Arwydd Pentref Bwyd o flaen pabell wen ar y Maes dan awyr llwydaidd

Mae pob math o fwydydd a diodydd ar gael yn y Pentref Bwyd, gyda chynnyrch Cymreig o safon yn rhan hollbwysig o’r nod.  

Dewch i grwydro stondinau o bob math, gyda rhywbeth i blesio pawb. Opsiynau llysieuol a fegan ar gael. 

Mae digonedd o lefydd i eistedd ac ymlacio, gyda degau o fyrddau picnic wedi’u gosod yma, a llawer mwy o amgylch y Maes i gyd. 

Gallwch fwyta bwyd wedi’i brynu yma yn y Pentref neu ddod â phicnic.

Mae ein prif far wedi’i leoli yma hefyd, Bar Williams Parry, sydd ar agor tan yn hwyr bob noson.

Rhestr o arlwywyr a manylion am ddarpariaeth ar gyfer gofynion deietegol penodol i ddilyn.

 

Noddir y Pentref Bwyd gan: 

Logo cwmni Castell Howell, sy'n cynnwys castell, giat, iâr, coeden a gwrych