yn athro cynradd wrth ei brif alwedigaeth, bu’n dysgu yn Ysgol Cymerau cyn ei benodi’n bennaeth ar ei hen ysgol, Ysgol Trefor, lle bu’n gweithio tan iddo ymddeol yn gynnar. Ac yna, dyna newid byd yn llwyr gan dreulio deuddeng mlynedd yn cludo tapiau fideo pêl-droed o gyfandir Ewrop ar gyfer rhaglen Sgorio, S4C.
Mae’i gymuned wastad wedi cael blaenoriaeth gan Geraint, ac mae sicrhau bod digonedd o weithgareddau a digwyddiadau o bob math yn cael eu cynnal yn y Gymraeg wedi’i yrru dros y blynyddoedd. Yn 2006, sefydlwyd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, a bu’n Gadeirydd am ddwy flynedd, ac er pymtheng mlynedd, mae’n reolwr gwirfoddol ar y ganolfan.
Yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, mae’n parhau yn weithgar yn y maes ac yn gydlynydd addysg Cylch yr Iaith. Mae hefyd wrthi’n brysur yn paratoi cyfrol swmpus ar hanes pum mlynedd gyntaf y Gymdeithas.
Mae’i frwdfrydedd a’i gyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.
Dywed fod derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn anrhydedd mawr, “Rydw i’n ei hystyried yn fraint aruthrol derbyn y fedal fel gwerthfawrogiad o’m llafur. Mae’n fy ngwneud yn dra gostyngedig, coeliwch fi. Rydw i’n gobeithio y bydd y pethau y bûm yn ymwneud â hwy yn parhau ac yn ysbrydoli eraill i fyw a brwydro dros gadwraeth ein hiaith a’n hunaniaeth fel Cymry. Diolch o galon a phob dymuniad da i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.”
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Bydd Geraint Jones yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, am 14:20 dydd Llun 7 Awst.
Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch i www.eisteddfod.cymru.