Pedair - Mae 'Na Olau (Sain)
Pedair yw’r prosiect diweddaraf gan gasgliad o leisiau amlycaf canu gwerinol Cymru - Siân James, Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard a Meinir Gwilym. Yn plethu agweddau nodweddiadol o’u harddulliau unigol, maent eisoes wedi profi’u hunain fel un o grwpiau fwyaf poblogaidd Cymru. Ar eu halbwm cyntaf, Mae 'Na Olau, mae harmonïau peraidd yn plethu gydag offeryniaeth gynnil wrth i’r pedwarawd gwerin gyflwyno alawon traddodiadol a gwreiddiol. Gobaith, heb os, yw un o brif themâu’r record hon, gyda Pedair yn ein hatgoffa drwy’u caneuon tyner bod prydferthwch i’w gael ym mhob cornel o’n byd.