Arwydd coch mewn adeilad dros-dro gyda'r geiriau Y Lle Celf mewn priflythrennau gwyn

Rydyn ni wedi datblygu pentref o arddangoswyr a gweithgareddau o amgylch ein horiel gelf gyfoes, Y Lle Celf.

Dewch i grwydro’r stondinau mewn awyrgylch apelgar a braf. Bydd pob math o weithgareddau anffurfiol wedi’u trefnu yn y pentref a digonedd o gyfle i sgwrsio gyda’r artistiaid

Y Lle Celf yw oriel gelf genedlaethol yr Eisteddfod ar y Maes am wythnos bob blwyddyn. Arddangosfa agored, sy’n cynnwys gwaith gan artistiaid profiadol ac enwog ynghyd â gwaith gan artistiaid newydd sy’n cychwyn ar eu gyrfa yma yng Nghymru. 

Cyflwynir medal aur am gelfyddyd gain, medal aur am grefft a dylunio a medal aur am bensaernïaeth bob blwyddyn, ac mae’r gwaith buddugol i’w weld yn yr arddangosfa hon.  

Mae rhai o enillwyr y gorffennol yn enwau adnabyddus yma yng Nghymru, Bedwyr Williams, Elfyn Lewis a Ceri Richards yn rai o enillwyr y fedal aur am gelfyddyd gain; Ann Catrin Evans, Mari Thomas a Cefyn Burgess wedi ennill y fedal aur am grefft a dylunio.  

Gallwch chi hefyd fod yn rhan o un o wobrau Y Lle Celf, Gwobr Josef Herman, Dewis y Bobl.  Yn ystod yr wythnos, mae cyfle i chi bleidleisio dros eich hoff waith yn yr arddangosfa agored. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Y Lle Celf am 15.00 brynhawn Sadwrn.

 

Arddangoswyr

Ann Catrin Evans

Bronwen Gwillim / Lowri Davies / Llio James / Marian Haf / Vicky Jones

Celf Ruth Jên Art

Elin Mair: Janglerins

Gemwaith Neil Rayment Goldsmith's

Gemwaith Angela Evans

Gemwaith Elen Bowen

Gwaith~Llaw Crafts

Katie Victoria / Hannah Davies / Lima Lima

Serameg Olwen Thomas Ceramics

Siop y Grogg