Dewch i fwynhau cystadlu Cymraeg ar ei orau yn y Pafiliwn.
Mae rhai o’n cystadleuwyr yn enwog dros y byd erbyn hyn, ar ôl cychwyn eu taith ar lwyfan y Pafiliwn.
Mae croeso i chi fynd i mewn i weld a gwrando – mae’r drysau’n cael eu cau ar adegau yn ystod y dydd ond fe fydd ein gwirfoddolwyr wrth y drws yn eich gadael i mewn i'r Pafiliwn cyn gynted â phosibl.
Mae llawer iawn o grwpiau, corau, bandiau ac unigolion yn cystadlu eleni, felly mae’r rhaglen yn parhau gyda'r nos ar amryw o ddyddiau.
Mae’r nosweithiau cystadlu i gyd yn rhad ac am ddim, a chyda safon ein cystadlu mor uchel, cewch amser wrth eich bodd. Mae thema arbennig i bob noson:
- Nos Fawrth: cystadlaethau dawns
- Nos Fercher: cystadleuaeth y côr agored (adloniant)
- Nos Iau: cystadlaethau gwerin
- Nos Wener: cystadlaethau corawl
Angen ychydig o help i ddilyn y dydd yn y Pafiliwn? Ewch draw i'n canolfan gyfieithu o flaen y Pafiliwn - rydyn ni'n cynnig cyfieithu ar y pryd drwy gydol y dydd - ac mae sylwebaeth ein cyfieithwyr yn ddifyr iawn rhwng y cystadlaethau ac yn ystod y sermonïau!
Cynhelir seremonïau enwog yr Orsedd yn y Pafiliwn hefyd. Mae’r seremonïau’n gyfle i ni anrhydeddu beirdd a llenorion gorau ein gwlad mewn seremonïau lliwgar, unigryw a difyr.
Seremonïau’r Orsedd:
Y Coroni: dydd Llun 5 Awst am 16:00
Y Fedal Ryddiaith: dydd Mercher 7 Awst am 16:00
Y Cadeirio: dydd Gwener 9 Awst am 16:00
Os yw’r tywydd yn wael, cynhelir seremonïau urddo ac anrhydeddu aelodau newydd Gorsedd Cymru yn y Pafiliwn am 10:00, fore Llun a Gwener. Fe’u cynhelir yng Nghylch yr Orsedd wrth ymyl y brif fynedfa os yw’r tywydd yn braf.
Gallwch fynd i mewn i’r Pafiliwn gyda’ch tocyn Maes – does dim angen tocyn ychwanegol i fwynhau’r cystadlu. Ond – efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd i gael sedd yn un o’r seremonïau heb docyn Pafiliwn, gan y bydd yn llawn iawn ar gyfer y rhain – felly cofiwch gyrraedd yn gynnar.
Mae angen tocyn ychwanegol ar gyfer cyngerdd Nia Ben Aur nos Sadwrn (mae nos Lun wedi gwerthu allan) a’r Gymanfa Ganu nos Sul. Cliciwch yma i brynu tocyn.