Cymru, Daearyddiaeth, a Hanes Gwyddoniaeth
Darlith Flynyddol EG Bowen gyda'r Athro Iwan Morus a'r Athro Rhys Jones
Roedd Emrys George Bowen FRGS, FSA (28 Rhagfyr 1900 – 8 Tachwedd 1983) yn ddaearyddwr o fri rhyngwladol oedd â diddordeb arbennig yn naearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth gymdeithasol Cymru.
Traddodir y ddarlith flynyddol hon gan ymchwilydd disglair o’r Brifysgol lle y bu Bowen yn darlithio o’r 1920au hyd at ei farwolaeth yn 1983, sef Prifysgol Aberystwyth.
Deall 'Cenedlaetholdeb y Tlawd'
Ydi'r syniad o 'Genedlaetholdeb y Tlawd' yn un dilys? Sut mae statws economaidd rhanbarthau cymharol 'dlawd' yn dylanwadu ar strategaethau mudiadau cenedlaetholgar? Trafodir canfyddiadau prosiect IMAJINE arweiniwyd gan Brifysgol Aberystwyth am Gymru a Sardinia, gan Dr Catrin Wyn Edwards ac eraill, gyda Dr Elin Royles yn cadeirio.